- 22.
- File
Part of Llyfrau o lyfrgelloedd Syr O. M. Edwards a Syr Ifan ab Owen Edwards,
Detholiad o adolygiad O. M. Edwards o Caniadau Moelwyn (Cyfres 1) ar ddiwedd cyfrol John Gruffydd Hughes ('Moelwyn'), Caniadau, (Llanuwchllyn, 1893).

Llythyr dyddiedig 7 Tach. [19]11 o Caer Hirfryn, Edward St., Alltwen, Pontardawe oddi wrth yr awdur J. E. Morgan (Hirfryn) mewn copi o'i gyfrol Hanes Hen Frodorion Gellinudd (Abertawe, d.d.). Yn y llythyr mae'n holi am wybodaeth ieithegol ynglyn â'r ddau air 'Tragwyddoldeb' a 'Gwybodaeth'.
Part of Llyfrau o lyfrgelloedd Syr O. M. Edwards a Syr Ifan ab Owen Edwards,
Nodyn gan 'Morien y Gwyddon' (Owen Morgan) yn cyflwyno'i lyfr Guide to the Gorsedd or Round Table and the Order of the Garter (Cardiff, d.d., ?1899) i Syr O. M. Edwards.
Part of Llyfrau o lyfrgelloedd Syr O. M. Edwards a Syr Ifan ab Owen Edwards,
Llythyr dyddiedig 20 Rhag. 1926 o 21 New Road, Rhydaman, yng nghyfrol Nantlais (William Nantlais Williams), Murmuron Newydd [Rhydaman, 1926]. Y mae'n gofyn i'r derbynnydd roi sylw i'r gyfrol yn Cymru neu Cymru'r Plant. Cydnabod fod un gerdd wedi ymddangos yn Cymru. Cyfarchion tymhorol.
Part of Llyfrau o lyfrgelloedd Syr O. M. Edwards a Syr Ifan ab Owen Edwards,
Llythyr dyddiedig 5 Tach. [19]09 o Capel Seion, Glais, oddi wrth T. E. Nicholas mewn cyfrol o'i Salmau'r Werin (Ystalyfera, 1909). Y mae'n gofyn am sylw i'r gyfrol yn Cymru a nodi bod llawer ohonynt eisoes wedi ymddangos yn y cylchgrawn hwnnw. Yr awdur yn ceisio 'dysgu Llafur i siarad Cymraeg' yn Y Glais trwy adrodd rhai o'r cerddi iddynt.
Part of Llyfrau o lyfrgelloedd Syr O. M. Edwards a Syr Ifan ab Owen Edwards,
Llythyr (dim dyddiad) gan yr awdur Daniel Owen, 3 New St, yr Wyddgrug, mewn copi o'i nofel Rhys Lewis (Wyddgrug, 1885). Amgau copi Mr J. E. Lloyd gan ofyn ar i'r derbynnydd ei drosglwyddo iddo.
Part of Llyfrau o lyfrgelloedd Syr O. M. Edwards a Syr Ifan ab Owen Edwards,
Libreto gan O. M. Edwards i gerddoriaeth Joseph Parry mewn copi o'u gwaith Cambria - a cantata (Rhyl, d.d., ?1896). Perfformiwyd y gwaith am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno, 1896.
Part of Llyfrau o lyfrgelloedd Syr O. M. Edwards a Syr Ifan ab Owen Edwards,
Nodyn oddi wrth D. Rhys Phillips, 1910, mewn copi o'i Adroddiad Cymdeithas Lyfryddol Cymru, 1909 (Rhydychen) yn atgoffa O. M. Edwards fod ei danysgrifiad i'r Welsh Biographical Society am 1909 yn hwyr.
Part of Llyfrau o lyfrgelloedd Syr O. M. Edwards a Syr Ifan ab Owen Edwards,
Nodyn dyddiedig 5 Rhag. [19]16. Esboniad paham fod y gwaith yn ymddangos ar ganol cyfnod o ryfel mewn copi o D. Rhys Phillips, A Forgotten Welsh Historian - (William Davies, Cringell, Neath, 1756-1823) ... (Swansea, 1916) a gyflwynwyd i O. M. Edwards gan yr awdur.
Part of Llyfrau o lyfrgelloedd Syr O. M. Edwards a Syr Ifan ab Owen Edwards,
Llythyr oddi wrth D. Rhys Phillips at O. M. Edwards, dyddiedig 22 Hyd. 1908, o 78 Rhondda St, Abertawe. Gwahoddiad i ymuno â Chymdeithas Lyfryddol Cymru.
Part of Llyfrau o lyfrgelloedd Syr O. M. Edwards a Syr Ifan ab Owen Edwards,
Nodyn gan yr awdur T. Mardy Rees, 1906, mewn copi o'i lyfr Breezes from the Welsh Hills (Carnarvon, 1906) yn diolch am gael hysbysebu yn Cymru.
Part of Llyfrau o lyfrgelloedd Syr O. M. Edwards a Syr Ifan ab Owen Edwards,
Copi o Edward Thomas (gol.), The Poems of John Dyer (London, 1903), a gyhoeddwyd yn y gyfres The Welsh Library ac a olygwyd gan O. M. Edwards.
Part of Llyfrau o lyfrgelloedd Syr O. M. Edwards a Syr Ifan ab Owen Edwards,
Copi a gyflwynwyd i O. M. Edwards gan yr awdur John E. Thomas o'i gyfrol A geographical and Geological Description of Carnarvonshire (London, d.d.).
Part of Llyfrau o lyfrgelloedd Syr O. M. Edwards a Syr Ifan ab Owen Edwards,
Cyfrol yn gyflwynedig i 'Mr O. M. Edwards, MA, Prif Arolygydd Ysgolion Cymru, fel cydnabyddiaeth o'i wasanaeth amhrisiadwy i iaith a Llenyddiaeth ein gwlad ... ' sef T. J Williams, Hanes y Ddrama Gymreig (Bangor, 1915).
Llyfrau o lyfrgelloedd Syr O. M. Edwards a Syr Ifan ab Owen Edwards,
Llyfrau o lyfrgelloedd Syr Owen Morgan Edwards (1858-1920) a Syr Ifan ab Owen Edwards (1895-1970), [1867]-[1945], yn cynnwys llythyrau neu lofnodion yr awduron. Y mae'r mwyafrif ohonynt yn perthyn i O. M. Edwards.