Showing 67 results

Archival description
Papurau Islwyn Ffowc Elis
Print preview View:

Cysgod y Cryman

Mae'r ffeil yn cynnwys ugain llyfr nodiadau yn cynnwys y drafft llawysgrif cyntaf o'r nofel Cysgod y Cryman (1953). 'Lle oeda'r Cryman' yw teitl y nofel yn y tri llyfr nodiadau cyntaf, ond mae'r teitl yn newid i 'Cysgod y Cryman' yn y pedwerydd llyfr. Mae'r llyfrau wedi cael eu rhifo mewn trefn gan yr awdur.

Ffenestri Tua'r Gwyll

Mae'r ffeil yn cynnwys naw llyfr nodiadau yn cynnwys y drafft llawysgrif cyntaf o'r nofel Ffenestri Tua'r Gwyll (1955). 'Y Tŵr Ifori' yw teitl y nofel yn y llyfrau nodiadau. Mae'r llyfrau wedi cael eu rhifo mewn trefn gan yr awdur, 1-8, ac mae llyfr ychwanegol yn cynnwys nodiadau ar gynllun y nofel. Ceir hefyd broflenni o benodau 52 a 53, lle mae'r testun yn wahanol i'r fersiwn gyhoeddedig, a llythyr yn llaw'r awdur at y cyhoeddwr yn trafod cynnwys penodau olaf y nofel.

Barddoniaeth a chaneuon

Mae'r gyfres yn cynnwys llyfr barddoniaeth Islwyn Ffowc Elis tra roedd yn chweched dosbarth Ysgol Sir Llangollen. Mae'r cerddi mewn Cymraeg a Saesneg ac yn dyddio rhwng 1940 a 1942. Ceir hefyd 13 dalen rhydd yn cynnwys geiriau caneuon ac alawon mewn nodiant sol-ffa.

'Huws & Co.'

Mae'r ffeil yn cynnwys copi teipysgrif o ddrama gan Islwyn Ffowc Elis o'r enw 'Huws & Co.' a ddarlledwyd gan BBC Cymru ar 19eg Mehefin 1954. Mae'r dudalen glawr yn rhestri enwau'r actorion a'r cantorion.

Dramâu amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr nodiadau a nifer o ddalennau rhydd, yn cynnwys drafft llawysgrif o ddarnau o ddramâu o'r enw 'Doctor Wyn', 'Yr Anhygoel Huws' ac eraill di-deitl. Ceir hefyd feirniadaeth ar gystadleuaeth y bryddest yn Eisteddfod Trefeglwys, caneuon gyda nodiant sol-ffa, a nodiadau amrywiol eraill.

Sgriptiau radio

Mae'r ffeil yn cynnwys sgriptiau radio'r BBC, 1960-1963, a chopïau teipysgrif o sgyrsiau radio, erthyglau, a deunydd amrywiol.

'Cyn Oeri'r Gwaed'

Mae'r ffeil yn cynnwys drafftiau o ysgrifau a gyhoeddwyd yn Cyn Oeri'r Gwaed (1952), sef 'Sut i Yrru Modur', 'Dyn yw Dyn', 'Mynd i'r Lleuad', 'Pe Bawn i'n Wybedyn', 'Tai', a 'Cyn Mynd'. Ceir hefyd nodiadau ar bynciau crefyddol a gwleidyddol.

Drafftiau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys adroddiad ar sasiwn Unedig Aberystwyth ar gyfer Y Goleuad, geiriau'r gân 'Mae gen i long o arian', erthygl am Gymru, a beirniadaethau.

Erthyglau printiedig

Mae'r ffeil yn cynnwys erthyglau gan Islwyn Ffowc Elis, ar faterion Cristnogol a chenedlaetholaidd, a ymddangosodd yn y cylchgronau Y Wawr (Cangen Prifysgol Cymru Aberystwyth o'r Blaid Genedlaethol), Y Greal (Coleg Diwinyddol Aberystwyth), Yr Efrydydd (Mudiad Cristnogol y Myfyrwyr), Y Crynhoad, a'r Drysorfa (Methodistiaid Calfinaidd), 1949-1955, a dim dyddiad.

Plaid Cymru lctgm -- Meetings

Llythyrau Robin Williams

Mae'r ffeil yn cynnwys pum llythyr a deugain oddi wrth Robin Williams, cyfaill i Islwyn Ffowc Elis, a phum ffotograff o Islwyn Ffowc Elis, Robin Williams, Y Parch. Huw Jones (Bala) ac eraill. Mae'r awdur yn ysgrifennu llythyrau digrif ac yn defnyddio ffugenwau a chyfeiriadau dychmygol yn ei lythyrau.

Williams, Robin, 1924-

Gohebiaeth Gwasg Gomer, 1985-1987

Mae'r ffeil yn cynnwys wyth llythyr, yn bennaf gohebiaeth rhwng Islwyn Ffowc Elis a Gwasg Gomer. Ceir hefyd nodiant sol-ffa ar gyfer 'Awdl Goffa R.Williams Parry ar Pennant'.

Gomer Llandysul Printer

Papurau amrywiol

Llythyr printiedig, 1954, wrth iddo ffarwelio â’r eglwys yn Llanfair Caereinion, sgwrs am ‘Tegla’ ar gyfer Rhwng Gŵyl a Gwaith, 1980, ynghyd â manylion am ei yrfa a’i gyhoeddiadau, [1983] a llungopi o bapur bro Nene, Ebrill 2000, yn cofnodi 'Cinio llenyddol efo Islwyn Ffowc Elis'.

Erthyglau

Drafftiau o erthyglau ar gyfer cylchgronau, dyddiadur, 31 Rhagfyr 1965-7 Mawrth 1966, mewn teipysgrif, ynghyd â llythyr oddi wrth Gwynfor Evans, 1979.

Taflen briodas a phapurau eraill

Taflen briodas Eirlys Rees Owen a'r Parchedig Islwyn Foulkes Ellis, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Rhoslefain, Towyn, 28 Hydref 1950; llungopïau o bortreadau pensil ganddo o’i gefnder R. Glynne Lloyd; taflen gyfrannu at apêl Cronfa Gŵyl Ddewi Plaid Cymru un [1969] a'r neges gan Islwyn Ffowc Elis - 'Dyma’r amser ... '; rholyn: 'The ancient history of the distinguished surname Kenrick', [1993]; a thoriad o’r Tyst yn cynnwys adroddiad am ddadorchuddio plac ar ei gartref Pengwern yn 2010.

Blas y Cynfyd

Mae'r ffeil yn cynnwys un llyfr nodiadau yn cynnwys rhan o ddrafft llawysgrif cyntaf y nofel Blas y Cynfyd (1958), sef pennod 1 a 2, a rhan o bennod 3.

Tabyrddau'r Babongo

Mae'r ffeil yn cynnwys pum llyfr nodiadau yn cynnwys y drafft llawysgrif cyntaf o'r nofel Tabyrddau'r Babongo (1961). 'Tabyrddau'r Babongo' neu 'T.B.' yw'r teitl ar bob llyfr nodiadau, ac maent wedi cael eu rhifo mewn trefn gan yr awdur.

Yn ôl i Leifior (fersiwn 1989)

Mae'r ffeil yn cynnwys fersiwn teipysgrif o Yn ôl i Leifior: ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg (1989). Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys gohebiaeth a dogfennau'n ymwneud â'r Cyngor Llyfrau Cymraeg, 1987-1989.

Results 21 to 40 of 67