Showing 132 results

Archival description
Papurau Iorwerth C. Peate, file
Print preview View:

'Past in the present'

Gohebiaeth, 1965-1967, yn ymwneud â'r gyfrol arfaethedig 'Past in the present' i'w chyhoeddi gan Penguin Books, yn cynnwys llythyrau gan Glyn Daniel (3), a drafftiau o lythyrau gan Iorwerth Peate; ynghyd â chopi o'r cytundeb rhwng yr awdur a'r cyhoeddwyr a ddiddymwyd yn ddiweddarach.

Daniel, Glyn Edmund

Personau

Teipysgrif, 1982, yn cynnwys llungopïau o ysgrifau, o'r gyfrol Personau (Dinbych, 1982); ynghyd â llythyr, 1983, gan y cyhoeddwyr at Nansi Peate ynglŷn â'r gyfrol.

Barddoniaeth

Llawysgrifau a theipysgrifau, 1911-[1982], o gerddi a ymddengys i gyd i fod yn waith Iorwerth Peate, yn eu plith pryddestau ar gyfer eisteddfodau, a theipysgrif Cerddi diweddar (Dinbych, 1982). Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys cyfieithiadau Saesneg o gerddi Iorwerth Peate gan Leonard Owen.

Owen, Leonard

Erthyglau, adolygiadau a llythyrau i'r wasg

Teipysgrifau, copïau printiedig a llawysgrif, 1921-[1980], o erthyglau, adolygiadau a llythyrau i'r wasg gan Iorwerth Peate, yn cynnwys torion a gohebiaeth, 1942-1948, yn ymwneud â'i golofn yn Y Cymro, 'Cymru Heddiw' gan 'Gwerinwr'. Ymhlith y testunau ceir trafodaethau am yr iaith Gymraeg, hanes Cymru, diwylliant gwerin, y celfyddydau, llenyddiaeth, addysg, diwinyddiaeth, ac unigolion, yn cynnwys teyrngedau i Melville Richards, O. T. Jones, Åke Campbell, Calum Maclean, H. J. Fleure, a George M. Ll. Davies. Mae'n bosib fod rhai ohonynt yn anerchiadau neu sgyrsiau radio.

Anerchiadau, darlithoedd a sgyrsiau radio

Llawysgrifau, teipysgrifau a chopïau printiedig, [1930]-1970, o anerchiadau a darlithoedd, gan gynnwys sgyrsiau radio, gan Iorwerth Peate ar amrywiaeth o bynciau, yn eu plith 'Rhai o glocwyr Maldwyn', a 'Cofnodi Diwylliant'.

Amrywiol

Teipysgrif, [1920x1945], o'r sgript 'Y Berllan Geirios. Comedi mewn pedair act'. Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys torion, 1928, adolygiadau Y cawg aur a cherddi eraill (Llundain, 1928); torion, 1931, adolygiadau Cymru a'i phobl (Caerdydd, 1931); toriad, 1933, o adolygiad Plu'r gweunydd (Lerpwl, 1933); dau lythyr, 1942, a thoriad, [1943], yn cynnwys sylwadau am Diwylliant gwerin Cymru (Lerpwl, 1942); toriad, [1957], o adolygiad Canu chwarter canrif (Dinbych, 1957); toriad, 1962, o adolygiad Dyfodol ein llenyddiaeth (Llandybïe, 1962); a dau lythyr, 1969, yn ymwneud â Syniadau (Llandysul, 1969).

Swydd Curadur Amgueddfa Werin Cymru

Ceisiadau am swydd Curadur, 1970, yn cynnwys tystlythyrau. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys copïau o'r cynigion a basiwyd gan Lys a Chyngor Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ynghyd â thysteb i Iorwerth Peate ar ei ymddeoliad.

Swyddi Iorwerth Peate

Llythyrau yn bennaf, 1947-1948, yn ymwneud â chais Iorwerth Peate am swydd Cyfarwyddwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ynghyd â sylwadau yn y wasg ynglŷn â'r hysbyseb am y swydd a'r apwyntiad, ffurflen gais Iorwerth Peate a llyfryddiaeth o'i gyhoeddiadau. Yn ogystal ceir papurau, 1948, yn trafod cynllun i wahanu'r amgueddfa werin oddi wrth yr Amgueddfa Genedlaethol, a phenodiad Iorwerth Peate yn Geidwad Amgueddfa Werin Cymru; a gweinyddiaeth yr Amgueddfa Werin, 1952-1953. Ceir llythyrau gan Cyril Fox (13); Idris Bell; Thomas Jones; T. K. Penniman; Goronwy O. Roberts (6); Thomas Parry (2); Stephen J. Williams; Huw T. Edwards (3); William Rees; a D. Jacob Davies. -- Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llythyrau yn ymwneud â chynllun pensiwn a chyflog Iorwerth Peate, 1930, 1934 a 1941-1943; llythyrau, 1932-1933 a 1937, yn ymdrin â safiad gwleidyddol Iorwerth Peate, yn eu plith sylwadau Cyril Fox ar ei gyfweliad ar gyfer swydd Cyfarwyddwr yn yr Amgueddfa Genedlaethol; a thorion o'r wasg, 1937, yn trafod helynt Eisteddfod Machynlleth pan ymddiswyddodd Iorwerth Peate ynghyd â rhai o'r beirniaid eraill.

Bell, H. Idris (Harold Idris), Sir, b. 1879

Staff: amrywiol

Papurau amrywiol, 1928-1976, sef llythyrau swyddogol yn bennaf, gydag amryw ohonynt gan Iorwerth Peate, ynglŷn â materion cyffredinol yn ymwneud â staff Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yn cynnwys 'Conditions of Appointment for Keepers', 'Welsh-speaking members on the National Museum of Wales staff', a theipysgrif yn trafod dwy-ieithrwydd yn Amgueddfa Werin Cymru. Yn eu plith mae cais Ffransis G. Payne ar gyfer swydd Cynorthwy-ydd yn yr Adran Ddiwylliant Gwerin a Diwydiannau yn yr Amgueddfa Genedlaethol, ac atgofion R. Albert Jones ar achlysur ei ymddeoliad o'r Amgueddfa Werin, 1976.

Jones, R. Albert

Eisteddfod Aberteifi

Gohebiaeth, 1942, rhwng Iorwerth Peate a Cyril Fox yn bennaf, yn ymwneud â gwahoddiad i Iorwerth Peate annerch yn ystod agoriad Arddangosfa Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi. Mae'r ffeil yn cynnwys adroddiad ar y mater gan Iorwerth Peate.

Fox, Cyril, Sir, 1882-1967

Papurau amrywiol

Papurau amrywiol, 1933-1968 a 1971, yn ymwneud ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Werin Cymru. Maent yn cynnwys papurau yn ymwneud â'r Pwyllgor Celf ac Archaeoleg; y cynllun i wahanu Amgueddfa Werin Cymru o Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1948; dyfodol yr Amgueddfa Werin, 1967; a chyfarfodydd ynglŷn ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1968. Yn ogystal, ceir gohebiaeth, 1937, rhwng Iorwerth Peate a Cyril Fox ynglŷn â helynt Eisteddfod Machynlleth; torion o'r wasg, [1950]-1967, yn ymwneud â'r Amgueddfa Werin; a phapurau yn ymwneud â thaith i Sweden, 1946, yn cynnwys dyddiadur a llythyrau at Nansi a Dafydd Peate. -- Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys nifer o femoranda a llythyrau gan Iorwerth Peate, yn eu plith 'Observations on the possible creation of a Department of Folk Culture' (1934); sylwadau ar femorandwm 'Museum and Art Gallery Service in Wales and Monmouthshire' (1942); 'Report of the Keeper of the Department of Folk Life on his tour of the Scandinavian museums' (1946); 'The Welsh Folk Museum: a memorandum on policy of acquisition, siting, and reconstruction of buildings' (1946); 'Storage at St. Fagans Castle' (1947); a theipysgrif erthygl 'Ein trysor gwerthfawrocaf', [1969x1975].

Fox, Cyril, Sir, 1882-1967

Cadeiriau

Papurau, 1938-1939, yn ymwneud â chadeiriau, yn cynnwys teipysgrifau 'The chair', a'r ddarlith 'Some Welsh Light on the Evolution of the Chair'; llungopïau o enghreifftiau o gadair yn llawysgrif Peniarth 28; a theipysgrif o ddarn o lythyr gan yr Athro Ifor Williams yn trafod y pwnc.

Car llusg

Llythyrau, 1936, yn bennaf gan athrawon a disgyblion ysgol yn ardaloedd Aberaeron, Maesteg, Pwllheli, a Chwilog, yn disgrifio ceir neu gartiau llusg a'r defnydd a wnaethpwyd ohonynt, yn dilyn sgwrs radio gan Iorwerth Peate.

Caseg fedi

Nodiadau bras ar ardaloedd lle ceid enghreifftiau o'r Gaseg Fedi, Y Wrach, Torri'r Gwddf, a Thorri pen y fedel; llythyrau, 1929, yn dilyn cais Iorwerth Peate am wybodaeth yn y wasg, yn cynnwys geiriau a thôn 'Can y wrach'; ynghyd â thorion papur newydd perthnasol, 1929 a 1933.

Coryglau

Gohebiaeth, 1938, rhwng Iorwerth Peate a F. C. Llewellyn, Cenarth, ynglŷn â'i gyfraniad i raglen radio am 'Y Coryglwr'; a thoriad o'r Tyst, 1933, 'Hen alwedigaeth yr afon. Y cwrwgl a physgotwyr Dwylan Tywi'.

Llewellyn, F. C.

Gefeiliau cŵn (Dog tongs)

Adysgrif, [1930x1940], o'r rhestr gefeiliau cŵn a gyhoeddwyd yn The Relinquary, 1897, ynghyd â chopi printiedig o ddarlith W. E. T. Morgan, 'Dog doors in churches and dog tongs', a gyhoeddwyd yn 1931. Yn ogystal, ceir nodiadau teipysgrif, [1930x1940], 'Tread-mill churns worked by dogs', sef adroddiadau o'r Liverpool Courier, 1901.

Gwahanglwyf

Llythyrau a thorion o'r wasg, 1974, yn eu plith rhai oddi wrth George C. Boon (2); O. A. W. Dilke; a Don R. Brothwell. Yn ogystal ceir erthygl gan Iorwerth Peate, 'The antiquity of leprosy in Wales', ynghyd â llungopïau o ddwy erthygl arall ar y testun.

Boon, George C.

Gwlân

Deunydd printiedig, 1909, 1937 a 1940, yn ymwneud â'r diwydiant wlân, yn cynnwys H. Ling Roth, Hand Woolcombing (1909); ac E. Kilburn Scott, 'The Shrinking of Woollens' (1937).

Mari Lwyd

Llythyrau, torion o'r wasg a nodiadau, 1919 (copi o lythyr) a 1930-1939, ynglŷn â thraddodiad y Fari Lwyd. Yn eu plith ceir llythyr gan John Ballinger, a geiriau ar gyfer cân y Fari Lwyd.

Ballinger, John, 1860-1933

Results 21 to 40 of 132