Showing 318 results

Archival description
Papurau Eifion Wyn,
Print preview View:

Copïau o gerddi a gyfansoddwyd i EW,

Copïau llawysgrif a theipysgrif o gerddi a gyfansoddwyd i EW. 16 ff. Ff. 1-7: 'Ar gyflwyniad "Cap and Gown" i Eifion Wyn MA (Cymru)', gan W. Ross Hughes, Borth-y-gest, 10 Gorff. 1919. 2 gopi. Ff. 8-11: 'I Eifion Wyn (Bryd Swper yn "Arvonia" Porthmadog, nos Wener, 11-7-19, pan gyflwynwyd, ar ran ei gyfeillion ym Mhorthmadog a'r cylch, y wisg etc ofynol ar gyfer dydd ei raddio yn MA gan Brifysgol Cymru, 15-7-19)', gan 'T. J. Cynfi' [T. Cynfi Jones, 'Cynfi', Porthmadog]. 2 gopi. F. 12: Englyn 'Penblwydd Eifion Wyn', 2 Mai 1921. Dienw. Ff. 13-15: Englynion 'O graig hen yn grai ogoniant...', gan Tom Owen. F. 16: Englyn 'Y Prif-fardd Eifion Wyn, MA'. Dienw.

Copïau o gerddi gan wahanol awduron,

Copïau llawysgrif, teipysgrif a phrintiedig o gerddi, 1889-1926 a d.d., gan wahanol awduron fel a ganlyn. Fe'u rhestrir yn nhrefn yr wyddor yn ôl enw'r awdur. Teipysgrif oni nodir yn wahanol. 11 ff. F. 1: 'Peredur Wyn'. Pedwar englyn gan Richard Davies, Lerpwl [1908]. Llawysgrif. F. 2: 'Ty Tafarn (Naw Englyn unodl-union)', gan William Evans ('Wil Ifan o Fôn'). Cerdyn post wedi'i gyfeirio at EW (4 Mawrth 1921). Printiedig. Ff. 3-4: 'Childhood's Memories', gan R. S. Hughes, 18 Mawrth 1889. F. 5: 'Erfyniad ar ddechreu blwyddyn', gan R. J. Jones ('Tegfab'), Cornhill, Porthmadog, 1926. F. 6: 'Tymor Mebyd (Alaw: "Hen brocer bach gloyw fy nain")', gan R. J. Jones, Porthmadog, 'gynt o Brynteg'. F. 7: 'Un rhybudd mwy: rhydd gyfieithiad', gan yr Henadur W. J. Parry, CBE, 9 Rhag. 1923. F. 8: 'Lines suggested by St David's Day, March 1st, 1907', gan Thomas Jacob Thomas ('Sarnicol'). "Cyfarchiadau'r awdur T. J. Thomas. Ysgol Sir, Abertileri", ar waelod y tudalen. F. 9: 'Gwydderig', gan John Owen Williams ('Pedrog'). Toriad papur. Ff. 10-11: 'Peredur Wyn' ('C'lennig Peredur Wyn'), Calan 1908, gan Richard John Williams ('Tryfanwy'). Copïau llawysgrif a theipysgrif.

Copïau o emynau o waith EW,

Copïau llawysgrif, teipysgrif a phrintiedig o emynau o waith EW. Rhestrir hwy yn nhrefn yr wyddor yn ôl y llinell gyntaf. Pan gynhwysir y gerddoriaeth, nodir hynny mewn cromfachau; nodir hefyd unrhyw bennawd a fo i'r emyn neu'r dôn. 31 ff. F. 1: 'A chân y deuaf i Dy byrth' [y dôn 'Eirianedd' o waith W. H. Roberts]. Printiedig [Y Ddalen Gerddorol, rhif 3]. Ff. 2-3: 'Am hedd y nos, am oleu'r wawr' ['Mawr yw Dy ffyddlondeb']. Teipysgrif; toriad papur. F. 4: 'Am yr Ysgol Sul diolchwn' ("canwyd yr emyn ar dôn o waith J. C. McLean yng Nghymanfa'r Pavilion 1914"). Teipysgrif. Ff. 5-7: 'Ar hyd ffordd fy mhererindod' ['Dy wyneb a geisiaf'; y dôn 'Glaslyn' o waith William Griffith, Porthmadog]. Teipysgrif (2); printiedig. F. 8: 'Canmolaf yr Arglwydd goruchaf' ['A'i asgell y cysgoda Efe trosot']. Teipysgrif. Ff. 9-10: 'Efengyl tangnefedd, ehed dros y byd' ['Ar y ddaear tangnefedd'; y dôn 'Efengyl Tangnefedd' ('Gospel of Peace'), trefniant a chynghaneddiad Noah Williams, Llangollen]. Teipysgrif; printiedig. Ff. 11-12: 'Fry yn Dy nefoedd clyw ein cri' ['Cofiaf dy wyrthiau gynt. Par yn awr lwyddiant'; y dôn 'Eifion' o waith Thomas Hughes, New Ferry]. Teipysgrif; printiedig. F. 13: 'Fugail Da, er mwyn Dy enw' ['Efe a ddychwel fy enaid']. Teipysgrif. F. 14: 'Hoff yw canu am y Ceidwad' ('Emyn cenhadol'). Teipysgrif. F. 15: 'Hoffet ti fod o dy bechod yn rhydd?' ['Mae grym yn y gwaed'; cyfieithiad]. Teipysgrif. F. 16: 'Molwn Di, O Dduw ein tadau' ['Gweler dy waith tu ag at dy weision, a'th ogoniant tu ag at eu plant hwy']. Teipysgrif. F. 17: 'O Ddiddanydd yr addewid' ['Efe a'ch tywys']. Teipysgrif. Ff. 18-21: 'O Dduw ein tadau, ynot Ti' ['Cofiais y dyddiau gynt'; y dôn 'Peredur' o waith William Griffith, Porthmadog, 1917]. Teipysgrif (2); printiedig; llawysgrif [cerddoriaeth yn unig]. Ff. 22-3: 'O, dewch rai bychain, dewch at Fab y Dyn' ['Pwy fel Iesu?']. Teipysgrif. 2 gopi. F. 24: 'Os wyt yn flin o dan dy faich' ['Cymer galon, cyfod, y mae efe yn dy alw di']. Teipysgrif. F. 25: 'Pwy a'n dysg pa fodd i fyw?' ['Neb fel Iesu']. Teipysgrif. F. 26: 'Pwy yw hwn mor edifeiriol' ['Mwy na choncwerwyr']. Teipysgrif. F. 27: ''Rwy'n brysio bob dydd at derfyn fy ngyrfa' [y dôn o waith William Griffith, Portmadoc, 1916]. Llawysgrif [geiriau a cherddoriaeth]. F. 28: 'Ti fu'n croesi môr Tiberias' ['Cofio'r Morwyr: "A hwy a'i derbyniasant Ef i'r llong"']. Teipysgrif. F. 29: 'Ti gynt wrth fôr Tiberias' ['Ac yn y man Efe a'u galwodd hwynt']. Teipysgrif. F. 30: 'Un fendith dyro im' ['Un peth a ddeisyfais i']. Teipysgrif. F. 31: 'Ym mhell y crwydrais, O fy Nuw' ['Dyfod adre 'rwy (cyfieithiad o "Lord, I'm coming home")']. Teipysgrif.

Caneuon o waith EW,

Caneuon o waith EW, ynghyd â'r gerddoriaeth a gyfansoddwyd ar eu cyfer. Printiedig oni nodir yn wahanol. 18/1: 'Cwm Pennant'. Y gerddoriaeth gan Gutyn Mawrth, Bethesda. 18/2: 'Pa fodd y canwn' (anthem). Y gerddoriaeth gan W. Heber Evans, Treherbert. Llawysgrif; printiedig [2 gopi]. 18/3: 'Plant y Cedyrn'. Y gerddoriaeth gan W. T. David. 18/4: '"Yr Hufen Melyn" a "Caniad Pibau Morfudd": dwy o alawon gwerin, cyflwynedig i Gôr Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1921'. Y gerddoriaeth gan T. O. Hughes, Caernarfon. Llawysgrif ['Yr Hufen Melyn']; printiedig.

Emyn donau.

Emyn donau fel a ganlyn. 19/1: 'Aberhonddu'; 'Criccieth'. Gan Dorothy Owen. Llawysgrif [hen nodiant]. 19/2: 'Gweithwyr Bychain (Little Workers)' a 'Little Things (Pethau Bychain)'. Geiriau a cherddoriaeth [sol-ffa]. Ar y cefn ceir geiriau emyn dirwest 'Milwyr Dirwest ydym ni' gan "Hawen", ac emyn Saesneg 'I want to be like Jesus' i'w ganu ar y dôn 'Auld Lang Syne'. Llawysgrif. 19/3: 'Glasmor'. Gan W. H. Roberts. Geiriau Morgan Rhys. Printiedig [Y Ddalen Gerddorol, rhif 7]. 19/4: 'Bronwen'. Gan Tom Williams, Tonypandy. Geiriau Ceridwen Madog, Porthmadog. Printiedig.

Copïau o feirniadaethau EW ar gyfansoddiadau eisteddfodol,

Copïau llawysgrif a theipysgrif o feirniadaethau EW ar gyfansoddiadau eisteddfodol; ynghyd â phapurau perthnasol. 44 ff. Ff. 1-15: Pryddest y Goron. Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1915. Ff. 16-17: Englyn 'Y Pladurwr'. Blaenau Ffestiniog, 25 Rhag. 1924. Ff. 18-29: Morwrgerdd 'Galwad y Môr'. Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli, 1925 (ff. 18-24); ynghyd â chopi teipysgrif, â chywiriadau gan EW, o'r gerdd fuddugol gan "Yr Wylan Benddu" [Owen Ellis Roberts, 'Caerwyn'] (ff. 25-9). Ff. 30-2: 'Tri phennill priodol i agor Eisteddfod neu unrhyw gyfarfod gwladgarol'. Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli, 1925. Ff. 33-4: 'Chwe' phennill i Eisteddfod Nadolig yr Annibynwyr (cyfyngedig i rai heb ennill degswllt o'r blaen)', d.d. Ff. 35-6: 'Chwe' phennill coffa i'r diweddar Mr Morris Evans, Bryn Olew', d.d. Ff. 37-44: Rhestr ffugenwau ymgeiswyr cyfansoddi 'Tair Telyneg' (buddugol "Eco'r Creigiau" [y Parch. T. Eurig Davies]) a 'Dau Emyn' (neb yn fuddugol), Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli, 1925 (ff. 37-8); ynghyd â dau gopi teipysgrif o'r telynegion buddugol (ff. 39-43), a chopi teipysgrif o'r pennill buddugol 'Rheswm' gan "Lladmer" [y Parch. D. M. Williams, Worksop] yng nghystadleuaeth cyfansoddi 'Pedair llinell, gaeth neu rydd' yn yr un Eisteddfod (f. 44).

Nodiadau drafft beirniadaeth EW ar gynhyrchion eisteddfodol,

Llyfr nodiadau ['Science Homework Book' o eiddo Peredur Wyn Williams, Dosbarth IV, Ysgol Sir Portmadoc] yn cynnwys (ff. 1-13v) nodiadau drafft beirniadaeth EW ar gynhyrchion eisteddfodol fel a ganlyn: englyn 'Amlen'; awdl 'Edmwnd Prys'; telyneg 'Dyffryn Maentwrog'; a chân 'Trip yr Ysgol Sul'.

Pregethau Cymraeg yn llaw EW,

Llyfrau nodiadau ('The Globe Exercise Book') yn cynnwys pregethau Cymraeg yn llaw EW; ynghyd â dyfyniadau [?gan y Parch. W. S. Owen, 1976] o rai o'r pregethau uchod (rhif 29a).

Telynegion Maes a Môr,

'The Welsh Publishing Co., Ltd.', Caernarfon: gohebiaeth a chyfrifon yngl?n â chyhoeddi a gwerthu'r gyfrol Telynegion Maes a Môr (rhifau 216-30); ynghyd â llythyr, 24 Mai 1907, oddi wrth gwmni Hughes a'i Fab, Wrecsam (rhif 231), a dau lythyr, 30 Hyd. 1907 a 23 Chwef. 1908, at 'The Educational Publishing Co. Ltd., Merthyr' (rhifau 232-3).

Gradd MA,

Llythyrau a chardiau yn llongyfarch EW ar dderbyn gradd MA, er anrhydedd, gan Brifysgol Cymru, 1918.

Caniadau'r Allt,

Llythyrau oddi wrth Gyhoeddwyr yn cynnig telerau am argraffu cyfrol o gerddi EW [Caniadau'r Allt]; ynghyd â llythyr, 13 Chwef. 1923, oddi wrth EW at 'The Educational Publishing Co. Ltd.', Llundain, yn holi am y pris a gâi ganddynt am yr hawlfraint (rhif 248; copi teipysgrif).

Caniadau'r Allt ac O Drum i Draeth,

Gohebiaeth, 31 Hyd. 1926-15 Tach. 1932, ynglyn â chyhoeddi a gwerthu Caniadau'r Allt (1927) ac O Drum i Draeth (1929), gan mwyaf rhwng Harri Edwards, Porthmadog, neu Annie a Peredur Wyn Williams a 'Foyle's Welsh Depot', Llundain, ond yn cynnwys hefyd lythyr, 31 Hyd. 1926, oddi wrth Ernest Rhys at Mrs Annie Williams (rhif 283).

Results 21 to 40 of 318