D. Emrys Evans, C.P.G.C. Bangor,
- 290.
- File
- [19]36, Mai 15.
Part of Papurau W. J. Gruffydd
Cynghori iddo ymwrthod â'r swydd â gynigiwyd iddo gyda'r BBC. Mae ei ddoniau yn rhy werthfawr 'i'w gosod yn y fath bair'.
D. Emrys Evans, C.P.G.C. Bangor,
Part of Papurau W. J. Gruffydd
Cynghori iddo ymwrthod â'r swydd â gynigiwyd iddo gyda'r BBC. Mae ei ddoniau yn rhy werthfawr 'i'w gosod yn y fath bair'.
D. Owen Evans, Maidenhead, at Iorwerth C. Peate,
Part of Papurau W. J. Gruffydd
Yr oedd yn dymuno gweld Iorwerth C. Peate yn cael ei swydd yn ôl yn yr Amgueddfa am ddau reswm: 1) am iddo gael ei drin yn annheg a 2) byddai ei ymadawiad yn golled fawr i'r Amgueddfa. Llwyddwyd i gael digon o aelodau o'r Cyngor i gefnogi'r cais. Llwyddwyd i gael y Cyngor i aildrafod y mater. Y mae'n weddol hyderus y gwelir Iorwerth C. Peate yn ôl yn ei swydd cyn hir. Rhaid newid cyfansoddiad y Cyngor i osgoi digwyddiad tebyg yn y dyfodol ond gall hynny brofi'n fenter tymor hir. Copi teipysgrif.
E. Lewis Evans, Pontarddulais,
Part of Papurau W. J. Gruffydd
Mae'n ysgrifennu yngl?n â ffenestr goffa Morgan Llwyd. Yr oedd wedi ei chynllunio a'i chwblhau bron cyn bod neb ond Syr T. Carey Evans yn gwybod amdani. Yr oedd y lluniau ar y ffenestr 'yn ddim llai na thrychineb'. Llwyddwyd i newid y geiriau 'Patriot, Poet, Scholar, Soldier' a rhoddwyd 'Amser dyn yw ei gynhysgaeth' i mewn hefyd. Byddai'n well iddi gostio £20 arall nag ymddangos fel y mae.
Cyril Fox, Amgueddfa Genedlaethol Cymru,
Part of Papurau W. J. Gruffydd
Cafodd ei synnu o dderbyn llythyr W. J. Gruffydd. Nid oedd neb ar staff yr Amgueddfa yn gyfrifol am newid y manylyn lleiaf o gyfieithiad W. J. Gruffydd. Wedi ffônio yr argraffwyr William Lewis, cafwyd mai Cymro oedd y cysodwr a'i fod ef wedi cyfaddef mai ef a newidiodd y ffurf 'Edward' yn 'Iorwerth'. Y mae'n cydymdeimlo â W. J. Gruffydd am y diflastod a grewyd gan y mater.
[W. J. Gruffydd at Dr Cyril Fox, Amgueddfa Genedlaethol Cymru],
Part of Papurau W. J. Gruffydd
Mae'n diolch i Dr Fox am ei eglurhad sef mai'r argraffwyr, William Lewis Cyf., a oedd yn gyfrifol am y cywiriad. Hydera ei fod wedi achwyn yn erbyn y fath hyfdra. Copi teipysgrif.
Cyril Fox, Amgueddfa Genedlaethol Cymru,
Part of Papurau W. J. Gruffydd
Y mae'n amgau copi o lythyr a anfonodd at William Lewis Cyf., yr argraffwyr. Y mae'n pwysleisio na ddylai argraffwyr newid dim o'r hyn a ddanfonir atynt.
Part of Papurau W. J. Gruffydd
Y mae'n falch iawn fod W. J. Gruffydd yn bwriadu ymgymryd ag ysgrifennu cofiant O. M. Edwards. Fe wyr hi am rai defnyddiau yn y Llyfrgell Genedlaethol ar O. M. Edwards. Mae'n cynnig, fel cynfyfyriwr iddo, ei gynorthwyo mewn unrhyw fodd.
LL. Wyn Griffith, Berkhamsted,
Part of Papurau W. J. Gruffydd
Mae'n holi am gopi o ddarlith W. J. Gruffydd i'r Cymmrodorion gan fod rhifyn o'r Trafodion ar fin mynd i'r wasg. Hydera na fydd unrhyw dalfyrru ar y cyfraniad ac y bydd yn cynnwys y darn gwych ar ddiwylliant gwerin.
LL. Wyn Griffith, [Berkhamsted],
Part of Papurau W. J. Gruffydd
Ceisio rhagweld gweithgareddau mewn pwyllgor i'w gynnal yn Amwythig [yngl?n â dylifiad yr evacuees] o Loegr i gartrefi ac ysgolion Cymru a'u dylanwad andwyol ar yr iaith Gymraeg. Awgrymir codi'r argyfwng yn bwnc trafod ymhob capel a chael Undeb yr Athrawon i gynnal cyfarfod o'r rhieni ymhob pentref. Mae'n rhagweld y ddadl y gellid codi gwersylloedd i gartrefu'r Saeson ond petai'r llywodraeth yn cytuno fe gymerai flwyddyn i godi cytiau addas. Awgryma y dylid apelio am bum neu ddeg mil o bunnoedd fel y gallai Urdd [Gobaith Cymru] gyflogi ugeiniau o weithwyr a'u gyrru ar hyd ac ar led i roi mwy o addysg i'r plant Cymreig. Mae'n awgrymu bod W. J. Gruffydd fel cadeirydd y cyfarfod yn cyflwyno y syniad uchod i'r cyfarfod.
LL. Wyn Griffith, Berkhamsted,
Part of Papurau W. J. Gruffydd
Diolch am gymwynas W. J. Gruffydd yn bodloni adolygu llyfr. Nid oes neb ond ef yn gymwys gan fod Loomis yn rhy bell a'r post yn ansicr. Y mae'n gwella'n dda a gall wneud llawer o'i waith gartref ond bydd yn rhaid iddo ddychwelyd i'r ysbyty am ychydig. Y mae'n gofidio na fu iddo wneud dim yngl?n â chyfansoddiad yr Eisteddfod a'r siarter. Bu'n ymhél â'r P.A.Y.E. ers misoedd ac aeth hwnnw â'i amser i gyd.
J. Gwyn Griffiths, Pentre, Rhondda,
Part of Papurau W. J. Gruffydd
Mae'n amgau dwy soned ar gyfer Y Llenor ac yn diolch i W. J. Gruffydd am ei safiad yn ystod y flwyddyn gan gynnwys achos [Eisteddfod] Machynlleth.
Part of Papurau W. J. Gruffydd
Hysbysu bod cyfarfod o Adran Glasurol Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru i'w gynnal yn Eisteddfod Aberystwyth ar 6 Awst. Cylchlythyr teipiedig.
M. Gertrude Hartley (at Mr Thomas), Bangor,
Part of Papurau W. J. Gruffydd
Mae'n anfon cart achau yn dangos disgyniad ei theulu o linach Ellis Wynne o'r Lasynys. Hanesion teuluol.
Part of Papurau W. J. Gruffydd
Gwybodaeth am ddisgyniad y teulu Hartley oddi wrth Ellis Wynne.
Part of Papurau W. J. Gruffydd
Cysylltiad y teulu Hartley ag Ellis Wynne.
Part of Papurau W. J. Gruffydd
Y mae'n amgau cân 'Mab y Saer' ar gyfer Y Llenor. Mae'n diolch am Hen Atgofion ac am gerdd W. J. Gruffydd yn y rhifyn diweddaraf o'r Llenor. ['In Memoriam', cyf. XVI (1937), t. 7. Cyhoeddwyd 'Mab y Saer' yn yr un gyfrol, t. 70].
Part of Papurau W. J. Gruffydd
Part of Papurau W. J. Gruffydd
Llongyfarch W. J. Gruffydd ar ei araith yn yr Eisteddfod. Yr oedd yn dda ganddo ei glywed yn 'curo ar yr hen sylfeini'.
Part of Papurau W. J. Gruffydd
Daeth cofiant O. M. Edwards i law. Bu'n ei ddarllen mewn cadair yng ngolwg y môr ac anodd oedd ei roi heibio ar adeg prydau bwyd. Diolch am yr hyfrydwch a gafodd o ddarllen y llyfr.
Part of Papurau W. J. Gruffydd
Diolch am lythyr W. J. Gruffydd ac am gael gweld ei lythyr at Cynan. Mae'n sôn am drafodaeth ar ran o Gyfansoddiad yr Eisteddfod a fu'n achos colli tymer sef yr hyn a elwid yn 'Bond yr Orsedd'. Mae'n ymddiheuro am unrhyw ddiffyg a fu yn ystod y trafodaethau i ddeall ei gilydd.