Darn neu ddarnau rhyddiaith ar ffurf benodol (Ysgoloriaeth Emyr Feddyg); stori fer wedi'i lleoli ym myd diwydiant; blog dros gyfnod o fis; casgliad o 10 darn ar ffurf llên meicro: 'Ystafelloedd aros'; ysgrif bortread; erthygl newyddiadurol ... ar bwnc llosg; llythyr dychmygol at wleidydd; stori arswyd wedi'i hanelu at bobl ifanc; casgliad o hyd at 30 o anecdotau difyr o'r byd chwaraeon; a chystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn Yr Ariannin: 'Byw yn y Wladfa heddiw'.
Cywydd: 'Dathlu'r Brifwyl'; soned: 'Pont'; cerdd mewn vers libre; 'Rhyddid'; cerdd ddychan: 'Cythraul canu'; carol plygain; chwe limrig: 'Rhwydweithio'; a throsi tair cerdd gan R. S. Thomas.
Dilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn: 'Clawdd terfyn'; dilyniant o gerddi digynghanedd; englyn: 'Pwll'; englyn ysgafn: 'Rhybudd'; a thelyneg mewn mydr ac odl: 'Tanchwa'.
Cyfansoddiad gwreiddiol ar gyfer côr SATB ... yn adlewyrchu dathliad yr Eisteddfod yn 150 mlwydd oed (Tlws y cerddor); emyn-dôn i eiriau Siôn Aled; darn ar gyfer côr SSA fyddai'n addas ar gyfer Nadolig gyda chyfeiliant piano neu organ; ffantasia i'r organ; trefniant o unrhyw alaw werin yn y llon ar gyfer côr TTBB; cyfansoddiad ar gyfer ensemble pres mewn arddull jazz (neu blues); a chasgliad o ddarnau mewn unrhyw gyfrwng na chymer fwy na 8 munud (i ddisgyblion ysgolion uwchradd a cholegau trydyddol).
Cerdd: ‘Gobaith’ (cystadleuaeth y gadair); darn o ryddiaith: ‘Taith’ (y tlws rhyddiaith); sgwrs rhwng dau berson mewn caffi; dyddiadur wythnos; llythyr yn annog rhywun i ddysgu Cymraeg; adolygiad o unrhyw ffilm neu raglan deledu; a chasgliad o ddeunydd i ddenu ymwelwyr i’ch ardal mewn unrhyw ffurf (gwaith grŵp neu unigol).
Ysgoloriaeth Emyr Feddyg (braslun nofel pennod agoriadol nofel, straeon byrion neu ysgrifau); stori fer: ‘Gadael’; stori ffantasi; stori fer ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau; llên micro: Casgliad o 8 darn ar ffurf llên micro: ‘Profiad’; ysgrif yn ymwneud â byd natur; dyddiadur: 10 darn amrywiol un ar ffurf dyddiadur gwledig addas i gyfres mewn papur bro; a charwriaeth drwy e-bost: cyfres o negeseuon yn dangos datblygiad/dirywiad mewn perthynas dros gyfnod penodol.
Awdl neu ddilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn: ‘Gwe’; casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn: ‘Breuddwyd’; ‘englyn unodl union: ‘Graffiti’; englyn unodl union ysgafn: ‘Moderneiddio’; cywydd : ‘Perthyn’; hir a thoddaid: ‘Pengwern’; telyneg: 'Argae'; soned: ‘Adwy’; baled: ‘Plygain’; carol Blygain; saith triban: 'Dyddiadur wythnos'; casgliad o chwe cherdd ar gyfer plant cynradd: (testun yn agored); a blodeugerdd o gerddi gan feirdd gwlad ardal benodol.
Sioe gerdd ( Tlws y cerddor); emyn-donau; dwy garol Nadolig gyferbyniol addas i ddisgyblion ysgolion cynradd; un darn ar gyfer unrhyw offeryn chwyth; trefniant o unrhyw alaw werin ar gyfer côr TTBB; cystadleuaeth i ddisgyblion ysgolion uwchradd a cholegau trydyddol 16-19 oed.