Dangos 3783 canlyniad

Disgrifiad archifol
ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

4 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Adolygiadau,

Torion o'r wasg, 1978-2007, yn cynnwys adolygiadau o weithiau teledu, radio a llwyfan Meic Povey.

Adolygiadau,

Adolygiadau, [1948]-[1987], o'i weithiau a rhai a luniwyd ganddo ef o lyfrau gan eraill ar ffurf torion a theipysgrifau.

Adran Ymchwil i Astudiaethau Cymraeg

Copi llawysgrif o'r memorandwm a luniodd G. J. Williams, [c. 1950], ynglŷn â sefydlu Adran Ymchwil i Astudiaethau Cymraeg. Mae'r memorandwm, a oedd i'w drafod ym Mhwyllgor Iaith a Llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd y Brifysgol, yn cynnwys ei weledigaeth o'r modd y dylid hyrwyddo astudiaethau Cymraeg yn ail hanner yr ugeinfed ganrif. Ceir hefyd gopi teipysgrif o'r cyfieithiad Saesneg. Cyhoeddwyd y memorandwm yn Aneirin Lewis (gol.), Agweddau ar hanes dysg Gymraeg (Caerdydd, 1985).

Adroddiadau a llyfrau ysgol,

Adroddiadau, 1923-1928, a gyflwynwyd iddo tra'n ddisgybl yn Ysgol Sir Aberpennar, ynghyd â llyfrau nodiadau ysgol yn cynnwys geirfa Gymraeg a nodiadau ar Shakespeare. Ceir hefyd gardiau aelodaeth cymdeithasau yr oedd yn aelod ohonynt ym Mhrifysgol Caerdydd, 1929-1934.

Adroddiadau a thaflenni

Mae'r ffeil yn cynnwys adroddiadau, llyfrynnau, a thaflenni yn ymwneud yn bennaf â phynciau a oedd yn berthnasol i erthyglau Y Faner, 1986-1992.

Adroddiadau amrywiol,

  • NLW ex 2590.
  • ffeil
  • [1961]-[1977].

Nifer o benillion amrywiol mewn teipysgrif, gan gynnwys 'Tua Chaeo' gan Abiah Roderick (1898-1977), bardd gwerinol a digrifwr o Gwm Tawe, a luniodd y penillion (heb eu cyhoeddi) yn arbennig ar gyfer mam Mrs Elsa Davies, y rhoddwr.

Roderick, Abiah.

Adroddiadau ysgol,

Ei adroddiadau ysgol tra'n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg y Bala, 1927-1933, ynghyd ag adroddiad a dderbyniodd yn Ysgol y Cyngor, Llawrybetws, 1927.

Adroddiadau,

Adroddiad cyffredinol: 'America in retrospect', 1939, ar ei gyfnod fel myfyriwr (Commonwealth Fund Fellow), mewn teipysgrif gyda newidiadau yn ei law, ynghyd â 'An American University through the eyes of a Welshman', llythyr, 1943, oddi wrth yr Athro A. M. Witherspoon, Prifysgol Iâl a phapurau erail.

Witherspoon, Alexander Maclaren.

Adysgrifau

Llyfr nodiadau yn cynnwys adysgrif o F. H. Bradley, Ethical Studies (Llundain, 1876) ac un arall yn cynnwys adysgrif o Wilhelm Bousser, What is religion? (Llundain, 1907) yn yr un llaw, [1876]-[1920]. Ymddengys nad Crwys sydd wedi gwneud y gwaith copïo.

Canlyniadau 21 i 40 o 3783