Showing 76 results

Archival description
Papurau Marion Eames,
Advanced search options
Print preview View:

Wheels of Freedom,

Drafftiau nofel anghyhoeddedig gan Griffith Williams yn dwyn y teitl Wheels of Freedom, 1976, ynghyd ag adroddiad gan gwmni cyhoeddi yn esbonio'r penderfyniad i beidio â chyhoeddi'r gwaith. = Drafts of an unpublished novel by Griffith Williams entitled Wheels of Feedom, 1976, including a report by a publishing company explaining the decision not to publish the work.

Sionyn a Siarli,

Teipysgrifau storïau Sionyn a Siarli, 1980-[1990], gan gynnwys addasiadau o rai o'r storïau ar gyfer y gyfres radio 'Gair yn ei Le' (1980). = Typescripts of numerous Sionyn a Siarli stories, 1980-[1990], including adaptations of some of the stories for the radio series 'Gair yn ei Le' (1980).

Rhed Alysia!,

Drafftiau llawysgrif o'r nofel Rhed Alysia!, [1990x2007]. = Manuscript drafts of the novel Rhed Alysia!, [1990x2007].

Deryn Corff,

Sgript Deryn Corff, 1998, a ysgrifennwyd gan Marion Eames i'w ddefnyddio yng nghystadleuaeth deialog agored Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bro Ogwr, 1998. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys copïau o sgriptiau T. James Jones ac Eigra Lewis Roberts a ddefnyddiwyd yn yr un gystadleuaeth. = A script entitled Deryn Corff, 1998, written by Marion Eames for use in the open dialogue competition at the National Eisteddfod of Wales, Bro Ogwr, 1998. The file also includes copies of scripts by T. James Jones and Eigra Lewis Roberts used in the same competition.

Sgriptiau gan eraill,

Sgriptiau gan unigolion eraill, 1971-[1980], gan gynnwys sgript The Voice Across the Valley gan John Rowe, a detholiad o The Riddle of Gipsy Quarry gan Catrin Rowe. = Scripts by other individuals, 1971-[1980], including a copy of The Voice Across the Valley by John Rowe, and an extract of The Riddle of Gipsy Quarry by Catrin Rowe.

Addasiadau o weithiau Marion Eames,

Papurau'n ymwneud ag addasiadau radio, llwyfan a theledu o rai o weithiau Marion Eames, 1981-[2007], yn cynnwys I Hela Cnau, 1981; Plentyn Di-gartref, [1985x2007]; Y Ferch Dawel, 1996; ac Y Stafell Ddirgel, 2001. = Papers relating to radio, stage and television adaptations of works by Marion Eames, 1981-[2007], comprising I Hela Cnau, 1981; Plentyn Di-gartref, [1985x2007]; Y Ferch Dawel, 1996; and Y Stafell Ddirgel, 2001.

I Hela Cnau,

Papurau'n ymwneud ag addasiad radio o nofel Marion Eames, I Hela Cnau, 1981, gan gynnwys sgriptiau o benodau 1-6 a chyfieithiad Saesneg o bennod 6. = Papers relating to the radio adaptation of the novel, I Hela Cnau, 1981, by Marion Eames, including scripts of episodes 1-6 and an English translation of episode 6.

Erthyglau,

Drafftiau o erthyglau amrywiol gan Marion Eames, [1970]-2001, gan gynnwys erthyglau yn trafod hanes Dafydd Lloyd, cyfreithiwr a Crynwr o Gymru, a Gustav Mahler. = Drafts of various articles by Marion Eames, [1970]-2001, including articles relating to Dafydd Lloyd, a lawyer and Quaker from Wales, and Gustav Mahler.

Anerchiadau a darlithiau,

Drafftiau o anerchiadau a darlithiau amrywiol gan Marion Eames, [1970]-[2007], yn sôn am ei nofelau a'i bywyd, ac yn trafod pynciau megis hanes y Crynwyr yng Nghymru. = Drafts of various speeches and lectures by Marion Eames, [1970]-[2007], discussing her life, her writing and topics such as the history of the Quakers in Wales.

Llyfrau nodiadau a phapurau ymchwil,

Llyfrau nodiadau a phapurau ymchwil Marion Eames, 1934-[2000], gan gynnwys llyfrau nodiadau ysgol, ymchwil i gefndir hanesyddol ei nofelau, a nodiadau amrywiol eraill. = Notebooks and research papers of Marion Eames, 1934-[2000], including school notebooks, research into the historical background of her novels, and various other notes.

Torion amrywiol,

Torion o'r wasg, 1954-2007, gan gynnwys erthyglau yn ymwneud â rôl Marion Eames fel llywydd y dydd yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Clwyd, 1973, ac erthyglau amrywiol. = Press cuttings, 1954-2007, including articles relating to Marion Eames's role as president of the day in the Dyffryn Clwyd National Eisteddfod, 1973, and various articles.

Gohebiaeth,

Gohebiaeth, 1967-2005, yn cynnwys gohebiaeth gyffredinol, 1967-2005; llythyron teuluol, 1968-1996; a gohebiaeth yn ymwneud ag anghydfod cyfreithiol, 1987. = Correspondence, 1967-2005, comprising general correspondence, 1967-2005; letters from family members, 1968-1996; and letters concerning a legal dispute, 1987.

Y gaeaf sydd unig

Drafft llawysgrif, [1981], o ran (penodau 1, rhan o 2, 3, rhan o 4, rhan o 5, 6, a rhan o 7) o nofel Y Gaeaf Sydd Unig gan Marion Eames (Llandysul, 1982). = A manuscript draft, [1981], of part (chapters 1, part of 2, 3, part of 4, part of 5, 6, and part of 7) of Marion Eames's novel Y Gaeaf Sydd Unig (Llandysul, 1982).

Seren gaeth

Teipysgrif gyda chywiriadau mewn llawysgrif (rhan olaf pennod 9 a penodau 10-15) o'r nofel Seren Gaeth gan Marion Eames (Llandysul, 1985). = Typescript with manuscript corrections (last part of chapter 9 and chapters 10-15) of Marion Eames's novel Seren Gaeth (Llandysul, 1985).

Llyfr nodiadau,

Llyfr nodiadau, 1927, yn cynnwys nodiadau ar sut i ysgrifennu nofel a detholiadau o weithiau llenyddol. = A notebook, 1927, containing notes on the art of writing a novel and extracts from various literary works.

Wales and Art Today,

Teipysgrif gwaith gan Griffith Williams, anghyhoeddedig yn ôl pob golwg, yn dwyn y teitl Wales and Art Today, [1950x1977]. = Typescript of an apparently unpublished work by Griffith Williams entitled Wales and Art Today, [1950x1977].

Papurau Marion Eames,

  • GB 0210 MEAMES
  • fonds
  • 1927-2007 /

Papurau Marion Eames, 1927-2007, yn cynnwys drafftiau o'i nofelau a gweithiau llenyddol eraill, 1933-[2005]; addasiadau o'i gwaith, 1981-[2007]; erthyglau, anerchiadau a darlithiau, [1970]-[2007]; llyfrau nodiadau a gwaith ymchwil, 1934-[2000]; deunydd printiedig, 1929-2007; gohebiaeth, 1967-2005; a phapurau personol, 1928-2002; ynghyd â phapurau ei gŵr, y newyddiadurwr Griffith Williams, 1927-1977. = Papers of the novelist Marion Eames, 1927-2007, comprising drafts of her novels and other literary works, 1933-[2005]; adaptations of her work, 1981-[2007]; articles, speeches and lectures, [1970]-[2007]; notebooks and research papers, 1934-[2000]; printed material, 1929-2007; correspondence, 1967-2005; and personal papers, 1928-2002; together with the papers of her husband, the journalist Griffith Williams, 1927-1977.

Eames, Marion.

Drafftiau nofelau,

Casgliad o lawysgrifau, [1964]-1981, a dderbyniwyd yn rhodd i'r Llyfrgell yn 1988, yn cynnwys drafftiau o Y Stafell Ddirgel, [1964] x [1969]; Y Rhandir Mwyn, 1970; I Hela Cnau, 1974-1975; ac Y Gaeaf Sydd Unig, 1981. = A collection of manuscripts, [1964]-1981, donated to the Library in 1988, comprising drafts of Y Stafell Ddirgel, [1964] x [1969]; Y Rhandir Mwyn, 1970; I Hela Cnau, 1974-1975; and Y Gaeaf Sydd Unig, 1981.

Y Stafell Ddirgel,

Cyfrol, [1964x1969], yn cynnwys drafft, wedi ei ddiwygio'n sylweddol, o nofel Marion Eames, Y Stafell Ddirgel (Llandybïe, 1969), a nodiadau a wnaed ganddi cyn dechrau ysgrifennu (tt. 2-225); ynghyd â drafft anghyflawn o waith a ymddengys yn angyhoeddedig, Heibio i'r Lafant (tt.226-291). Yn wreiddiol defnyddiwyd y gyfrol gan Marion Eames i gofnodi'r rhaglenni radio a gynhyrchwyd ganddi i BBC Cymru yn 1964. = A volume, [1964] x [1969], containing a draft, with substantial revision, of Marion Eames's novel Y Stafell Ddirgel (Llandybïe, 1969), with notes made in preparation for writing the novel (pp. 2-225); and an incomplete draft of an apparently unpublished work, Heibio i'r Lafant (pp. 226-291). The volume was previously used by the author to record radio programmes produced by her for BBC Wales in 1964.

Results 21 to 40 of 76