Dangos 839647 canlyniad

Disgrifiad archifol
Rhagolwg argraffu Gweld:

9559 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

[W. J. Gruffydd] at Ifan Ab Owen Edwards,

Y mae wedi llunio braslun o'r cofiant cyfan ac wedi gorffen ysgrifennu tua chwarter ohono. Fe gymer y gweddill ryw dri mis arall cyn y bydd yn barod i'r wasg. Mae'n amser i Ifan ab Owen Edwards ddechrau llunio'r llyfryddiaeth gyflawn ac y mae'n bryd dechrau trafod y mater gyda chyhoeddwr. Gallai brofi'n waith drud. Mae'n awgrymu Hughes a'i Fab, Gwasg Aberystwyth a Gwasg y Brifysgol. Addawodd W. J. Gruffydd i Prosser Rhys y cai gyfle i ystyried y gwaith, ond mai Ifan ab Owen Edwards oedd y rheolwr busnes. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd] at Ifan Ab Owen Edwards,

Wrth fynd drwy lythyrau O. M. Edwards mae'n sylwi bod bwlch mawr ynddynt, sef ei gyfnod yn y Senedd. Y mae mwy o dywyllwch ynghylch y cyfnod hwn na'r un yn ei hanes. Tybed a oes yna lythyrau perthnasol ar gael yn rhywle?. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd] at Ifan Ab Owen Edwards,

Mae'n addo gwneud rhestr o gyfraniadau O. M. Edwards i'r cylchgronau. Mae'n bwriadu rhoi nodyn yn Y Llenor yngl?n â chyfeiriadau at weithiau diarffordd O. M. Edwards. Mae'n fodlon peidio â defnyddio Gwasg y Brifysgol ond bydd gofyn holi am amcangyfrifon gan nifer o weisg. Mae'n debyg mai Hughes a'i Fab a gaiff y gwaith yn y diwedd, ond ceir gwell telerau os credant bod eraill yn ceisio am y gwaith. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd at Gofrestrydd Coleg Caerdydd, D. J. A. Brown],

Adroddiad ar staffio Adran y Gymraeg. Pwysleisio pwysigrwydd dysgu Cymraeg yn y pedwar coleg oherwydd na wneir hynny yn unman arall. Mae dyletswydd ar ddarlithwyr Cymraeg i gynhyrchu testunau ar gyfer eu dosbarthiadau. Mae'n amlinellu'r ddarpariaeth ar gyfer dysgu'r Wyddeleg ac astudiaethau Gwyddelig yn Iwerddon. Mae'n cynnwys siart yn dangos y staffio yn adrannau'r colegau eraill a'r nifer cyfatebol o fyfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau Cymraeg. Maent i gyd yn tanlinellu mai adran Caerdydd sy'n dioddef fwyaf. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd] at [Gilbert] Norwood,

Ysgrifennodd am ei agwedd at y rhyfel yn Y Llenor. Yn yr erthygl ceisiodd ddangos fod Pabyddiaeth a Thotalitariaeth bob amser yn gyfochrog. Ei unig ofid yw y bydd Cymru, gweddill Prydain ac, yn wir, gweddill y byd yn cael eu gwaredu oddi wrth ddemoniaeth y dylid bod wedi ei goncro 2000 o flynyddoedd ynghynt. Sôn am staff Adran y Clasuron yng Ngholeg Caerdydd. Bu ymchwiliad yn ystod y tymor i ddiswyddiad gwraig ar y staff a oedd yn disgwyl plentyn. Olive Wheeler a oedd yn gyfrifol am y diswyddiad. Yr oedd hi wedi cefnogi hawl gwragedd priod i gadw eu gwaith ond nid oedd wedi rhagweld y byddai gwragedd priod yn cael plant! Trafod y bomio a fu ar Fryste a Chwfentri. Holi am hanes Canada ac agweddau yno tuag at y rhyfel. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd at Emrys O. Roberts, Lerpwl],

Ymddiheuro am beidio â chysylltu'n gynt, bu'n brysur gyda materion yn ymwneud â'r Rhyfel. Mae'n gwerthfawrogi'r anogaeth i gyhoeddi'r erthygl yn Y Llenor ar ffurf llyfryn. Bwriedir cyhoeddi math ar gyfres Penguin yn Gymraeg gan Gymry yn Abertawe. Mae'n bwriadu ateb cyhuddiadau'r Faner yn Y Llenor nesaf. Mae'n ymddiheuro am ansawdd yr ateb ond roedd yn rhaid ysgrifennu felly ar gyfer rhai fel Prosser Rhys sydd ag ymennydd fel 'gwlân Berlin'. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd] at E. R. Appleton, BBC, Caerdydd,

Mae'n barod i ddarlledu apêl ar ran 'Cofeb Islwyn'. Bu mewn is-bwyllgor [darlledu] y noson flaenorol ac y mae'n feirniadol o gyfansoddiad y pwyllgor. Cred y dylai G. J. Williams a Tom Parry o'r Coleg, Dr Llewelyn Williams o'r Bwrdd Iechyd Cymreig a'r Parch. John Roberts, Pembroke Terrace, fod yn aelodau ohono. Syndod iddo oedd sylwi nad oedd R. T. Jenkins yn aelod ychwaith. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd at E. Jones-roberts],

Mae ei lythyr [rhif 718 uchod] yn gosod W. J. Gruffydd mewn penbleth. Bydd Lerpwl yn gofyn am dystysgrif i ddweud bod ei waith yng Nghaerdydd ar ei gwrs gradd yn ddigonol i arwain at radd M.A. Byddai'n rhaid i W. J. Gruffydd ddweud y byddai'n ofynnol i E. Jones-Roberts eistedd yr M.A. Prelim. yn ôl y rheolau. Byddent hefyd am wybod paham ei fod yn newid prifysgol. Os yw wedi pasio ei B.D. mae W. J. Gruffydd yn ei gynghori i geisio am y radd yn yr Adran Ddiwinyddiaeth. Prin y derbynnid Richard Jones o'r Wern fel testun yn yr Adran Gymraeg. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd at D. Llewelyn Williams],

Roedd y llythyr yngl?n â'i freuddwyd yn ddiddorol iawn. Nid yw'r freuddwyd, fodd bynnag, yn debyg o gael ei gwireddu. Trafferth Anghydffurfwyr yw eu bod yn anghydffurfiol yngl?n ag Eglwys Loegr a'r Deyrnas, ond yn cydymffurfio'n ormodol â chonfensiynau pietistig yr oes. Mae rhai fel W. J. Gruffydd na fedr honni bod yn dduwiol yn darganfod ei bod yn amhosibl iddynt gymryd rhan yn eu gweithgareddau crefyddol er eu bod yn cydymdeimlo hwy. Mae arweinyddiaeth y cylchoedd Anghydffurfiol yng Nghymru yn tueddu cael ei gyfyngu i ddwylo gweinidogion a diaconiaid, yn annheg iawn i Eglwys Rufain, Eglwys Loegr a'r Huguenots. Mae W. J. Gruffydd am drafod y pwyntiau hyn yn gyhoeddus rhyw ddiwrnod. Anghyflawn. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd] at Caradog Prichard, Caerdydd,

Roedd yn falch o dderbyn ei lythyr gan ei fod mewn cryn bryder ynghylch y modd y buasai'n derbyn y feirniadaeth. Ni chafodd W. J. Gruffydd neb pan oedd yr un oed ag yw Caradog Prichard i wneud yr un gymwynas ag ef. Mae'n hyderus y bydd cân nesaf Caradog Prichard yn well na dim a ysgrifennodd. Awgrymir ei bod hi'n hawdd i rywun benderfynu ennill coron ac 'iselhau ei waith at safon yr Eisteddfod'. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd] at Caleb Rees, Caerdydd,

Cwyno am dlodi iaith hysbyseb Gymraeg a ymddangosodd yn Y Faner. Mae'n amlwg bod rhywun wedi mynd ati i gyfieithu'r hysbyseb gyda geiriadur. Mae'n hyderu y gellir pwysleisio i'r Weinyddiaeth briodol pa mor ddifrifol yw iaith yr hysbyseb. Mae'n gosod esiampl wael ac yn destun doniolwch i weithiwr cyffredin o Gymro Cymraeg. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd] at A. E. Jones 'Cynan',

Mae'n rhoi ei farn ar 'yr enwau ar y pared' yn yr Eisteddfod. Nid yw'n gefnogol i'r paneli enwogion. Cam yn ôl i Oes Victoria fyddai llenwi'r pafiliwn â baneri pigfain. Yr oedd yr hen eisteddfodwyr yn credu mewn gwneud y pafiliwn yn debyg i siop printer gwlad. O ddefnyddio baneri pigfain byddai'n debycach i syrcas. Mae'n apelio am foelni a symlrwydd ar furiau'r pafiliwn. Os oes raid cael enwau enwogion yna dylid defnyddio llythrennau Rhufeinig plaen. Copi teipysgrif.

Canlyniadau 3801 i 3820 o 839647