Dangos 167 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau D. J. Williams, Abergwaun ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Papurau teuluol

Llyfr nodiadau, 1909, yn cynnwys telynegion 'Tymhorau bywyd' yn llaw Wil Ifan [fe'u hargraffwyd yn Dros y nyth: caniadau William Evans, Penybont ar Ogwr (Y Fenni, 1913)]. Ceir englynion eu tad y Parch D[an] E[vans] ar ben-blwydd eu mam, [1918]-[1924] ac adroddiad o'r wasg ar achlysur dathlu eu priodas aur yn 1923; cerdd 'Clymu' gan J. T. Job ar achlysur priodas Siân a D. J. Williams yn 1925; ynghyd â chofnod o'r marciau a gafodd mewn cwrs coginio gan Brifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1902; a manylion a gopïwyd ganddi o Feibl ei thad am y teulu, 1798-1903.

Wil Ifan, 1883-1968

Papurau ariannol

Papurau ariannol, 1918-1969, gan gynnwys manylion am gostau llety D. J. Williams am y tymor, 1918-1919, tra'n fyfyriwr yng Ngholeg Iesu, Rhydychen; taliadau am sgyrsiau oddi wrth y BBC; a mân bapurau eraill.

Papurau amrywiol

Papurau amrywiol, [1915]-[1965], gan gynnwys tocynnau i ddigwyddiadau cymdeithasol yn Abergwaun; drafftiau o gwestiynau arholiad; copi, yn llaw D. J. Williams, o adroddiad ar ddysgu Saesneg, yn dilyn archwiliad llawn yn Ysgol Sir Abergwaun, 1931.

Nodiadau Francis Jones

Nodiadau o bapurau'n ymwneud â stad Ffrwdfâl, Sir Gaerfyrddin (Llawysgrifau LlGC 11760-11788); drafft o goeden deulu Glanyrannell gan Francis Jones; ynghyd â chopi teipysgrif o'i erthygl 'An absentee landlord' a gyhoeddwyd yn The Carmarthenshire Antiquarian Journal, [1939], yn ymwneud â Lewis Pryce Jones.

Jones, Francis, 1908-1993

Mazzini: cenedlaetholwr, gweledydd, gwleidydd

Llawysgrif Mazzini: cenedlaetholwr, gweledydd, gwleidydd a gyhoeddwyd yn 1954 a phroflenni wedi'u cywiro, ynghyd â nodiadau ymchwil o waith Gwilym Oswald Griffith, Mazzini: prophet of modern Europe (Llundain, 1932) a hefyd o Essays: selected from the writings, literary, political, and religious, of Joseph Mazzini.

Llythyrau Williams (W-)

Llythyrau, 1918-1969. Ymhlith y gohebwyr mae [W.] Crwys [Williams] (3), W. D. [Williams] (3), W. Llewelyn Williams (1) a Waldo Williams (43), gan gynnwys cerdd a ysgrifennodd Waldo Williams ar ôl taith yn Iwerddon yn 1956 a chyfarchion ar gerdd ganddo wedi i D. J. Williams dderbyn gradd DLitt yn [1957]. Dyfynnwyd yn helaeth o'r llythyrau hyn yn Damian Walford Davies (golygydd), Waldo Williams: rhyddiaith (Caerdydd, 2001).

Crwys, 1875-1968

Llythyrau Williams (M-T)

Llythyrau, [1915]-[1968]. Ymhlith y gohebwyr mae Morris [T.] Williams (1), [R.] Bryn [Williams] (1), Stephen [J. Williams] (5) a T. H. Parry-Williams (36).

Williams, Morris T. (Morris Thomas), 1900-1946.

Llythyrau Williams (E-J)

Llythyrau, [1919]-1968. Ymhlith y gohebwyr mae Glanmor Williams (2), Griffith John Williams (7), J. E. Caerwyn Williams (9), ynghyd â cherddi yn llaw Waldo Williams a fenthycodd D. J. Williams iddo yn 1952 a chasgliad teipysgrif gan J. E. Caerwyn Williams o farddoniaeth Waldo Williams a gyhoeddwyd yn y wasg, 1938-1964 (wedi ymddangos yn Y Faner gan mwyaf), J. O. Williams (2), Jac [L. Williams] (13), Syr John Cecil-Williams (5) a John Roberts Williams (1).

Williams, Glanmor

Llythyrau W (Walters-Williams, D.)

Llythyrau, 1918-[1965]. Ymhlith y gohebwyr mae Syr Percy E. Watkins (2), Tudor Watkins, AS (2), Harri Webb (3), Syr Wynn P. Wheldon (3), Alun Llywelyn-Williams (3), y Fonesig Amy Parry-Williams (1) a David Williams (2).

Watkins, Percy E. (Percy Emerson), Sir, 1871-1946

Llythyrau T-V

Llythyrau, 1914-1969. Ymhlith y gohebwyr mae Syr Ben Bowen Thomas (53), D. Vaughan Thomas (1), Dan Thomas (7), David Thomas (3), Gwyn Thomas (3), J. M. Lloyd Thomas (2), Gwilym R. Tilsley (1) a Gwilym Tudur (1).

Thomas, Ben Bowen, 1899-1977

Llythyrau teuluol eraill

Llythyrau, 1902-[1959], at Siân Williams, oddi wrth D. J. Williams, ei brodyr a'i chwiorydd Magi, Anna, Dai a Wil Ifan, yn ymwneud â materion teuluol, ynghyd â llythyr, 1904, oddi wrth y [Parch. Dan Evans] at ei briod a'i blant, o ysbyty yn Abertawe, yn ymwneud â salwch eu mab Evan.

Wil Ifan, 1883-1968

Llythyrau R (R-Richards)

Llythyrau, 1926-1969. Ymhlith y gohebwyr mae Alwyn D. Rees (9), Chris [Rees] (1), Ioan Bowen Rees (3), [J.] Seymour [Rees] (1), Prosser Rhys (14), Keidrych Rhys (5), Brinley Richards (2) a Leslie Richards (3).

Rees, Alwyn D.

Llythyrau R (Roberts, L.-Rowley)

Llythyrau, [1914]-1969. Ymhlith y gohebwyr mae Lynette Roberts (1), Bob [Roberts] ('Bob Tai'r Felin') (1), T. F. Roberts (4), Wyn Roberts (1), Syr Archibald Rowlands (18) (y ddau lythyr cyntaf, [1914] at Penry Pryce) ac [R. J. Rowlands], 'Meuryn' (1).

Roberts, Lynette, 1909-1995

Llythyrau Penyberth

Llythyrau, [1936]-[1937], yn ymwneud â'r cyfnod yn dilyn Llosgi'r Ysgol Fomio, gan gynnwys llythyr, [1936], oddi wrth D. J. Williams at Siân Williams ac aelodau eraill o'r teulu a ysgrifennwyd yn fuan wedi'r weithred yn trafod y cyhuddiad yn ei erbyn sef 'arson of the King's property'; llythyrau oddi wrth bobl anhysbys; a chopi o lythyr a dderbyniodd Bob Owen, Croesor, oddi wrth Lywydd Clwb y Dynion Cymraeg yn Seattle, UDA, yn dangos eu cefnogaeth i'r weithred hon.

Canlyniadau 21 i 40 o 167