Showing 210 results

Archival description
Papurau Waldo Williams
Print preview View:

Torion papur newydd

Amrywiol dorion papur newydd, yn bennaf o ddiddordeb gwleidyddol, llenyddol, lleol neu genedlaethol, gan gynnwys deunydd o'r papurau newydd sosialaidd y Labour Leader a'r British Weekly.

Waldo Williams

Deunydd gan neu'n ymwneud â Waldo Williams, gan gynnwys enghreifftiau gwreiddiol neu wedi'u llungopïo o'i farddoniaeth a'i ryddiaith (rhai ar ffurf drafft yn dangos datblygiad y broses gyfansoddi, gan gynnwys rhai enghreifftiau o'i ganu cynnar), ei nodiadau tra'n fyfyriwr yn y brifysgol ac, yn ddiweddarach, ar gyfer dysgu ysgolion haf a dosbarthiadau nos; gohebiaeth at ac oddi wrth Waldo Williams; a deunydd yn ymwneud â Waldo Williams, gan gynnwys peth o hanes ei ddyddiau ysgol, ei wrthodiad i dalu'r dreth incwm a'i ddedfryd a'i garchariad o ganlyniad i hynny, ysgrifau coffa a theyrngedau a luniwyd iddo yn dilyn ei farwolaeth a dathliadau canmlwyddiant ei eni.

Soned i Bedlar

Copi o rifyn Mawrth 1931 o bapur Y Ford Gron, sy'n cynnwys y gerdd Soned i Bedlar gan Waldo Williams; a thoriad papur newydd (yn bur debyg, rhifyn Mai 1932 o The Welsh Outlook) yn cynnwys cyfieithiad o'r gerdd gan Wil Ifan (y gweinidog Annibynnol, bardd a llenor William Evans (1883-1968)).

Tŷ Ddewi

Llyfr nodiadau yn cynnwys copi teg o'r awdl Tŷ Ddewi gan ac yn llaw Waldo Williams. Cyfansoddwyd yr awdl ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1936, ond bu'r cynnig yn aflwyddiannus.

Trafodaeth gan Jâms (James) Nicholas o'r awdl Tŷ Ddewi yn rhifyn 12 Hydref 1957 o bapur newydd Y Seren.

Cyrraedd yn Ôl

Toriad o rifyn 16 Ebrill 1941 o'r Faner, sy'n cynnwys cerdd gan Waldo Williams yn dwyn y teitl Cyrraedd yn Ôl (dan bennawd 'Led-Led Cymru'). Tros y ddalen (dan bennawd Y Golofn Farddol), ceir brawddeg o ganmoliaeth i'r gerdd.

Cân Bom

Copi llawysgrif a llungopi o'r gerdd Cân Bom gan Waldo Williams, y copi llawysgrif yn ei law. Ar du ôl y copi llawysgrif, ceir copi o'r gerdd Almaenes gan ac yn llaw Waldo Williams. Cyhoeddwyd Cân Bom am y tro cyntaf yn rhifyn 3 Ebrill 1946 o'r Faner.

Yr Heniaith

Toriad papur newydd yn cynnwys copi o'r gerdd Yr Heniaith gan Waldo Williams. Cyhoeddwyd y gerdd am y tro cyntaf yn rhifyn 20 Hydref 1948 o'r Faner.

Mewn Dau Gae

Copi llawaysgrif o'r gerdd Mewn Dau Gae gan ac yn llaw Waldo Williams. Cyhoeddwyd y gerdd am y tro cyntaf yn rhifyn 13 Mehefin 1956 o'r Faner.

Cywydd mawl i D. J. Williams

Copi llawysgrif teg o gywydd mawl i D. J. Williams gan ac yn llaw Waldo Williams. Lluniwyd y cywydd ar gyfer achlysur i anrhydeddu D. J. Williams yn ystod Ysgol Haf Plaid Cymru yn Abergwaun ym 1964.

The Old Farmhouse

Eitem o bapur newydd y Western Mail yn cynnwys rhan o gyfieithiad Waldo Williams o Hen Dŷ Ffarm (1953), cyfrol hunangofiannol y bardd a'r llenor D. J. Williams. Cyhoeddwyd y cyfieithiad dan y teitl The Old Farmhouse ym 1961.

Nodiadau eraill ar gyfer dosbarthiadau nos

Nodiadau gan ac yn llaw Waldo Williams, yn ôl pob tebyg wedi'u paratoi ar gyfer cyflwyno darlithoedd dosbarthiadau nos, y deunydd dan sylw yn ymdrin gan fwyaf â hanes Cymru, y gynghanedd a'r iaith Gymraeg.

Ysgol haf Aberystwyth

Llyfr nodiadau yn llaw Waldo Williams yn cynnwys nodiadau ar gyfer ei ysgol haf yn Aberystwyth, Gorffennaf 1958. Ar glawr y gyfrol ceir llofnod Dilys Williams ('A[ngharad] D[ilys] Williams'), chwaer Waldo, ynghyd â'r geiriau 'Cyrsiau' a 'March Amheirchion', eto yn llaw Dilys Williams.

Copïau teipysgrif o gerddi yn dwyn y teitlau 'March Amheirchion' a 'Swyddogion yn llys Hywel Dda'. Mae arysgrifau ar y dalennau yn llaw Dilys Williams, chwaer Waldo, yn datgan mai ffrwyth llafur aelodau ysgol haf Waldo Williams, a gynhaliwyd yn neuadd Pantycelyn, Prifysgol Cymru Aberystwyth yn y 1950au, yw'r cerddi.

Llyfr banc Waldo Williams

Llyfr banc o eiddo Waldo Williams, ac yn rhannol yn ei law, yn cynnwys manylion ei drafodion gyda Banc Barclays, 1934-1945. Mae'r sawl cyfeiriad cartref a arysgrifwyd o fewn y gyfrol yn dyst i symudiadau Waldo yn ystod y cyfnod hwn.

Seintiau Celtaidd

Llyfr nodiadau yn llaw Waldo Williams yn cynnwys nodiadau ar seintiau Celtaidd, enghreifftiau o linellau cynghanedd a bras nodiadau eraill.

Amserlenni bws, barddoniaeth a hanes Cymru

Llyfr nodiadau yn llaw Waldo Williams yn cynnwys yr hyn a ymddengys fel amserlenni bws, ynghyd â rhestrau o deitlau ac enwau yn ymwneud â barddoniaeth, llenyddiaeth a hanes Cymru, mesuriadau [?llenni] (gw. Llyfr nodiadau Linda a Waldo ), rhestr siopa, a bras nodiadau eraill.

Cynllun gwaith athrawon

Cynllun gwaith ar gyfer athrawon yn llaw Waldo Williams; ynghyd â chopi llawysgrif mewn llaw arall (ddiweddarach) o'r un nodiadau yn dwyn y teitl 'Scheme of Work'.

Llythyr oddi wrth Waldo Williams at Dilys Williams

Llungopi o lythyr, [1942], oddi wrth Waldo Williams at ei chwaer Dilys Williams. Crybwyllir yn y llythyr fod Waldo newydd gwblhau ei ddatganiad o wrthwynebiaeth cydwybodol i'r rhyfel ar gyfer ei achos yn y tribiwnlys ar 12 Chwefror 1942, a sonnir hefyd am bryderon Waldo ar ran ei wraig Linda (née Llewellyn), oedd yn poeni y byddai Waldo'n colli ei swydd (fel prifathro Ysgol Casmael, Sir Benfro) o ganlyniad i'w ddaliadau heddychol.

Results 21 to 40 of 210