Showing 39 results

Archival description
Archif Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Rhanbarth Morgannwg Gwent
Print preview View:

Lears; Halfords; Lloyds Chemist; Littlewoods; Lakeland; Laura Ashley; PC World; Panasonic; Partners; Peacocks

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1986-1999, rhwng Cymdeithas yr Iaith a nifer o siopau a storfeydd cenedlaethol yn trafod polisi iaith Gymraeg, yn cynnwys llythyrau (1995-1996), o’r Arglwydd Hooson. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys datganiad i’r wasg (1996); cofnodion cyfarfod (1990); a nifer o ffotograffau o arwyddion siop.

Woolworths; Londis; Marks & Spencer

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1984-1998, rhwng Cymdeithas yr Iaith a nifer o storfeydd cenedlaethol; nifer o Aelodau Senedd Cymraeg; nifer o aelodau Tŷ’r Arglwyddi; yr Aelod Seneddol Ewropeaidd, Wayne David; a Bwrdd yr Iaith Gymraeg, yn trafod gweithredu polisi iaith Gymraeg. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys copi o gylchlythyr Cymdeithas yr Iaith (1994); datganiadau i’r wasg (1994); a nifer o bosteri ymgyrch.

Teithio a Thrafnidiaeth

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, nodiadau, a phapurau, 1989-1999, yn ymwneud â pholisïau iaith cwmnïau a gwasanaethau trafnidiaeth amrywiol. Mae’r rhan fwyaf o’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth a nodiadau yn trafod polisi iaith Maes Awyr Caerdydd, yn cynnwys llythyrau oddi wrth sawl Aelod Seneddol Cymraeg; Aelodau Seneddol Ewropeaidd; Yr Arglwydd Prys-Davies; y cwmni TBI Airport Holdings; a gohebiaeth ar y mater yn gysylltiedig â’r papur Cymraeg Americanaidd, Ninnau. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys gohebiaeth a datganiadau i’r wasg yn ymwneud â pholisïau iaith sawl cwmni trafnidiaeth.

Office World; Richer Sounds; Safeway; Sainsburys; H. Samuel; Tesco; Specsavers; Superdrug; Sport & Soccer

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1989-2001, oddi wrth Gymdeithas yr Iaith yn trafod gweithredu polisi iaith Gymraeg mewn nifer o siopau lleol ac archfarchnadoedd. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys datganiadau i’r wasg (1993-1996); cofnodion cyfarfodydd (1990-1991); a nifer fach o daflenni.

Arwyddion Treganna

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth a deunydd printiedig, 1989-2007. Mae’r ohebiaeth rhwng Cymdeithas Yr Iaith, Cyngor Dinas Caerdydd, y Bwrdd Croeso Cymru, a nifer o westai lleol Caerdydd, yn trafod y defnydd o arwyddion dwyieithog yng Nghaerdydd. Mae’r deunydd printiedig yn ymwneud â gweithgareddau Cyngor Dinas Caerdydd, sy’n cynnwys rhestrau o gynghorwyr Dinas Caerdydd; manylion cyfarfod Gweithgor y Polisi Dwyieithog; copi o Gynllun Iaith Gymraeg Awdurdod Tân De Cymru; copi o Gyngor Dinas Caerdydd ‘Report 1991’; copi o’r ‘South Glamorgan Review’ (1989-1990); llawlyfrau Gwasanaethau Cymdeithas Tai; a thaflenni Canolfan Ymwelwyr Bae Caerdydd. Yn ychwanegol, mae’r ffeil yn cynnwys nifer fach o ffotograffau.

Results 21 to 39 of 39