Showing 246 results

Archival description
Only top-level descriptions file
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Barddoniaeth amrywiol,

  • NLW MS 16799D.
  • file
  • 1733-[1970].

Casgliad o farddoniaeth amrywiol, 1733-[1970], yn tarddu o nifer o ffynhonnellau, wedi eu derbyn rhwng 1910 a 1970 a'u hel gyda'u gilydd yn y Llyfrgell Genedlethol. = A collection of miscellaneous poetry, 1733-[1970], derived from various sources, accessioned between 1910 and 1970 and collected together at the National Library of Wales.

Llythyr o Wisconsin,

  • NLW Facs 1009.
  • file
  • [2006].

Llungopïau o lythyr, 1879, oddi wrth J. a W. James at eu teulu yn Nhalybont. Ymfudodd y pâr o Bontrhydfendigaid i Wisconsin yn 1847, ynghyd â throsiad i'r Saesneg. = Photocopies of a letter from J. and W. James, 1879, to their family in Talybont. The couple emigrated from Pontrhydfendigaid to Wisconsin in 1847, together with an English translation.

Cofiant Thomas Edward Ellis, Cyfrol I

  • NLW MS 16362C.
  • file
  • [?1942]-[1944]

Llawysgrif, wedi ei baratoi ar gyfer y wasg, o fywgraffiad T. I. Ellis o'i dad, Thomas Edward Ellis, Cofiant: Cyfrol I (1859-1886) (Lerpwl, 1944). = Manuscript, prepared for the press, of T. I. Ellis's biography of his father, Thomas Edward Ellis, Cofiant: Cyfrol I (1859-1886) (Liverpool, 1944).
Ysgrifennwyd y llawysgrif yn bennaf ar ddalennau rhydd o lyfrau ateb arholiadau. Mae cywiriadau, arnodiadau a throednodiadau wedi eu hychwanegu mewn pensil; mae nifer o frawddegau a rhai paragraffau wedi eu dileu, yn arbennig ar ff. 2, 19, 213 a 223, ac mae newidiadau ac ychwanegiadau sylweddol wedi eu darparu ar ddalennau ychwanegol. Mae'r newidiadau yma wedi eu hymgorffori yn y fersiwn cyhoeddedig. = The manuscript is written mostly on loose leaves from exam answer books. Corrections, annotations and footnotes have been added in pencil; several sentences and some whole paragraphs have been deleted, in particular on ff. 2, 19, 213 and 223, with major alterations and additions supplied on additional leaves. These alterations are incorporated in the published version.

Ellis, T. I. (Thomas Iorwerth), 1899-1970

Dyddiadur D. Cynddelw Williams,

  • NLW ex 2789.
  • file
  • 1881-1943.

Dyddiadur y Parchedig D. Cynddelw Williams, a oedd yn enedigol o Aberystwyth, a gadwyd ganddo fel caplan i'r Fyddin yn Ffrainc, 12 Hydref 1914 - 6 Medi 1920. Ceir torion o'r wasg wedi eu pastio ar glawr blaen ac ôl y gyfrol yn ymwneud â'r Groes Filwrol a ddyfarnwyd iddo yn 1917 am ei ddewrder neilltuol wrth gyflawni'i ddyletswyddau ar faes y gad ac ysgrif goffa iddo, 1943. Ceir hefyd gytundeb prentisiaeth William Williams gyda Williams a Metcalfe, Aberystwyth, 11 Chwefror 1889; ei dystlythyrau a'i dystysgrifau dadlwytho fel morwr, 1895-8, a'i dystysgrif fel peiriannydd, 20 Ebrill 1897; a nodiadau mam y rhoddwr o bregethau a glywodd yn Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Llandudno. = A diary kept by Reverend D. Cynddelw Williams, originally from Aberystwyth, as chaplain to the Forces in France, 12 October 1914 - 6 September 1920. Press cuttings have been pasted on the front and back cover of the volume relating to awarding him the Military Cross in 1917 'for conspicuous gallantry and devotion to duty', and his obituary, 1943. Also included is an indenture of apprenticeship of William Williams to Messrs Williams and Metcalfe, Aberystwyth, 11 February 1889; testimonials and certificates of discharge, 1895-8, and his certificate as second engineer, 20 April 1897; and notes, taken by the donor's mother, of sermons preached at the Calvinistic Methodist Church, Llandudno.

Williams, David Cynddelw, 1870-1942.

Llythyrau Richard Bennett,

  • NLW ex 2823.
  • file
  • 1872, 1908-1935.

Llythyrau personol yr hanesydd Richard Bennett, Hendre, Pennant, Llanbryn-mair, a ysgrifennodd yn bennaf at ei gefnder Richard Jones, Pertheirin, Caersws, ac oddi wrtho yntau, a llythyrau oddi wrth aelodau eraill o'r teulu; ynghyd â dyddiadur Laura Pryce, Castellfawr, [Rhoslefain], 1872.

Bennett, Richard, 1860-1937

Results 241 to 246 of 246