Showing 173 results

Archival description
Papurau D. Tecwyn Lloyd, file
Print preview View:

E Bymhet Geing,

Cyfrol yn cynnwys Pumed Keinc y Mabinogi yn ei law sef parodi ganddo mewn 'Hen Gymraeg' am ddau frawd yn ardal Penllyn, [1976].

Torion o'r wasg,

Torion o’r wasg, [1926]-[1966], gan gynnwys adolygiadau o weithiau Saunders Lewis, o’i golofn ‘Saunders Lewis yn trafod …’ yn Y Faner, a cherddi ganddo.

Traethawd BA Saunders Lewis,

Copi, 1966, o draethawd BA Anrhydedd 'Imagery and poetic themes of S. T. Coleridge', Prifysgol Lerpwl, 1920, gan Saunders Lewis, ac mae'r gwreiddiol ar gadw yn Llyfrgell y Brifysgol honno.

Cais am Wobr Nobel,

Llythyrau, 1970, yn ymwneud â chefnogi enwebiad Saunders Lewis ar gyfer Gwobr Nobel (Llenyddiaeth), oddi wrth David Hughes Parry, Idris [Foster], Aneirin Talfan Davies, Proinsias Mac Cana, Rachel [Bromwich], Per Denez, David Jenkins ac eraill. Cyfeiriwyd y mwyafrif ohonynt at J. E. Caerwyn Williams. Ceir copi teipysgrif o'r cais, 1971, a llyfryddiaeth.

Parry, David Hughes, Sir, 1893-1973.

Deunydd i'r cylchgrawn,

Llythyrau, [1965x1987], 1991, gan gynnwys rhai oddi wrth Alun J. Jones, Dafydd Jenkins, R. Elwyn Hughes, John [Stoddart], W. R. P. George, Gareth [Alban Davies], Elin ap Hywel, Gwyn Williams, Rhydwen Williams, cerdd gan Steve Eaves, ynghyd â chyfraniadau llenyddol a anfonwyd i Taliesin.

Alun Cilie, 1897-1975.

Erthyglau,

Llawysgrifau erthyglau a darlithiau, gan gynnwys golygyddol Taliesin, ynghyd â beirniadaethau, darlith ar newyddiaduraeth gyfoes yng Nghynhadledd Taliesin, 1972, adolygiadau i Taliesin, Y Genhinen, Poetry Wales a chyfraniadau i’r Faner, Y Cyfnod, Y Tyst a Barn.

Papurau Saesneg,

Traethawd 'The sea (in its calm)', 1925, ond a gyflwynwyd mewn cystadleuaeth Cymdeithas Lenyddol Glanrafon yn 1929; 'Apology for the years 1931-33'; 'The Tutor and his class'; 'Holmes and the Chaldean Thesis. A triffling monograph', 1967; stori fer 'The light of John Davitt', ynghyd â llyfr nodiadau 'A Grammar of Eremot', iaith newydd a ddyfeisiwyd ganddo.

Sgriptiau,

Sgriptiau gan gynnwys 'Safonau beirniadaeth', 1949, 'Gwlad y galon' [Yr Eidal], 1955, 'Y ddinas dragwyddol' [Rhufain], 1956, a 'Cynan a chanu rhyfel', rhan o raglen ar gyfer y BBC, 1970.

Darnau anorffenedig,

Ymlith y papurau mae ‘Rhan o hunangofiant’, 1979, a ‘Rhagair i hunangofiant’, 1981, ynghyd â chyfeiriadau at ddefnydd Daniel Owen o "true to nature" yn ei weithiau.

Erthyglau,

Teipysgrifau erthyglau yn bennaf a rhai adolygiadau, [1987]-1992, gan gynnwys rhai'n ymwneud â Robert Owen, Fourcrosses. Ceir hefyd wahanlithoedd o'r erthyglau canlynol ganddo: 'Cymru yn Saesneg', Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1966; 'Just a curiosity', Journal of the Merioneth Historical and Record Society, 1968; 'Coflyfr Thomas Williams, 1857-1901', Journal of the Merioneth Historical and Record Society; 'John Griffith, y gohebydd', Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1978; 'The Welsh language in journalism', Meic Stephens (ed.), [1979]; a 'T. Gwynn Jones fel cynghorwr llenyddol', Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1981.

Llythyrau at Hughes a'i Fab,

Llythyrau, [1892]-[1917], at y wasg gan gynwys rhai oddi wrth O. M. Edwards a John Richards (Isalaw). Ceir llythyr yn Gymraeg oddi wrth John Owen (Ap Glaslyn).

Edwards, Owen M. (Owen Morgan), 1858-1920

'Trwy'r gwynt a'r glaw',

Rhannau gwrthodedig o Meirion Lloyd Jones, ''Trwy'r gwynt a'r glaw', ynghyd â llythyr oddi wrth T. Gwynn Jones yn amgau ei adroddiad am y gwaith i Hughes a'i Fab.

Jones, Meirion Lloyd.

Llyfrgell Coleg y Bala,

Cardiau mynegai o'r Llyfrgell a achubwyd ganddo wedi iddynt gael eu taflu ar ôl arwerthiant yna, Medi 1964, ynghyd â thoriad o'r Cymro, 1962, 'Coleg y Bala i gau? Bu'n Brifysgol Gymraeg - felly cadwn ddrws agored yno medd D. Tecwyn Lloyd' a phapurau'n ymwneud ag amgylchiadau gwerthu'r Llyfrgell gan gynnwys adroddiad gan Tecwyn Lloyd 'Gwerthiant Llyfrgell Coleg y Bala. Haf 1964', 1965.

Llythyrau P-W,

Ymhlith y gohebwyr mae Thomas Parry (11); Iorwerth Peate (3); Kate Roberts (3); J. E. Caerwyn Williams (1); John Rowlands (1); John Stoddart (2); Gwyn Thomas (3); Ned Thomas (1); R. S. Thomas (2); Urien Wiliam (1); R. Bryn Williams (1); a Rhydwen Williams (2).

Parry, Thomas, 1904-1985

Results 21 to 40 of 173