Showing 247 results

Archival description
Only top-level descriptions file
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Pregethau,

  • NLW MS 16126B.
  • file
  • 1812-1819 /

Pregethau, 1812-1819, gan, ac yn llaw, y Parch. Joshua Watkins, gweinidog Penuel, Eglwys y Bedyddwyr, Caerfyrddin. Mae mynegai i'r pregethau ar ddechrau'r gyfrol. = Sermons, 1812-1819, by, and in the hand of, the Rev. Joshua Watkins, minister of Penuel Baptist Church, Carmarthen. An index to the sermons appears at the beginning of the volume.

Watkins, J. (Joshua) 1769 or 70-1841

Hanes tai Rhosgadfan,

  • NLW MS 17416D.
  • file
  • 1880.

Tabl, [dyfrnod 1872], gan 'Cadfan', yn dwyn y teitl 'Hanes Tai Rhosgadfan', a gyflwynwyd mewn cystadleuaeth mewn Eisteddfod y Plant, 17 Gorffennaf 1880 = A table, [watermark 1872], by 'Cadfan', bearing the title 'Hanes Tai Rhosgadfan', submitted in a competition in a children's eisteddfod, 17 July 1880.
Cynhwysa'r tabl enwau tai, ystyron yr enwau, enwau'r adeiladwyr, dyddiad codi'r adeilad, oedran y tŷ ym 1880, ac enw'r penteulu y flwyddyn honno = The table includes names of houses, the meanings of the names, the names of the builders, dates of construction, the age of the house in 1880, and the name of the head of the household in that year.

Unawdau, deuawdau ac emyn-donau ,

  • NLW MS 17409D.
  • file
  • 1909-1923 /

Cerddoriaeth sol-ffa a hen nodiant yn bennaf gan, neu a drefnwyd gan, ac yn llaw, y Parchedig W. E. Penllyn Jones, gan gynnwys unawdau, deuawdau, cytganau, emyn-donau ac emynau = Music, both sol-ffa and old notation, chiefly by, or arranged by, and in the hand of, the Reverend W. E. Penllyn Jones, and which includes solos, duets, choruses, hymn-tunes and hymns.
Ceir emyn-donau hefyd gan R[owland] H[uw] Pritchard (f. 43), James Leach (f. 82), Chester G. Allen (f. 104) ac eraill; emyn gan y Parchedig D[avid] Tecwyn Evans (f. 48); a chopi o gytgan, ynghyd â nodyn byr, yn llaw 'L. D. J.' sef Lewis Davies Jones ('Llew Tegid') (f. 60) = Also included are hymn tunes by R[owland] H[uw] Pritchard (f. 43), James Leach (f. 82), Chester G. Allen (f. 104) and others; a hymn by the Reverend D[avid] Tecwyn Evans (f. 48); and a copy of a chorus, together with a brief note, in the hand of 'L. D. J.' (Lewis Davies Jones ('Llew Tegid')) (f. 60).

Jones, W. E. (William Evans), 1854-1938.

Awdl 'Y Frenhines Victoria',

  • NLW MS 16619D.
  • file
  • 1887 /

Llawysgrif, 1887, yn llaw [John] Gaerwenydd Pritchard, o'i awdl 'Y Frenhines Victoria', a gynigwyd, gyda'r ffugenw 'Owain Tudur', ar gyfer cystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1887 yn Llundain. = Autograph manuscript, 1887, of [John] Gaerwenydd Pritchard's awdl 'Y Frenhines Victoria', entered under the pseudonym 'Owain Tudur' for the Chair competition at the 1887 National Eisteddfod in London.
Enillydd y gystadleuaeth oedd y Parch. R. A. Williams (Berw). = The winning entry was that of the Rev. R. A. Williams (Berw).

Pritchard, J. Gaerwenydd (John Gaerwenydd), 1837-1898.

Pregeth,

  • NLW MS 16191A.
  • file
  • 1842 /

Pregeth, 1842, ar Lyfr y Pregethwr 9.5 gan ac yn llaw 'Richard Hughes, Pendery' [y Parch. Richard Hughes, Rheithor Llanfallteg, sir Gaerfyrddin, mae'n debyg]. = An autograph sermon, 1842, on Ecclesiastes 9.5 by 'Richard Hughes, Pendery' [probably the Rev. Richard Hughes, Rector of Llanfallteg, Carmarthenshire].

Hughes, Richard, -1855.

Nodiadau ar hanes Bedyddwyr Clarbeston a Maenclochog,

  • NLW MS 16672D.
  • file
  • 1958 /

Nodiadau, [1958], gan Dr Thomas James Jenkin ar lyfr R. D. Hughes, Hanes Eglwys y Bedyddwyr, Carmel, Penfro, a'i Chefndir (Llandysul, [1935]), yn bennaf mewn perthynas â chapeli Carmel, Clarbeston, a Horeb, Maenclochog, a'u haelodau. = Notes, [1958], by Dr Thomas James Jenkin on R. D. Hughes, Hanes Eglwys y Bedyddwyr, Carmel, Penfro, a'i Chefndir (Llandysul, [1935]), mainly relating to the Baptist chapels of Carmel, Clarbeston, and Horeb, Maenclochog, and their members.
Mae'r llawysgrif hefyd yn cynnwys cyflythyr oddi wrth y rhoddwr, 3 Gorffennaf 1958 (f. ii), yn ogystal â llythyr ganddo, 31 Rhagfyr 1958, at B. G. Owens gyda nodiadau ar deulu Dr Jenkin mewn perthynas â'r llyfr Dringo'r mynydd... Hermon, Llanfyrnach, 1808-1958, gol. gan W. J. Gruffydd (Llandysul, [1958]) (f. i). = Also included is a covering letter from the donor, 3 July 1958 (f. ii), and also a letter from him, 31 December 1958, to B. G. Owens, containing notes on Dr Jenkin's family in relation to the book Dringo'r mynydd... Hermon, Llanfyrnach, 1808-1958, ed. by W. J. Gruffydd (Llandysul, [1958]) (f. i).

Jenkin, T. J. (Thomas James), 1885-1965.

Hanes yr achos ym Methania, Bethesda,

  • NLW MS 16575D.
  • file
  • 1936-1955 /

Nodiadau teipysgrif, 1936, 1951 a 1955, gan William R. Roberts, yn adrodd hanes Eglwys Annibynnol Bethania, Bethesda, sir Gaernarfon. = Typescript notes, 1936, 1951 and 1955, by William R. Roberts, relating the history of Bethania Independent Church in Bethesda, Caernarvonshire.
Ceir ynddynt hanes yr Eglwys o 1884 i 1936 (ff. 1-14), gydag ychwanegiadau ar gyfer 1936-1951 (ff. 15-19) a 1952-1954 (ff. 20-23), ynghyd â rhestr swyddogion (ff. 24-26). = They comprise a history of the Church from 1884 to 1936 (ff. 1-14), with additions for 1936-1951 (ff. 15-19) and 1952-1954 (ff. 20-23), together with a list of officials (ff. 24-26).

Roberts, W. R. (William R.), of Bethesda.

Sefydlu ysgol ddyddiol Llithfaen,

  • NLW MS 16477A.
  • file
  • [c. 1867] /

Llyfr nodiadau, [c. 1867], David Evan Davies, Llithfaen, sir Gaernarfon, yn cynnwys cofnodion pwyllgor ar gyfer sefydlu ysgol ddyddiol yn Llithfaen, Ebrill-Mai 1867 (ff. 1-3). = Notebook, [c. 1867], of David Evan Davies, Llithfaen, Caernarvonshire, containing minutes relating to the establishing of a day school at Llithfaen, April-May 1867 (ff. 1-3).
Ceir hefyd nodiadau pregethau, [c. 1867] (ff. 11-34), a thoriad papur newydd o gerdd 'Save the Children' gan Elfed (f. 19a). = The volume also contains sermon notes, [c. 1867] (ff. 11-34), and a newspaper cutting of 'Save the Children', a poem by H. Elvet Lewis (f. 19a).

Davies, David Evan, 1843-1914.

Dyddiadur Chile,

  • NLW MS 23912D.
  • file
  • [?1890au]

Copi yn llaw Watkin William Pritchard Williams, Nueva Imperial, Chile, [?1890au], o rannau o'i ddyddiaduron ar gyfer y blynyddoedd 1889 a 1891. = A transcript by Watkin William Pritchard Williams, Nueva Imperial, Chile, [?1890s], of parts of his diaries for the years 1889 and 1891.
Mae'r dyddiaduron yn cynnwys hanes, [2]-5 Rhagfyr 1889, taith ar fwrdd agerlong i Concepción, y brifddinas ranbarthol, i gyfarfod gyda swyddog mewnfudo (ff. 1-3 verso, 4 verso), a dyddiadur yn cofnodi bywyd bob dydd ar y fferm deuluol yn Nueva Imperial, 17 Awst-16 Hydref 1891 (ff. 5-16 verso). Ceir cyfieithiadau o'r dyddiaduron i'r Saesneg (heblaw am f. 11 recto-verso) yn Huw Watkin Williams, The Watkin Path to Patagonia (Castell-nedd, 2006), tt. 97-101, 105-119. Ceir nodiadau ynglŷn â Phatagonia mewn Sbaeneg, a hynnu mewn llaw wahanol, ar f. 4 (testun â'i wyneb i waered). = The diaries comprise an account, [2]-5 December 1889, of a trip on board a steamship to the regional capital, Concepción, to meet with the immigration supervisor (ff. 1-3 verso, 4 verso), and a diary detailing everyday life on the family farm at Nueva Imperial, 17 August-16 October 1891 (ff. 5-16 verso). English translations of the diaries (f. 11 recto-verso excepted) can be found in Huw Watkin Williams, The Watkin Path to Patagonia (Neath, 2006), pp. 97-101, 105-119. There are also notes on Patagonia in Spanish, and in a different hand, on f. 4 (inverted text).

Williams, W. W. P. (Watkin William Pritchard), 1832-1912

Cofnodion Pwyllgor Amddiffyn Llangyndeyrn,

  • NLW Facs 1000.
  • file
  • 2005.

Copi, wedi ei deipio gan y rhoddwr, 2005, o lyfr cofnodion cyfarfodydd, 1960-1965, Pwyllgor Amddiffyn Llangyndeyrn a Chwm Gwendraeth Fach.

Papurau'n ymwneud â Gwenallt,

  • NLW ex 2601.
  • file
  • [1948]-[1985].

Papurau, [1948]-[1985], yn ymwneud â'r llenor Gwenallt, gan gynnwys rhaglen deyrnged a gyflwynwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Lliw, 1980, y sgript gan Dafydd Rowlands [diweddar ŵr Mrs Margaret Rowlands].

Rowlands, Dafydd.

Dolgellau dirion,

  • NLW ex 2589.
  • file
  • 1939.

Sgript rhaglen radio a ddarlledwyd o Neuadd y Farchnad, Dolgellau, 9 Mehefin 1939.

Barddoniaeth David Davies (Ffatri Emlyn, Adpar),

  • NLW ex 2577.
  • file
  • [1892]-[1937] /

Cyfrol o farddoniaeth David Davies, tad yr artist John Elwyn a pherchennog ffatri wlân Emlyn yn Adpar, gan gynnwys cerddi a anfonodd i eisteddfodau lleol, [1892]-[1937].

Davies, David, 1871-1947.

Ryan a fi,

  • NLW ex 2645.
  • file
  • [2000x2009] /

Atgofion John P. Davies am ei blentyndod yn Nyffryn Aman gyda'r digrifwr a'r perfformiwr Ryan Davies, a'u cyfnod yn gwneud gwasanaeth milwrol yn y Llu Awyr, [2000x2009], ynghyd ag atgofion yr awdur o'i brofiadau yn gwasanaethu ym Mesopotamia, 1955-57.

Davies, John P.

Brawdoliaeth gyffredinol,

  • NLW ex 2638.
  • file
  • [?1897] /

Llyfr nodiadau, [?1897], yn cynnwys cerddi amrywiol, gan gynnwys enghraifft wych o gerdd hir yn nhraddodiad yr arwrgerdd yn dwyn y teitl 'Brawdoliaeth gyffredinol', o bosib gan William Davies, Bronheulwen, Llanidloes ['Brawdoliaeth gyffredinol' oedd testun yr awdl yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 1897].

Davies, William.

Papurau R. Leonard Hugh: Urdd Siarad Cymraeg,

  • NLW ex 2637.
  • file
  • 1950-1966.

Papurau, 1950-1966, gohebiaeth yn bennaf yn ymwneud ag Urdd Siarad Cymraeg, sef mudiad a sefydlwyd gan y Parch. Ddr R. Leonard Hugh ac eraill ym mis Mai 1947, ynghyd â llyfr nodiadau a chyfrifon a ddefnyddiwyd ym mhabell yr USC yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth, 1952 ac yn Y Rhyl, 1953.

Hugh, R. Leonard.

Ar gof a chadw 1964-2013,

  • NLW ex 2848.
  • file
  • 2013.

Cofnod o gyfarfod i ddathlu cyfraniadau Roy Saer a Robin Gwyndaf i fyd traddodiadau gwerin rhwng 1964 a 2013, a luniwyd gan Robin Gwyndaf, Amgueddfa Werin Cymru, 2 Tachwedd 2013, mewn teipysgrif.

Gwyndaf, Robin

Results 21 to 40 of 247