Dangos 839215 canlyniad

Disgrifiad archifol
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

9559 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

[W. J. Gruffydd] at Syr John Edward Lloyd,

Codi mater y cymhwyster gorfodol mewn Lladin neu Fathemateg ar gyfer cael mynediad i'r Brifysgol. Mae'r ysgolion yn dewis dysgu mathemateg yn gynyddol a rhoddir llai a llai o bwyslais ar Ladin a Groeg. Mae'n rhagweld cyfnod pan na fydd Lladin yn cael ei ddysgu mewn ysgolion. Nodi enghraifft o ysgol yng Nghaernarfon a arferai fod yn ysgol glasurol dda ond sydd â saith athro mathemateg erbyn hyn. Dylid ceisio sicrhau bod gan fyfyrwyr yn y celfyddydau ryw wybodaeth o'r Lladin. Mae gwybodaeth o'r Lladin yn angenrheidiol ar gyfer gradd Ffrangeg. Pe gofynnid am hynny yn yr Adran Gymraeg ni fyddai ganddo fyfyrwyr ar ôl yn ei adran. Mae'n fwriad cyflwyno rheol yng Nghyfadran y Celfyddydau yng Nghaerdydd, ond rhaid cael y colegau i gyd i weithredu'r fath gynllun. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd] at Roger Sherman Loomis, Efrog Newydd,

Dealla iddo dderbyn defnyddiau ar Hu Gadarn. Cyhoeddwyd adolygiad byr ar ei waith yn Y Llenor. Ceisio darbwyllo R. S. Loomis na ddylai drafod y rhestr enwau yn Culhwch nes bod y testun wedi ei astudio'n fanwl. Dylai Math ymddangos ymhen chwech wythnos. Fe anfonir copi iddo y pryd hwnnw. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd] at R. Hopkin Morris, BBC, Caerdydd,

Y mae [Iorwerth] Peate yn paratoi erthygl yn beirniadu rhaglenni'r tri mis blaenorol ar gyfer Y Llenor. Mae'n cynnwys beirniadaeth lem ar y sgyrsiau a ddarlledwyd. Os hoffai R. Hopkin Morris weld yr erthygl cyn ei chyhoeddi y mae croeso iddo. Fe gaiff gyfle i ymateb yn nes ymlaen. Nid yw am dramgwyddo R. Hopkin Morris gan fod arno gymaint o ddyled iddo. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd at R. Gwylfa Roberts, Cofiadur yr Orsedd],

Ymddiheuro am fod cyhyd heb ateb ei lythyr. Diolch am ddod â'r hyn sydd dan sylw gerbron Pwyllgor yr Orsedd. Mae'n deall o'r ateb nad yw'r Orsedd yn dymuno symud ymhellach yn y cyfeiriad a awgrymwyd. Pe byddai cyfansoddiad yr Orsedd yn wahanol gellid gwneud rhywbeth a fuasai o fudd i iaith a llên Cymru. Yr hyn y mae'r llythyr blaenorol yn ei ddweud felly yw 1) y gall yr Orsedd ei hunan heb unrhyw gydweithrediad o'r tu allan ddwyn diwygiad i'r Eisteddfod a 2) bod croeso i W. J. Gruffydd i ymuno â'r Orsedd. Y mae popeth felly fel yr oeddynt o'r blaen ond fod pawb yn gwybod yn sicr ymhle maent yn sefyll. Mae pob croeso iddo gyhoeddi'r ohebiaeth. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd at Percy E. Watkins, Bwrdd Addysg, Llundain],

Mae'n ceisio llunio darlun brysiog o hanes addysg gynradd ar gyfer cofiant O. M. Edwards. Holi os gwyr ef am unrhywun yn y Bwrdd a all roi gwybodaeth iddo am hanes ysgol Llanuwchllyn. Ysgol yr Eglwys oedd hi yng nghyfnod O. M. Edwards. Hwyrach y bydd angen ei boeni eto yn nes ymlaen yngl?n ag addysg uwchradd. Dywed Mary Davies wrtho mai Percy E. Watkins sydd â'r wybodaeth yngl?n ag apwyntiad Owen Owen. Mae'n dymuno cael sgwrs ag ef. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd] at [J.] Goronwy Edwards, Coleg yr Iesu, Rhydychen,

W. J. Gruffydd yn rhoi ei resymau yn erbyn cyhoeddi blodeugerdd Gymraeg gan Wasg Clarendon. Y mae ei Flodeugerdd Gymraeg ef yn cael derbyniad da ac nid yw yn meddwl fod lle i flodeugerdd arall. Hwyrach y gellid cyfiawnhau cael cyfrol yn cynnwys gwaith beirdd diweddar fel Parry-Williams a Williams Parry. Nid yw W. J. Gruffydd yn credu y gall un flodeugerdd gynnwys y mesurau caeth a rhydd ynghyd. Gellid cyfiawnhau blodeugerdd o gywyddau yn dangos datblygiad y cywydd. Byddai Gwasg Prifysgol Cymru yn gwrthwynebu gweld Rhydychen yn cyhoeddi cyfrol a fyddai'n bygwth gwerthiant Y Flodeugerdd Gymraeg. Hwyrach y gellid ychwanegu ychydig gerddi at y gwaith hwnnw a'i ailgyhoeddi fel yr Oxford Book of Welsh Verse. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd] at Ifan Ab Owen Edwards,

Y mae wedi derbyn y papurau a'r llythyrau ac y mae'r trefniant ariannol yn dderbyniol. Ei syniad ef am y [cofiant] yw dwy gyfrol tua phedwar can tudalen yr un. Gellid rhannu hynny yn ddeuddeg rhan o 72 tudalen yr un a'i gyhoeddi fesul rhan fel y gwnaed gyda'r Geiriadur Beiblaidd. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd] at Ifan Ab Owen Edwards,

Y mae wedi llunio braslun o'r cofiant cyfan ac wedi gorffen ysgrifennu tua chwarter ohono. Fe gymer y gweddill ryw dri mis arall cyn y bydd yn barod i'r wasg. Mae'n amser i Ifan ab Owen Edwards ddechrau llunio'r llyfryddiaeth gyflawn ac y mae'n bryd dechrau trafod y mater gyda chyhoeddwr. Gallai brofi'n waith drud. Mae'n awgrymu Hughes a'i Fab, Gwasg Aberystwyth a Gwasg y Brifysgol. Addawodd W. J. Gruffydd i Prosser Rhys y cai gyfle i ystyried y gwaith, ond mai Ifan ab Owen Edwards oedd y rheolwr busnes. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd] at Ifan Ab Owen Edwards,

Wrth fynd drwy lythyrau O. M. Edwards mae'n sylwi bod bwlch mawr ynddynt, sef ei gyfnod yn y Senedd. Y mae mwy o dywyllwch ynghylch y cyfnod hwn na'r un yn ei hanes. Tybed a oes yna lythyrau perthnasol ar gael yn rhywle?. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd] at Ifan Ab Owen Edwards,

Mae'n addo gwneud rhestr o gyfraniadau O. M. Edwards i'r cylchgronau. Mae'n bwriadu rhoi nodyn yn Y Llenor yngl?n â chyfeiriadau at weithiau diarffordd O. M. Edwards. Mae'n fodlon peidio â defnyddio Gwasg y Brifysgol ond bydd gofyn holi am amcangyfrifon gan nifer o weisg. Mae'n debyg mai Hughes a'i Fab a gaiff y gwaith yn y diwedd, ond ceir gwell telerau os credant bod eraill yn ceisio am y gwaith. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd at Gofrestrydd Coleg Caerdydd, D. J. A. Brown],

Adroddiad ar staffio Adran y Gymraeg. Pwysleisio pwysigrwydd dysgu Cymraeg yn y pedwar coleg oherwydd na wneir hynny yn unman arall. Mae dyletswydd ar ddarlithwyr Cymraeg i gynhyrchu testunau ar gyfer eu dosbarthiadau. Mae'n amlinellu'r ddarpariaeth ar gyfer dysgu'r Wyddeleg ac astudiaethau Gwyddelig yn Iwerddon. Mae'n cynnwys siart yn dangos y staffio yn adrannau'r colegau eraill a'r nifer cyfatebol o fyfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau Cymraeg. Maent i gyd yn tanlinellu mai adran Caerdydd sy'n dioddef fwyaf. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd] at [Gilbert] Norwood,

Ysgrifennodd am ei agwedd at y rhyfel yn Y Llenor. Yn yr erthygl ceisiodd ddangos fod Pabyddiaeth a Thotalitariaeth bob amser yn gyfochrog. Ei unig ofid yw y bydd Cymru, gweddill Prydain ac, yn wir, gweddill y byd yn cael eu gwaredu oddi wrth ddemoniaeth y dylid bod wedi ei goncro 2000 o flynyddoedd ynghynt. Sôn am staff Adran y Clasuron yng Ngholeg Caerdydd. Bu ymchwiliad yn ystod y tymor i ddiswyddiad gwraig ar y staff a oedd yn disgwyl plentyn. Olive Wheeler a oedd yn gyfrifol am y diswyddiad. Yr oedd hi wedi cefnogi hawl gwragedd priod i gadw eu gwaith ond nid oedd wedi rhagweld y byddai gwragedd priod yn cael plant! Trafod y bomio a fu ar Fryste a Chwfentri. Holi am hanes Canada ac agweddau yno tuag at y rhyfel. Copi teipysgrif.

Canlyniadau 3781 i 3800 o 839215