Showing 318 results

Archival description
Papurau Eifion Wyn,
Print preview View:

Pregethau Cymraeg yn llaw EW,

Llyfrau nodiadau ('The Globe Exercise Book') yn cynnwys pregethau Cymraeg yn llaw EW; ynghyd â dyfyniadau [?gan y Parch. W. S. Owen, 1976] o rai o'r pregethau uchod (rhif 29a).

R. Imelmann, Bonn,

Nid yw'n credu y byddai'n berson addas i hyrwyddo cyfrol EW. Yn danfon cofion at R. Williams Parry. Saesneg.

R. H. Jones, Lerpwl,

Telynegion Maes a Môr yn dal i roi boddhad iddo. Ei gyfrol yntau Drwy Gil y Drws a'i gân newydd 'Cwsg, fy maban'. Pryd y ceir cyfrol arall o waith EW?.

J. J. Williams, Pentre,

Byddai bedyddio Peredur yn fwy o anrhydedd yn ei olwg na Chadair Llangollen ond methu'n lân â gweld sut y gallai drefnu i fod yno.

W. J. G[ruffydd], Tongwynlais,

Ei farn am T. Marchant Williams; mae ei erthygl am EW islaw sylw. Enwi rhai o'r 'bradwyr' cenfigennus eraill sy'n ysgrifennu i'r wasg. Helynt yr englyn a wobrwywyd yn Eisteddfod Caerfyrddin, 1911.

W. Hughes-roberts, Catford,

Diolch am yr emyn rhagorol [cf. rhif 81]. Yr emyn-dôn 'Bryn Gilead' o waith ei dad. Yn amgau llythyr, 19 Rhag. 1912, oddi wrth ei gyfaill Dewi [ ] yn diolch am y sypyn llyfrau ac am lun EW [rhif 82a].

L. J. Roberts, Abertawe,

EW ymhlith y clasuron ym mhapurau arholiad plant Cymru. Bu geiriau'r gerdd 'Hwiangerdd Sul y Blodau' o gysur iddo ef ac eraill.

EW at Silyn [Roberts],

Cyfieithiad Syr Francis Edwards o'r gerdd 'Merch yr Hafod'. Cyfrol Miss Ffoulkes. Loes iddo oedd clywed i SR ei 'fwrw allan' o'i ddarlith. Englynion a gaewyd allan o Gyfrol Goffa Hedd Wyn. Awdl goll Hedd Wyn ar y Dr Griffith John.

EW at 'Wil Bryan', Towyn,

Eisteddfod Towyn - diolch am y gydnabyddiaeth hael. Gobeithio nad yw wedi tramgwyddo Geufronydd. Y 'neuritis' wedi ei adael am y tro.

Results 21 to 40 of 318