Mae'n fodlon anfon copi o gatalog teipiedig y llawysgrifau i'r pedwar coleg. Y mae 15,000 o lawysgrifau a 130,000 o ddogfennau a phapurau yn y Llyfrgell bellach. Y mae'r staff wedi gweithio'n galed yn y tair blynedd a hanner ers i W. Ll. Davies gymryd yr awenau. Teipiwyd cymaint fyth ag a ellid o'r schedules a'u rhwymo ar gyfer eu defnyddio gan y darllenwyr. Daeth nifer helaeth o gasgliadau gwerthfawr i mewn yn ddiweddar, mwy nag erioed o'r blaen. Rhestrir rhai o'r rhestrau a baratowyd. Y mae chwech aelod o staff yn Adran y Llawysgrifau yn awr lle roedd dau, Diverres a Marjorie Hall yn 1919. Y mae ef a Miss [Irene] George yn paratoi Arweinlyfr i'r prif gasgliadau. Ni ellir sbario Miss George i adolygu'r Index to the Morris Letters er cymaint y buasai'n hoffi gwneud hynny.