Dangos 839266 canlyniad

Disgrifiad archifol
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

9559 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

W. N. Bruce, Albury Heath,

Diolch am ei lythyr a'r crynodeb; y mae'n anfon copi o grynodeb o'i dystiolaeth yntau. Nid oes dim ynddynt sy'n gwrth-ddweud ei gilydd. Prif fwriad W. N. Bruce yw pwysleisio'r angen am lyfrau gosod. Y mae'n deall ofnau W. J. Gruffydd ynghylch cyfansoddiad y Cyngor Ymgynghorol. Nid trwy bleidlais y mae gweld gwir gryfder corff fel hwn. O ddewis yr elfen academaidd yn ofalus gall ei ddylanwad fod gystal â deg gwaith ei nerth pleidleisio.

W. N. Bruce, Albury Heath,

Mae cyfiawnhad dros i W. J. Gruffydd ymgeisio am swydd Prifathro Coleg [Caerdydd]. Pe na bai W. N. Bruce ar y pwyllgor [dewis] byddai yn falch iawn o ysgrifennu tystlythyr iddo. Gan ei fod ar y pwyllgor y mae'n gorfod bodloni ar addo rhoi ystyriaeth deg i'r cais. Byddai wedi synnu ac yn siomedig pe na roddid enw W. J. Gruffydd ymlaen ar gyfer y swydd. Nid yw yn gwybod eto pa enwau eraill y byddant yn eu hystyried.

W. N. Bruce, Albury Heath,

Bydd yr ôl-nodiad i'r llythyr amgaeëdig [sydd ar goll] o ddiddordeb i W. J. Gruffydd. Y mae W. N. Bruce yn mynd i roi tystiolaeth gerbron Pwyllgor Ymgynghorol y Bwrdd Addysg. Y mae'n falch o glywed bod W. J. Gruffydd wedi cael ei alw hefyd. W. N. Bruce yn bwriadu codi mater cyhoeddi llyfrau gosod ar gyfer pob lefel addysgol, nid rhai yn Gymraeg yn unig, er mai rheiny ddylai gael y sylw yn gyntaf.

W. N. Bruce, Albury Heath,

Y mae wedi darllen erthygl W. J. Gruffydd yn y Western Mail ['The Case Against a National Council of Education for Wales', t. 11]. Dywed ei bod yn ddiddorol a dewr, er nad yw ef yn cytuno â'i safbwynt. Trafodir y syniad na ellir gweithredu cynllun W. N. Bruce heb greu swydd Ysgrifennydd Gwladol i Gymru. Yr ail bwynt i'w drafod yw sefydlu perthynas bendant rhwng arholiad ac archwiliad. Adroddir hanes argyfwng y Bwrdd Addysg wrth geisio dosbarthu arian i ysgolion uwchradd yng Nghymru flynyddoedd ynghynt. Yr oedd Owen Edwards ac Alfred Davies i gael defnyddio'r arian fel y mynnent. Mae W. N. Bruce yn gweld eisiau ei gysylltiad a'r Brifysgol yn fawr iawn ond bu'n rhaid iddo dorri'r cysylltiad oherwydd afiechyd.

W. M[orris],

Stockport. Cerdyn post yn hysbysu Carneddog mai Griffith Jones yw awdur yr alargan a anfonwyd iddo.

?W. Morris,

Porthmadog. Cerdyn post yn dweud iddo gyrraedd adref a'i fod yn mynd i Gaernarfon yn y bore.

W. Morris Jones,

Porthmadog. Diolch am yr englyn ar ben ei flwydd a ymddangosodd yn Yr Herald.

W. M. Roberts,

Hughes a'i Fab, Wrecsam. Wedi cytuno ynghylch Cyfaill yr Adroddwr.

W. M. Roberts,

Hughes a'i Fab, Wrecsam. Gofyn iddo adael Ystraeon Gwlad hyd nes iddynt glirio'r gwaith mewn llaw.

W. M. Roberts,

Hughes a'i Fab, Wrecsam. Trafod lle tafodiaith mewn llenyddiaeth. Saesneg/English.

W. M. Roberts,

Hughes a'i Fab, Wrecsam. Anfon siec am hawlfaint Cyfaill yr Adroddwr, trafod manylion cyn cyhoeddi.

W. M. Roberts,

Hughes a'i Fab, Wrecsam. Trafod hawlfraint Yr Adroddwr Ieuanc.

W. M. Roberts,

Hughes a'i Fab, Wrecsam. Nid ydynt yn barod i gyhoeddi dim heblaw'r hyn a gytunwyd eisioes.

W. M. Roberts,

Gee a'i Fab, Dinbych. Falch o roi amcangyfrif iddo os anfonir copi atynt yn gyntaf.

W. M. Roberts (Hughes A'i Fab),

Wrecsam. Mae O. J. Owen am i RDR ysgrifennu ffug-chwedl cyffelyb i Ty Capel y Cwm i ymddangos yn Yr Ymwelydd Misol yn ystod 1910. Awgrymu llunio nofel a'i chefndir yng nghyfnod Mari Waedlyd. Derbyniodd adolygiad Y Genedl ar Y Pentre Gwyn.

Canlyniadau 3661 i 3680 o 839266