Dangos 950 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau W. J. Gruffydd Ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

E. Lewis Evans, Pontarddulais,

Mae'n ysgrifennu yngl?n â ffenestr goffa Morgan Llwyd. Yr oedd wedi ei chynllunio a'i chwblhau bron cyn bod neb ond Syr T. Carey Evans yn gwybod amdani. Yr oedd y lluniau ar y ffenestr 'yn ddim llai na thrychineb'. Llwyddwyd i newid y geiriau 'Patriot, Poet, Scholar, Soldier' a rhoddwyd 'Amser dyn yw ei gynhysgaeth' i mewn hefyd. Byddai'n well iddi gostio £20 arall nag ymddangos fel y mae.

Cyril Fox, Amgueddfa Genedlaethol Cymru,

Cafodd ei synnu o dderbyn llythyr W. J. Gruffydd. Nid oedd neb ar staff yr Amgueddfa yn gyfrifol am newid y manylyn lleiaf o gyfieithiad W. J. Gruffydd. Wedi ffônio yr argraffwyr William Lewis, cafwyd mai Cymro oedd y cysodwr a'i fod ef wedi cyfaddef mai ef a newidiodd y ffurf 'Edward' yn 'Iorwerth'. Y mae'n cydymdeimlo â W. J. Gruffydd am y diflastod a grewyd gan y mater.

Irene George, Aberystwyth,

Y mae'n falch iawn fod W. J. Gruffydd yn bwriadu ymgymryd ag ysgrifennu cofiant O. M. Edwards. Fe wyr hi am rai defnyddiau yn y Llyfrgell Genedlaethol ar O. M. Edwards. Mae'n cynnig, fel cynfyfyriwr iddo, ei gynorthwyo mewn unrhyw fodd.

LL. Wyn Griffith, Berkhamsted,

Mae'n holi am gopi o ddarlith W. J. Gruffydd i'r Cymmrodorion gan fod rhifyn o'r Trafodion ar fin mynd i'r wasg. Hydera na fydd unrhyw dalfyrru ar y cyfraniad ac y bydd yn cynnwys y darn gwych ar ddiwylliant gwerin.

LL. Wyn Griffith, [Berkhamsted],

Ceisio rhagweld gweithgareddau mewn pwyllgor i'w gynnal yn Amwythig [yngl?n â dylifiad yr evacuees] o Loegr i gartrefi ac ysgolion Cymru a'u dylanwad andwyol ar yr iaith Gymraeg. Awgrymir codi'r argyfwng yn bwnc trafod ymhob capel a chael Undeb yr Athrawon i gynnal cyfarfod o'r rhieni ymhob pentref. Mae'n rhagweld y ddadl y gellid codi gwersylloedd i gartrefu'r Saeson ond petai'r llywodraeth yn cytuno fe gymerai flwyddyn i godi cytiau addas. Awgryma y dylid apelio am bum neu ddeg mil o bunnoedd fel y gallai Urdd [Gobaith Cymru] gyflogi ugeiniau o weithwyr a'u gyrru ar hyd ac ar led i roi mwy o addysg i'r plant Cymreig. Mae'n awgrymu bod W. J. Gruffydd fel cadeirydd y cyfarfod yn cyflwyno y syniad uchod i'r cyfarfod.

LL. Wyn Griffith, Berkhamsted,

Diolch am gymwynas W. J. Gruffydd yn bodloni adolygu llyfr. Nid oes neb ond ef yn gymwys gan fod Loomis yn rhy bell a'r post yn ansicr. Y mae'n gwella'n dda a gall wneud llawer o'i waith gartref ond bydd yn rhaid iddo ddychwelyd i'r ysbyty am ychydig. Y mae'n gofidio na fu iddo wneud dim yngl?n â chyfansoddiad yr Eisteddfod a'r siarter. Bu'n ymhél â'r P.A.Y.E. ers misoedd ac aeth hwnnw â'i amser i gyd.

I. D. Hooson, Rhos, Wrecsam,

Y mae'n amgau cân 'Mab y Saer' ar gyfer Y Llenor. Mae'n diolch am Hen Atgofion ac am gerdd W. J. Gruffydd yn y rhifyn diweddaraf o'r Llenor. ['In Memoriam', cyf. XVI (1937), t. 7. Cyhoeddwyd 'Mab y Saer' yn yr un gyfrol, t. 70].

D. R. Hughes, Worthing,

Daeth cofiant O. M. Edwards i law. Bu'n ei ddarllen mewn cadair yng ngolwg y môr ac anodd oedd ei roi heibio ar adeg prydau bwyd. Diolch am yr hyfrydwch a gafodd o ddarllen y llyfr.

D. R. Hughes, Llundain, SW9,

Diolch am lythyr W. J. Gruffydd ac am gael gweld ei lythyr at Cynan. Mae'n sôn am drafodaeth ar ran o Gyfansoddiad yr Eisteddfod a fu'n achos colli tymer sef yr hyn a elwid yn 'Bond yr Orsedd'. Mae'n ymddiheuro am unrhyw ddiffyg a fu yn ystod y trafodaethau i ddeall ei gilydd.

D. R. Hughes, Hen Golwyn,

Mae'n anfon copi o apêl gan y Prifathro J. Morgan Jones ar ran Cynhadledd er Diogelu Diwylliant Cymru gyda'r un post. Disgwylir i'r swyddogion ei harwyddo a'i hanfon ymlaen at bawb y tybir y bydd iddynt gyfrannu.

D. R. Hughes, Hen Golwyn,

Mae'n ddrwg ganddo ddeall bod W. J. Gruffydd yn teimlo'n sâl. Gresyn ganddo hefyd yw methiant W. J. Gruffydd i gytuno â'i gydfeirniaid. Y mae D. R. Hughes yn awgrymu nodyn i'w argraffu yn y Cyfansoddiadau gan na allodd W. J. Gruffydd, oherwydd gwaeledd, lunio beirniadaeth.

Canlyniadau 21 i 40 o 950