Showing 246 results

Archival description
Only top-level descriptions file Welsh
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Awdl 'Y Frenhines Victoria',

  • NLW MS 16619D.
  • file
  • 1887 /

Llawysgrif, 1887, yn llaw [John] Gaerwenydd Pritchard, o'i awdl 'Y Frenhines Victoria', a gynigwyd, gyda'r ffugenw 'Owain Tudur', ar gyfer cystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1887 yn Llundain. = Autograph manuscript, 1887, of [John] Gaerwenydd Pritchard's awdl 'Y Frenhines Victoria', entered under the pseudonym 'Owain Tudur' for the Chair competition at the 1887 National Eisteddfod in London.
Enillydd y gystadleuaeth oedd y Parch. R. A. Williams (Berw). = The winning entry was that of the Rev. R. A. Williams (Berw).

Pritchard, J. Gaerwenydd (John Gaerwenydd), 1837-1898.

Bardd y tri enw eto,

  • NLW ex 2485.
  • file
  • [1886]-[1923].

Teyrnged, [1886]-[1923], gan 'Deiniolfryn' i'r bardd 'Afaon Peris' a fu'n rhan o'r 'cload allan' yn Chwarel Donorwig yn Llanberis, 1885-86.

Hughes, William John, Deiniolfryn.

Barddoniaeth amrywiol,

  • NLW MS 16799D.
  • file
  • 1733-[1970].

Casgliad o farddoniaeth amrywiol, 1733-[1970], yn tarddu o nifer o ffynhonnellau, wedi eu derbyn rhwng 1910 a 1970 a'u hel gyda'u gilydd yn y Llyfrgell Genedlethol. = A collection of miscellaneous poetry, 1733-[1970], derived from various sources, accessioned between 1910 and 1970 and collected together at the National Library of Wales.

Barddoniaeth David Davies (Ffatri Emlyn, Adpar),

  • NLW ex 2577.
  • file
  • [1892]-[1937] /

Cyfrol o farddoniaeth David Davies, tad yr artist John Elwyn a pherchennog ffatri wlân Emlyn yn Adpar, gan gynnwys cerddi a anfonodd i eisteddfodau lleol, [1892]-[1937].

Davies, David, 1871-1947.

Barddoniaeth Derfelog,

  • NLW MS 16481C.
  • file
  • [1910au]-[1930au] /

Tua chant ac ugain o gerddi holograff, [1910au]-[1930au], gan Hugh Edwards (Derfelog), Manceinion, nifer ohonynt yn ymwneud ag ardal Llandderfel, sir Feirionnydd, neu ar bynciau crefyddol. = Some one hundred and twenty holograph poems, [1910s]-[1930s], by Hugh Edwards (Derfelog), Manchester, many relating to the Llandderfel area, Merionethshire, or on religious themes.
Ymddengys i rai o'r cerddi gael eu cyhoeddi yn newyddiadur wythnosol Y Seren (Bala); nid ydynt yn ymddangos yn ei gyfrolau Oriau Myfyr (Bala, [1898]) nac Oriau Anian (Bala, [c. 1900]). = Some of the poems were published in the weekly newspaper Y Seren (Bala); none appear in his Oriau Myfyr (Bala, [1898]) or Oriau Anian (Bala, [c. 1900]).

Derfelog, 1870?-1941.

Barddoniaeth Gymraeg a Saesneg,

  • NLW MS 23940A.
  • file
  • 1829-[1830au].

Cyfrol, 1829-[1830au], o bosib yn llaw un Richard Prichard, yn cynnwys copïau o farddoniaeth Gymraeg (ff. 1-6 verso) a Saesneg (ff. 18 verso-22 verso). = A volume, 1829-[1830s], possibly in the hand of one Richard Prichard, containing copies of poetry in Welsh (ff. 1-6 verso) and English (ff. 18 verso-22 verso).
Mae'r farddoniaeth Gymraeg yn cynnwys tua phedwar deg tri o benillion telyn, ynghyd ag un englyn (f. 1) a hwiangerdd (f. 6 recto-verso); maent yn hysbys o ffynnonellau llawysgrif a phrintiedig eraill heblaw am dri, y rhai sy'n cychwyn 'Gwyn y fyd na fai gyn [?hawsed]' (f. 5), 'Mae gan i gariad yn y Werddon' (f. 5 verso) a 'Dacw dy a dacw dalcen' (f. 6), sydd heb eu canfod. Mae'r farddoniaeth Saesneg yn cynnwys penillion a dernynnau eraill o gerddi gan nifer o feirdd, gan fwyaf o'r unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg, gan gynnwys Sir Charles Sedley (f. 22 verso), George Gascoigne (ff. 20 verso-21), Samuel Daniel (ff. 19 verso-20), Henry Willoughby (ff. 19 recto-verso) a Michael Drayton (f. 18 verso). = The Welsh poetry consists of some forty-three 'penillion telyn', along with a single englyn (f. 1) and a lullaby (ff. 6 recto-verso). These are known from other manuscript or printed sources with the exception of three, those beginning 'Gwyn y fyd na fai gyn [?hawsed]' (f. 5), 'Mae gan i gariad yn y Werddon' (f. 5 verso) and 'Dacw dy a dacw dalcen' (f. 6), which have not been traced. The English poetry consists of verses and fragments from the works of various poets, mostly of the sixteenth and seventeenth centuries, including Sir Charles Sedley (f. 22 verso), George Gascoigne (ff. 20 verso-21), Samuel Daniel (ff. 19 verso-20), Henry Willoughby (ff. 19 recto-verso) and Michael Drayton (f. 18 verso).

Bocs Pen-blwydd Arad Goch,

  • NLW ex 2746.
  • file
  • 2010.

Bocs Pen-blwydd Cwmni Theatr Arad Goch yn Ugain Oed. Bocs mawr lliwgar yn cynnwys deunyddiau amrywiol i ddathlu pen-blwydd Arad Goch yn 20 oed.

Cwmni Theatr Arad Goch.

Brawdoliaeth gyffredinol,

  • NLW ex 2638.
  • file
  • [?1897] /

Llyfr nodiadau, [?1897], yn cynnwys cerddi amrywiol, gan gynnwys enghraifft wych o gerdd hir yn nhraddodiad yr arwrgerdd yn dwyn y teitl 'Brawdoliaeth gyffredinol', o bosib gan William Davies, Bronheulwen, Llanidloes ['Brawdoliaeth gyffredinol' oedd testun yr awdl yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 1897].

Davies, William.

Bydd yn Wrol,

  • NLW ex 2827.
  • file
  • 1996 /

Sgript a sgript camera (ail ddrafft) y ffilm 'Bydd yn Wrol' gan John Owen, 1996, wedi ei chynhyrchu gan Terry Dyddgen-Jones, cynhyrchiad HTV ar gyfer S4C, ac a enwebwyd ar gyfer gwobr y ffilm deledu orau yng Ngŵyl Prix Europa TV Festival ym Merlin.

Owen, John, 1952-

Results 11 to 20 of 246