Deunydd yn ymwneud â chyfeillion a chydnabod Waldo Williams, yn bennaf Benni ac Elsie Lewis, Llanwnda, Wdig, Sir Benfro, yn ogystal â'r Parchedig John Jenkins, Hwlffordd a'r Tad Pádraig Ó Fiannachta.
Deunydd amrywiol yn bennaf o natur wleidyddol, lenyddol, grefyddol neu gymdeithasol, yn eu plith:Llungopi o ffotograff o Glunderwen, Sir Benfro, tua throad neu ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif.Pamffledyn gan Harold Bing yn dwyn y teitl ...
Allbrint o gyfrifiad 1911 yn dangos manylion teulu Waldo Williams, a oedd ar y pryd yn byw yn Nhŷ Ysgol Prendergast, Hwlffordd, lle 'roedd John Edwal Williams, tad Waldo, yn brifathro. Mae'r cofnodion yn dangos fod y teulu bellach yn gyf...
Toriad papur newydd yn cynnwys ysgrif goffa y Parchedig John Jenkins, gweinidog Capel Bedyddwyr Hill Park, Hwlffordd, Sir Benfro, sef addoldy rhieni Waldo Williams pan oeddent yn byw yno yn ystod blynyddoedd cynharaf Waldo. 'Roedd John Jenki...
Amrywiol dorion papur newydd, yn bennaf o ddiddordeb gwleidyddol, llenyddol, lleol neu genedlaethol, gan gynnwys deunydd o'r papurau newydd sosialaidd y Labour Leader a'r British Weekly.
Llungopi o lythyr dyddiedig 29 Medi 1892 oddi wrth Mary Llewellyn at ei rhieni, Dafydd (Dafi) a Martha Williams, yn cynnwys hanes ei bywyd hi a'i gŵr Lewis yn Denver, Colorado, Unol Daleithiau, ynghyd â chyfeiriadau at aelodau teuluol.
Llungopi o lythyr, 2 Mehefin 1943, oddi wrth yr ysgolhaig Cymreig Syr Thomas Parry at Gwladys Llewellyn, Rhosaeron, Clunderwen yn holi ar ran ei frawd, Gruffudd Parry, ynglŷn â phrynu torch ar gyfer angladd Linda Williams (née Llewellyn), gwraig W...
Deunydd gan neu yn ymwneud â Mary Llewellyn (née Williams), chwaer John Edwal Williams, tad Waldo Williams, gan gynnwys llythyr oddi wrth Mary Llewellyn at ei rhieni, Dafydd (Dafi) a Martha Williams a cherdyn coffa Mary Llewellyn.
Cerdyn coffa ('In Memoriam') Mary Llewellyn, Denver, Colorado, Unol Daleithiau, a fu farw ychydig ddyddiau wedi genedigaeth ei merch, Gwladys Mary Llewellyn (gweler Gwladys Llewellyn dan bennawd Aelodau eraill teulu Waldo Williams).
Cardiau post wedi'u cyfeirio at Mary Williams (yn ddiweddarach Francis), fel a ganlyn:Cerdyn, di-ddyddiad, wedi'i lofnodi gan George W[illiam] Roome, a oedd yn gyd-fyfyriwr i John Edwal Williams, tad Mary, yn y Coleg Normal, Bangor (gwel...