Dangos 839433 canlyniad

Disgrifiad archifol
Rhagolwg argraffu Gweld:

9559 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

W. Hughes Jones ('Elidir Sais'), Bethesda,

Diolch o galon am gael benthyg y llawysgrifau. Canmol y gyfrol Telynegion Maes a Môr. Dylai ystyried ysgrifennu rhyddiaith - e.e. 'light romantic Drama'. Yn bwriadu, ryw ddydd, ymgyrchu i sefydlu 'Welsh Academy of Literature'. Saesneg.

W. H. Reese, Swydd Durham,

Diolch am ddarllediad grymus. Mae W. H. Reese yn heddychwr ond y mae hefyd yn sylweddoli'r rheidrwydd o rwystro'r anifail gwyllt ar y Cyfandir rhag difa pawb. Mae'n bwriadu cyhoeddi llyfr bychan o gerddi rhyfel Medi'r Corwynt ymhen rhyw fis. Bydd yn anfon copi at W. J. Gruffydd er mwyn iddo ei adolygu yn Y Llenor.

W. H. Harris, Llanbedr Pont Steffan,

Cafodd flas ar wrando araith W. J. Gruffydd yn yr Eisteddfod ar y prynhawn Iau. Yr oedd pob gair yn wirionedd. Y mae penodiad Llanbedr yn 'enghraifft ysgeler' o'r sefyllfa. Roedd yn flin ganddo ddarllen beirniadaeth golygydd y Western Mail ar yr araith. Gwnaethpwyd y penodiad yn Llanbedr yn nannedd dymuniadau Cymru gyfan a chorff cyffredinol yr Eglwys. 'Yr oedd tri Sais a bradwr neu ddau o Gymro yn ddigon i herio Cymru gyfan'.

W. H. Harris, Coleg Dewi Sant, Llanbedr,

Amgau copi o'r Ffydd yng Nghymru [nis cynhwysir], sylwadau ar grefydd yng Nghymru, ynghyd â llyfryddiaeth yn ymwneud â 'Mudiad Rhydychen' a luniwyd gan y gohebydd.

W. Gwenlyn Evans,

Caxton Printing Works, Caernarfon. Anfon prisiau argraffu tocynnau a phosteri.

Canlyniadau 3841 i 3860 o 839433