Showing 106 results

Archival description
Papurau'r Parch. W. Rhys Nicholas,
Print preview View:

Tystysgrif geni W. Rhys Nicholas, 1914, tystysgrif priodas William Rhys Nicholas ac Elizabeth Dilys Evans, 1946, a thystysgrif ei farwolaeth ...,

Tystysgrif geni W. Rhys Nicholas, 1914, tystysgrif priodas William Rhys Nicholas ac Elizabeth Dilys Evans, 1946, a thystysgrif ei farwolaeth, 1996; llythyr, 1952, yn galw arno i fod yn weinidog ar eglwysi Horeb a Bwlchygroes, Llandysul; tystysgrif am fod yn fuddugol yng nghystadleuaeth 'chwech o emynau gwreiddiol' yn Eisteddfod Genedlaethol Caerffili, 1950; tystysgrif a gyflwynwyd iddo yn [1978] pan ddyfarnwyd iddo Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Goleg y Brifysgol, Abertawe; darlun ohono, [?1964x1996]; tudalen o Barddas, [121, 1987], yn cynnwys ei erthygl ar Crwys, 'Bardd wrth ei waith'; llungopi o Y Llan, Tachwedd 1996, yn cynnwys llythyr o werthfawrogiad 'Cofio'r Parchg. W. Rhys Nicholas' gan Enid Roberts; llungopi o 'Cofio W. Rhys Nicholas' a ymddangosodd ym mhapur bro Y Cardi bach, 1996; llungopïau o Dawn, Cylchgrawn Myfyrwyr Coleg y Brifysgol, Abertawe, Ebrill 1942, yn cynnwys cerddi a darn o ryddiaith 'Pysgota' ganddo; ynghyd â thaflen Oedfa'r Bore, Eisteddfod Genedlaethol Bro Ogwr, 1998, pan ganwyd emyn W. Rhys Nicholas, 'Fy enaid gogonedda'.

Papurau'r Parch. W. Rhys Nicholas,

  • GB 0210 RHYNIS
  • fonds
  • [1864]-[1999] /

Mae'r grŵp cyntaf (1-185) o bapurau'r Parch. W. Rhys Nicholas, [1864]-1996, a dderbyniwyd yn 1996 yn cynnwys llythyrau personol ac eraill yn ymwneud â'i waith fel golygydd; ei gyfansoddiadau megis emynau, yn arbennig ei emyn enwog 'Pantyfedwen'; ei waith ymchwil ar gyfer cyhoeddiadau; anerchiadau; papurau bywgraffyddol; papurau unigolion eraill; a deunydd printiedig.-- Mae'r papurau ychwanegol (186), 1914-[1998], a dderbyniwyd yn Ionawr a Medi 2002 yn cynnwys papurau personol y Parch. W. Rhys Nicholas gan gynnwys tystysgrifau amrywiol a dderbyniodd; llythyr, 1952, yn ei wahodd i fod yn weinidog ar eglwysi Horeb a Bwlchygroes, Llandysul; ynghyd â phapurau a gasglwyd gan y rhoddwr ar ôl marwolaeth ei ewythr. --Ymhlith rhodd 2008 (187) mae teyrngedau i W. Rhys Nicholas o'r wasg gan gynnwys teyrnged Derwyn Morris Jones a gyhoeddwyd ym mhapur bro Yr Hogwr, Rhagfyr 1996 (yn seiliedig ar yr hyn a draddodwyd ganddo yn yr angladd); taflen y gwasanaeth angladd, 2 Hydref 1996, a'r gwasanaeth coffa, 23 Tachwedd [1996]; ac adroddiad am ddadorchuddio cofeb iddo yng Nghapel y Tabernacl, Porth-cawl, 1997. = The first group of Rev. W. Rhys Nicholas papers, [1864]-1996, which were donated in 1996 (1-185), and are not described here, comprise personal letters and other letters relating to his work as editor; his compositions such as his hymns, especially his famous hymn 'Pantyfedwen'; his research work for publications; addresses; biographical papers; papers of other individuals; and printed material. The additional papers, 1914-[1988], received January and September 2002 (186), comprise personal papers of the Rev. W. Rhys Nicholas including various certificates presented to him; a letter, 1952, inviting him to be minister of Horeb and Bwlchygroes, Llandysul; together with papers collected by the donor after his uncle's death. There are tributes to W. Rhys Nicholas among the papers received in 2008 (187) among the papers received in 2008 including a tribute by Derwyn Morris Jones published in Yr Hogwr (community paper), December 1996 (based on what he said in the funeral service); funeral service card, 2 October 1996 and the memorial service, 23 November [1996]; and a report of the unveiling of a memorial to him at Tabernacl Church, Porth-cawl, 1997.

Nicholas, W. Rhys.

Llythyrau amrywiol, 1947-96, at WRN. Ymhlith y gohebwyr mae Aneirin Talfan Davies, 1970-1 (2/22-3, 26); yr Athro Pennar [Davies], 1982 ...,

Llythyrau amrywiol, 1947-96, at WRN. Ymhlith y gohebwyr mae Aneirin Talfan Davies, 1970-1 (2/22-3, 26); yr Athro Pennar [Davies], 1982 (2/134); Gwynfor [Evans], 1986 (2/174); W. Emrys Evans, 1985-90 (2/166, 196, 263); Robin Gwyndaf, 1989 (2/230); Mathonwy Hughes, 1980 (2/115); Norah Isaac, 1990 (2/279); Dafydd Iwan, 1993 (2/347); yr Athro Bedwyr Lewis Jones, 1980, 1990 a heb ddyddiad (2/111, 269, 394); Dr Emyr Wyn Jones, 1979-90 (2/109, 186, 194, 207, 250); Gwilym R. [Jones], 1986 (2/179); yr Athro Ieuan Gwynedd Jones, 1989 (2/242); y Parch. R. Tudur Jones, 1974-86 (2/61, 99, 101, 143, 175); T. Llew Jones, heb ddyddiad (2/393); Tegwyn Jones, 1996 (2/391); Robyn Lewis, 1975 a 1990 (2/78, 252); Gweneth Lilly, 1983 (2/148); Alan Llwyd, 1984-93 (2/155, 192, 197, 199, 276, 348); yr Athro Derec [Llwyd Morgan], 1993 (2/334); Dr Prys Morgan, 1972 (2/32); yr Athro T. J. Morgan, 1969 (2/14); James Nicholas, 1993 (2/327, 329); Iorwerth Peate, 1952 (2/3); John Petts, 1977 (2/89); Eluned [Phillips], 1970 (2/21); y Barnwr Dewi Watkin Powell, 1972 (2/33); Dr Enid [Pierce] Roberts, 1985-93 (2/165, 167, 256, 351); y Parch. Gomer M. Roberts, 1969-76 (2/16, 76); O. M. Roberts, 1977 a 1990 (2/91, 266); a Meic Stephens, 1969-95 (2/13, 27, 79, 83, 262, 375-6).

Llythyrau, 1933-59 a heb ddyddiad, oddi wrth aelodau Pwyllgor y Caniedydd, ac ymhlith y gohebwyr mae'r Parch. Elfed [Lewis], 1933-48 ...,

Llythyrau, 1933-59 a heb ddyddiad, oddi wrth aelodau Pwyllgor y Caniedydd, ac ymhlith y gohebwyr mae'r Parch. Elfed [Lewis], 1933-48, yr Athro Henry Lewis, 1956-9, y Parch. [J.] Dyfnallt [Owen], 1950, a'r Parch. J. J. Williams, 1950. Bu WRN yn ysgrifennydd i olygyddion emynau'r Caniedydd am dros ddeng mlynedd.

Results 21 to 40 of 106