Esbonio bwriad y papur wrth geisio codi arian i hyrwyddo ymweliad y Gyngres Geltaidd â Chaerdydd. Enw da Cymru oedd yn y fantol. Byddai'n sarhad ar Gymru a Chaerdydd yn enwedig, pe byddid yn methu codi ychydig gannoedd er mwyn croesawu'r Gyngres yn unol â dymuniad y Cymmrodorion. Llwyddwyd i roi cystal croeso i Dywysog Cymru beth amser yng nghynt, ni ellid peidio â cheisio cynorthwyo'r Gyngres hefyd. Mae'r papur yn addo rhoi adroddiadau teilwng. Cafwyd papurau diddorol iawn yng nghynhadledd Bangor, 1927. Maent yn falch o glywed bod W. J. Gruffydd am eu cynorthwyo. Tybed a all W. J. Gruffydd ynghyd ag ysgolheigion amlwg eraill fel J. E. Lloyd, Ifor Williams, Henry Lewis, Lloyd Jones, Fleure, etc., gynorthwyo i wneud y cyfan yn llwyddiant?.