Showing 246 results

Archival description
Only top-level descriptions file
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Cofnodion Capel Tabernacl (B), Caerfyrddin,

  • NLW ex 2889 (i) & (ii)
  • file
  • 2003-2011.

Copïau o gofnodion EglwysTabernacl (Bedyddwyr), Caerfyrddin, wedi eu casglu ynghyd gan yr ysgrifennydd Mr Ken Davies.

Tabernacl (Church : Carmarthen, Wales)

Papurau Ted Breeze Jones,

  • NLW ex 2901 (i-iii)
  • file
  • 1942-2004.

Papurau Ted Breeze Jones, awdur, darlledwr a ffotograffydd adar, gan gynnwys ei ddyddiaduron ef a’i wraig Anwen yn cofnodi teithiau i Kenya, Gambia, Yr India a Fflorida, 1942-1995 (gyda bylchau); nodiadau'n deillio o raglenni ‘Byd natur’ ar Radio Cymru; ei ymchwil ar yr arlunydd Kelt Edwards, gan gynnwys sgript ‘Goleuo’r sêr’; ynghyd â chofnodion, cynlluniau ac astudiaeth dichonoldeb, 2001-03, yn ymwneud â Gweithgor Canolfan Adar Ted Breeze Jones.

Jones, E. V. Breeze (Edward V. Breeze), 1929-1997.

Papurau Gwilym Tudur (Siop y Pethe) = : Gwilym Tudur (Siop y Pethe) Papers,

  • NLW ex 2907 (i a ii)
  • file
  • 1880-2014.

Gohebiaeth Gwilym Tudur, 1980-1994, yn ymwneud â’i yrfa fel llyfrwerthwr yn Siop y Pethe, Aberystwyth. Sefydlwyd y siop ddiwedd 1968. Ceir llythyrau’n ymwneud ag archebion gan gwsmeriaid tramor a cheisiadau gan eraill am lyfrau newydd ac ail law. Ymhlith yr effemera a gasglwyd ganddo mae papurau, 1968-70, yn ymwneud â record o anerchiad yr Athro J. R. Jones, Abertawe, i Undeb Cymru Fydd yn Aberystwyth; papurau’n ymwneud â sefydlu Cymdeithas Bob Owen, 1976-2014; a deunydd printiedig yn ymwneud â Steic y Glowyr, 1984-5.

Correspondence of Gwilym Tudur, 1980-1994, relating to his work as a bookseller in Siop y Pethe, Aberystwyth. The shop was established at the end of 1968. The letters relate to orders from customers overseas and requests by others for new and second hand books. Ephemera collected by him include papers 1968-70, relating to a record of an address by Professor J. R. Jones Swansea to Undeb Cymru Fydd in Aberystwyth; papers relating to establishing Cymdeithas Bob Owen, 1976-2014; and printed material relating to the Miners' Strike, 1984-5.

Tudur, Gwilym.

An Gwari-Nadelik,

  • NLW ex 2910.
  • file
  • 2015/

Copi drafft, 2015, o 'An Gwari-Nadelik' ('Y Gêm Nadolig'), libretto mewn Cernyweg gan 'Bardh Gwerin' (Tim Saunders). = Draft copy, 2015, of 'An Gwari-Nadelik' ('Y Gêm Nadolig'), the libretto in Cornish by 'Bardh Gwerin' (Tim Saunders).

Saunders, Tim.

Results 241 to 246 of 246