Showing 84 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Barddoniaeth amrywiol,
Advanced search options
Print preview View:

The Old Theology,

Cyclostyle copy of 'The Old Theology', a sonnet by Prof. J. Young Evans, dated Christmas 1907.

Evans, J. Young (John Young), 1865-1941.

Cerddi Carn Ingli,

Chwech cerdd, [1850au], gan y Parch. Joseph Hughes (Carn Ingli), yn cynnwys 'Llinellau ar farwolaeth James Harries o’r Werndew', 19 Mehefin 1851 (ff. 1-2), 'Mewn attebiad i Joseph Harries o Werndew' (f. 8), a 'Cwyn Dafydd am Absolom' (f. 9). = Six poems, [1850s], by the Rev. Joseph Hughes (Carn Ingli), including 'Llinellau ar farwolaeth James Harries o’r Werndew', 19 June 1851 (ff. 1-2), 'Mewn attebiad i Joseph Harries o Werndew' (f. 8), and 'Cwyn Dafydd am Absolom' (f. 9).
Cynhwysir hefyd y cerddi 'I Nefil Chamberlain' a 'Castell Cilgerran' gan Ifor Thomas (Ifor o Heol Forgan), Awst 1939 (ff. 10-11). = Also included are the poems 'I Nefil Chamberlain' and 'Castell Cilgerran' by Ifor Thomas (Ifor o Heol Forgan), August 1939 (ff. 10-11).

Hughes, Joseph, 1803-1863

Cerddi Dewi,

Pedair cerdd gan Dewi [?y rhoddwr, D. T. Davies], Pontarddulais, 1937-1939, sef y tair cerdd holograff 'Llinellau Hiraeth ar ôl Rhosyn', 1937 (ff. 1-3), 'Dafydd a Nabal' (f. 4) ac 'Yr Angladd Heb-Gân', 1939 (ff. 5-7), a thoriad papur newydd o'r gerdd 'Gerddi'r Byd' o'r Llwchwr Gazette, 14 Hydref 1938 (f. 3). = Four poems by Dewi [?the donor, D. T. Davies], Pontarddulais, 1937-1939, comprising three holograph poems, 'Llinellau Hiraeth ar ôl Rhosyn', 1937 (ff. 1-3), 'Dafydd a Nabal' (f. 4) and 'Yr Angladd Heb-Gân', 1939 (ff. 5-7), and a cutting of the poem 'Gerddi'r Byd' from the Llwchwr Gazette, 14 October 1938 (f. 3).

Dewi, of Pontarddulais.

Englynion,

Dau englyn gan Evan Breece (Ieuan Cadfan) ac Evan Jones (Bardd Nant), Llanerfyl, Tachwedd 1850, yn sylwi ar helynt y byd (f. 1), ynghyd â dau englyn gan Evan Jones er cof am Evan Breece, [1855] (f. 2). = Two englyns by Evan Breece (Ieuan Cadfan) and Evan Jones (Bardd Nant), Llanerfyl, November 1850, commenting on current affairs (f. 1), together with two englyns by Evan Jones in memory of Evan Breece, [1855] (f. 2).

Breece, Evan, 1798 or 1799-1855

Cyfarchiadau i John Pugh, Blaenlliw,

Cerddi a negeseuon i gyfarch John Pugh, Blaenlliw, Llanuwchllyn, wrth iddo ddathlu ei benblwydd yn 80 oed ar 28 Chwefror 1941. = Poems and messages sending greetings to John Pugh, Blaenlliw, Llanuwchllyn, on the occasion of his eightieth birthday on 28 February 1941.
Ceir cyfarchiadau gan G. A. Edwards (f. 1), Elfed (f. 3), R. T. Jenkins (f. 6), Watkin Jones (f. 9) a Llwyd y Bryn [sic] (f. 10) ymysg eraill; anfonwyd hwy i'r rhoddwr yn y lle cyntaf (gw. f. 3). = There are greetings from G. A. Edwards (f. 1), Elfed (f. 3), R. T. Jenkins (f. 6), Watkin Jones (f. 9) and Llwyd y Bryn [sic] (f. 10) amongst others; they were sent in the first place to the donor (see f. 3).

Caneuon o'r Rhyfel Mawr,

Casgliad o ganeuon amserol, [1914]-[1918], mewn teipysgrif a llawysgrif, gan y Parch. T. Lloyd Jones, ar gyfer cyngherddau i filwyr ar ymweliadau cartref yn ardal Pencader, sir Gaerfyrddin. = A collection of typescript and manuscript topical songs, [1914]-[1918], by the Rev. T. Lloyd Jones, for concerts held for soldiers on leave in the Pencader district, Carmarthenshire.
Mae rhai dalennau yn cynnwys cerddoriaeth mewn nodiant sol-ffa. Cynhwysir hefyd gyflythyr, yn Saesneg, oddi wrth y rhoddwr, 11 Mai 1956 (f. i). = Some folios contain music in sol-fa notation. A covering letter, in English, from the donor, 11 May 1956, is also included (f. i).

Jones, T. Lloyd, 1866-1938

The Tribute of Wales,

A letter, sent to the press, [February 1820], containing a poem, 'The Tribute of Wales' by Owen Jones, relating to the death of George III.
The poem was published in its entirety in the Morning Chronicle, 17 February 1820, p. 3, the day after the King’s funeral. A covering letter from the donor, 19 January 1957, is also included (f. i).

Jones, Owen.

Gwaith John Davies, Goginan,

Dwy gerdd, o bosib yn llaw John Davies, Goginan, yn cynnwys 'Er cof anwylaf am Catherine Mary Davies, fu farw 30 : XII : 51 yn 78 mlwydd oed', [?1952], a pennill yn cychwyn 'Fy hen ysgolfeistr, mae hwn yn ei feddrod', [?1950au]. = Two poems, possibly in the hand of John Davies, Goginan, comprising a poem in memory of Catherine Mary Davies, [?1952], and a verse beginning 'Fy hen ysgolfeistr, mae hwn yn ei feddrod', [?1950s].

Davies, John, of Goginan.

Y plant cadw a ddysgodd Gymraeg,

'Y plant cadw a ddysgodd Gymraeg', cerdd ynghylch ffoaduriaid Ail Ryfel Byd, o bosib yn llaw John Davies, Goginan, [1950au]. = 'Y plant cadw a ddysgodd Gymraeg', a poem concerning Second World War evacuees, possibly in the hand of John Davies, Goginan, [1950s].
Ysgrifenwyd y gerdd ar gefn cylchlythyr ymgyrch Senedd i Gymru, dyddiedig 3 Hydref 1949. = The poem was written on the reverse of a Parliament for Wales campaign circular, dated 3 September 1949.

Davies, John, of Goginan.

Barddoniaeth John Pritchard, Talybont,

Saith cerdd o waith John Pritchard, Talybont, sir Aberteifi, [1890x1905] (ff. 3-15), ynghyd â chopi o emyn ar gyfer gwylnos yng Ngoginan, sir Aberteifi, 1860 (ff. 1-2). = Seven poems by John Pritchard, Talybont, Cardiganshire, [1890x1905] (ff. 3-15), together with a copy of a hymn sung at a vigil in Goginan, Cardiganshire, 1860 (ff. 1-2).

Pritchard, John, 1831?-1905.

Cerdd,

Cerdd yn cychwyn 'Fy ngeneth fwyn, dirion...' gan y Parch. Job Richards, [?1880au]. = A poem beginning 'Fy ngeneth fwyn, dirion...' by the Rev. Job Richards, [?1880s].

Richards, Job, 1830-1890.

Helynt Transvaal,

Llawysgrif 'Helynt Transvaal', dyddiedig Ionawr 1900, gan 'I. ap Huw', Abersoch, yn ymwneud ag Ail Ryfel y Boer. = Manuscript of 'Helynt Transvaal', dated January 1900, by 'I. ap Huw', Abersoch, concerning the Second Boer War.

I. ap Huw, of Abersoch.

Llawysgrif Ehedydd Iâl,

Dwy gerdd, 'Traethodl ar ganu' a 'Hyder am y Nef', gan William Jones (Ehedydd Iâl), [19 gan., ail ½]. = Two poems, 'Traethodl ar ganu' and 'Hyder am y Nef', by William Jones (Ehedydd Iâl), [19 cent., second ½].
Ni ymddengys y cerddi yn ei gyfrol Blodau Iâl (Treffynnon, 1898). = Neither poem appears in his volume Blodau Iâl (Holywell, 1898).

Jones, William, 1815-1899.

Childhood's Memories,

Typescript, [?20 cent, first ½], of 'Childhood's Memories' by R[ichard] S[amuel] Hughes, dated 18 March 1889.
See Ben Jones, R. S. Hughes and Gutyn Mawrth, Cofion Plentyndod = Childhood's Memories (Bethesda, 1923).

Hughes, R. S.

Dwy allgan ar waith Ieuan Glan Geirionydd,

Copïau llawysgrif o 'Tad wrth y llyw' (mewn teyrnged i David Hughes) gan 'R. J.', ac 'Allgan ar farwolaeth Ieuan Glan Geirionydd' gan 'J. H.', [?1855], y ddau yn aralleiriadau o'r emynau 'Tad wrth y llyw' a 'Glan y Iorddonen' gan Ieuan Glan Geirionydd. = Manuscript copies of 'Tad wrth y llyw' (a tribute to David Hughes) by 'R. J.' and 'Allgan ar farwolaeth Ieuan Glan Geirionydd' by 'J. H.', [?1855], paraphrasing the hymns 'Tad wrth y llyw' and 'Glan y Iorddonen' by Ieuan Glan Geirionydd.

Can ar ddyfodiad Sir WWW i'w oed

'Can ar ddyfodiad Sir W[atkin] W[illiams] W[ynn, 6ed Barwnig] i'w oed, Mai 22, 1841', cân yn y Gymraeg a'r Saesneg wedi ei lofnodi gan 'W'. = A song, 22 May 1841, in Welsh and English and signed 'W', marking the coming of age of Sir Watkin Williams Wynn, 6th Bart and signed 'W'.

Cywydd,

Dau ffotograff golau uwch-fioled, [1940], o gopi anghyflawn o gywydd, [16 gan.], ar ddeilen rhwymo llawysgrif o Sieffre o Fynwy, Historia Regum Brittanie (Eton College MS 246 erbyn hyn, gw. Julia C. Crick, The Historia Regum Britannie of Geoffrey of Monmouth, III: A Summary Catalogue of the Manuscripts (Caergrawnt, 1989), tt. 113-4). = Two ultra-violet light photographs, [1940], of an imperfect copy of a cywydd, [16 cent.], written on the fly-leaf of a manuscript of Geoffrey of Monmouth's Historia Regum Britannie (now Eton College MS 246, see Julia C. Crick, The Historia Regum Britannie of Geoffrey of Monmouth, III: A Summary Catalogue of the Manuscripts (Cambridge, 1989), pp. 113-4).
Mae'r ddalen hefyd yn cynnwys dwy linell, mewn Lladin, mae'n debyg o waith Albertano o Brescia, De amore et dilectione Dei et proximi et aliarum rerum et de forma vite, Liber IV. Caput XIII (f. 2). = The leaf also contains two lines, in Latin, apparently from Albertano of Brescia's De amore et dilectione Dei et proximi et aliarum rerum et de forma vite, Liber IV. Caput XIII (f. 2).

Swynion Salem, Coedgruffydd,

Adysgrif, [?20 gan., cynnar], o'r gerdd 'Swynion Salem, Coedgruffydd' gan 'Gwan o Geredigion', sef John Ll. Nuttall (Llwyd Fryniog). = Transcript, [?early 20 cent.], of the poem 'Swynion Salem, Coedgruffydd' by 'Gwan o Geredigion', namely John Ll. Nuttall (Llwyd Fryniog).
Cyhoeddwyd y gerdd yn llyfr Nuttall, Telyn Trefeurig, 2il argraffiad (Llundain, [1908]), tt. 65-67; fodd bynnag mae'n bosib y copïwyd yr adysgrif presennol allan o rifyn o'r Faner. = The poem was published in Nuttall's book Telyn Trefeurig, 2nd edn (London, [1908]), pp. 65-67; this transcript, however, may have been copied from an issue of Y Faner.

Nuttall, J. Ll. (John Lloyd), 1858?-1929.

Marwnad Richard Hughes

Copi o 'Marwnad Richard Hughes' gan Thomas Edwards o'r Nant (Twm o'r Nant), [19 gan.]. = A copy of an elegy, 'Marwnad Richard Hughes', by Thomas Edwards o'r Nant (Twm o'r Nant), [19 cent.].

Edwards, Thomas, 1739-1810

Cerddi Ioan Brothen,

Llawysgrif, 1893-1896, o farddoniaeth, englynion yn bennaf, yn llaw John Jones (Ioan Brothen). = A manuscript, 1893-1896, of autograph poetry, mainly englynion, by John Jones (Ioan Brothen).
Cyhoeddwyd rhai o'r cerddi yn Ioan Brothen, Llinell Neu Ddwy, gol. gan John W. Jones (Blaenau Ffestiniog, 1942). = Some of the poems were published in Ioan Brothen, Llinell Neu Ddwy, ed. by John W. Jones (Blaenau Ffestiniog, 1942).

Ioan Brothen, 1868-1940.

Results 21 to 40 of 84