Showing 982 results

Archival description
Papurau W. J. Gruffydd
Print preview View:

J. E. Williams ('John Tynyfawnog'), Dwyran,

Diolch am Hen Atgofion ar ffurf llyfr. Bwriadodd ysgrifennu pan ymddangosodd y gyfres gyntaf a'r sôn am y 'grwp'. Tua'r adeg honno y bu farw 'Bob Jones Peintar' ac felly dim ond J. E. Williams sydd yn dal yn fyw. Mae merch i 'Katie'r Ffynnon' yn byw yn Nwyran, ei thad yw rheithor Llangeinwen. Adwaenai J. E. Williams dad ac ewythr Huw W. J. Gruffydd yn dda. Cofia 'Eos Mai' yn canu mewn cyngerdd yn Ysgoldy Llandinorwig. Adwaenai'r hen 'Gando' hefyd a gwyddai am amryw o'i driciau direidus. Mae'n cofio mynd i Fethel unwaith i gystadlu ar adrodd 'Arwerthfa'r Caethwas'. Gofynnwyd iddo ddechrau adrodd o ganol y darn yn y rhagbrawf, ystyfnigodd yntau ac ni chafodd lwyfan. Hoffai weld yr 'Hen Atgofion' yn parhau.

John Williams, Llandudno,

Mae'n cytuno â llythyr W. J. Gruffydd yn Y Genedl. Nid yw'n bwriadu gwneud dim yngl?n â'r Coroniad a bydd mwyafrif ei eglwys yn ei gefnogi y tro hwn hefyd. Hydera y bydd llu o'i gydweinidogion yn cytuno â'i awgrym. Cerdyn post.

John Williams, Llundain, N.W.10,

Mae rhan olaf llythyr Syr William Jenkins yn y Western Mail y diwrnod cynt yn gamdystiolaeth ac yn gwbl annheilwng. Hydera na fydd i W. J. Gruffydd geisio ei ateb. Mae'r holl Gymry meddylgar yn coleddu'r syniadau uchaf am ddoniau W. J. Gruffydd a'i ran yn cyfoethogi llên Cymru. Na fydded iddo daflu gemau o flaen y moch.

Lewis Williams, Treharris,

Mae'n anfon stori fer i'r Llenor ['Ennill y Minimym', cyf. XV (1936), tt. 156-60]. Yr oedd y stori yn un o dair, a daeth yr awdur yn chweched allan o un ar hugain yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Stori pwll glo ydyw. Mae'r ffeithiau ynddi am amgylchiadau'r glöwr yn hollol wir.

Robert Williams Talycafn,

Mae'n ysgrifennu iddo fwynhau darllen llyfr W. J. Gruffydd ar gywyddau Goronwy Owen [Cywyddau Goronwy Owen (Casnewydd, 1907)]. Gormod fyddai disgwyl i bawb gytuno ag ef ar bob pen. Dadleuodd W. J. Gruffydd mewn ffordd deg a boneddigaidd. Mae Cymru yn gallu magu rhai sy'n medru esbonio cyfrinion ei llenyddiaeth. Mae'n llawlyfr a all gystadlu â goreuon llawlyfrau y clasuron Lladin a Groeg a gyhoeddir gan weisg y prifysgolion Seisnig.

Stephen [J.] Williams, Abertawe,

Amgau adolygiad ar Robinson Crusoe i'r Llenor ar gais yr Athro [Henry] Lewis. Hwyrach ei fod yn rhy hir, ond haws talfyrru nag ychwanegu. Buont yn rhegi colled y Brifysgol a llawenhau ennill ysgolheictod a llenyddiaeth Gymraeg [yn sgîl peidio penodi W. J. Gruffydd yn brifathro yng Nghaerdydd].

W. Williams, Llandudno,

Arferai fod yn Arolygydd Ysgolion o dan Syr Owen Edwards. Y mae wedi ymddeol o'r gwaith hwnnw ers dros ddeng mlynedd. Darllenodd Y Tro Olaf gan W. J. Gruffydd gyda blas. Mae'r hyn a ddywed am 'Hedd Wyn' wedi ei annog i ysgrifennu ato. Cymerodd ddiddordeb mawr mewn barddoniaeth a'r cynganeddion ond methodd erioed â chael blas ar ddarllen gwaith 'Hedd Wyn'. Ni chafodd 'afael' ar awdl y 'Gadair Ddu' ychwaith. Wedi darllen ysgrif W. J. Gruffydd y mae wedi codi ei galon. Mwynhaodd hefyd yr ysgrif 'Y diweddar Pontius Pilat' a'r sôn am Fair o Fagdala. Dywed H. P. Latham yn ei lyfr The Risen Master nad oes sicrwydd mai yr un oedd hi i'r 'bechadures' y ceir sôn amdani yn Luc vii, 37-50, na bod lle i amau ei diweirdeb. Mae'r dehongliad o'r modd yr atgyfododd yr Iesu yn cydfynd â dehongliad Pwyllgor Caerdydd o Ioan xx, 7. Cafodd bleser mawr o ddarllen cofiant O. M. Edwards. Mae'n darllen fel rhamant.

'Bill' [William J. Williams], Caerdydd,

Awgrymwyd enw W. J. Gruffydd ar gyfer bod yn gynrychiolydd Cymru ar Bwyllgor yr Ysgolion Bonedd. Byddai'n well ganddo weld W. J. Gruffydd yn gwasanaethu ar y Pwyllgor Ail-lunio and nid yw ei enw wedi ei gynnwys ar gyfer hwnnw. Cyhoeddwyd yr enwau yn Nhy'r Cyffredin y noson cynt. Y mae William J. Williams ei hunan ar y pwyllgor hefyd. Mae'n trefnu iddynt fynd i Aberteifi ddydd Mawrth Gwyl y Banc a daw Wheldon i lawr gyda William Thomas. Mae Tom Owen yn holi os oes modd iddynt aros yn Abergwaun. Y syniad yw mynd i Aberteifi ddydd Mawrth neu ddydd Mercher a dychwelyd ddydd Iau neu ddydd Gwener.

'Uncle O',

Dinorwig. Dweud beth sydd ar garreg fedd 'Glan Padarn' a'i wraig Mary. Manylion amdano. Bu farw Mary yn 1878 yn 28 oed ac yna priododd ei chwaer. Bu iddo ddau fab. Disgrifiad corfforol ohono. Bu mewn ysgol yn Nulyn a Rhuthun. Bu'n gweithio am gyfnod byr ym Mhenbedw. Aeth yn aberth i 'nychdod' yn gynnar iawn. Roedd llais tenor swynol ganddo. Cadwai ei freichiau yn syth i lawr pan âi i hwyl. Dywedodd 'Llew Llwyfo' lawer gwaith mai'r tri bardd mwyaf canadwy oedd 'Ceiriog', 'Mynyddog' a 'Glan Padarn'. Arferai gyfansoddi alawon i'w siwtio ei hun o ran llais. Nid yw'r alawon hyn wedi eu cyhoeddi. Sgets o'r garreg fedd.

L[ionel] Twiston Davies, Trefynwy,

Mae Lionel Twiston Davies yn bwriadu cyflwyno cyfres o bortreadau o enwogion Cymru i'r Amgueddfa Genedlaethol. Gofynnodd i Evan Walters ymgymryd â'r gwaith a hydera y gall W. J. Gruffydd gytuno i gael tynnu ei lun.

T. Eric Davies, Dartmouth, Nova Scotia,

Diolch am araith W. J. Gruffydd yn Undeb yr Annibynwyr ym Machynlleth. Bu T. Eric Davies yn Annibynnwr, ond y mae erbyn hyn yn Undodwr. Cytuna â W. J. Gruffydd fod Calfiniaeth 'wedi gwneud cabledd o etholedigaeth Pawl'. Mae'n diolch i W. J. Gruffydd am ei gyfraniad at ddeall Cymru a phethau Cymreig yn well.

Tho[ma]s H. Davies, Port Said,

Diolch i W. J. Gruffydd am y wledd a gafodd o ddarllen cofiant O. M. Edwards. Yr oedd nain Thomas H. Davies yn frodor o Lanuwchllyn. Yn amser ei nain defnyddid math cynnar o Welsh Not yn Ysgol y Llan, sef rhwng 1858 ac 1863. 'Y pryd hwnnw, nid am eu gyddfau y rhoesid y darn pren, ond yng nghegau'r plant. Nis gwn pa faint oedd hyd y darn pren, ond rhoesid ef yn nennol yn eu cegau am siarad Cymraeg'.

W. Lloyd Davies, Bournemouth,

Mae W. Lloyd Davies yn barod i anfon at olygyddion y Cambrian Archaeological Journal i brotestio am nad oedd Harold Hughes, un o'r golygyddion, yn fodlon cynnwys slip hysbysebu yngl?n â chofiant O. M. Edwards.

Ifan Ab Owen Edwards, Llanuwchllyn,

Diolch i W. J. Gruffydd am gynnig llety iddo ar 11 Ebrill ac am gynnig dod i'w gyfarfod yn Abercynon. Mae'n bwriadu dod â'i gar ei hun. Ysgrifennwyd rhyw lun ar hanes plwyf Llanuwchllyn gan gyn-ficer, William Hughes, ond nid oes fawr iawn o wybodaeth ynddo heblaw am ddyddiadau geni a marwolaeth ficeriaid y plwyf. Mae'n amgau copiau o ddau rifyn o bapur newydd a gychwynnodd O. M. Edwards ar gyfer Llanuwchllyn, dim ond dau rifyn a ymddangosodd. Mae'n addo mynd ati i lunio'r llyfryddiaeth cyn bo hir ond y mae dros ei ben a'i glustiau mewn gwaith ar hyn o bryd.

[W. J. Gruffydd] at Ifan Ab Owen Edwards,

Y mae wedi llunio braslun o'r cofiant cyfan ac wedi gorffen ysgrifennu tua chwarter ohono. Fe gymer y gweddill ryw dri mis arall cyn y bydd yn barod i'r wasg. Mae'n amser i Ifan ab Owen Edwards ddechrau llunio'r llyfryddiaeth gyflawn ac y mae'n bryd dechrau trafod y mater gyda chyhoeddwr. Gallai brofi'n waith drud. Mae'n awgrymu Hughes a'i Fab, Gwasg Aberystwyth a Gwasg y Brifysgol. Addawodd W. J. Gruffydd i Prosser Rhys y cai gyfle i ystyried y gwaith, ond mai Ifan ab Owen Edwards oedd y rheolwr busnes. Copi teipysgrif.

Ifan Ab Owen Edwards, Aberystwyth,

Y mae'n teimlo'n dorcalonnus iawn yngl?n â'r cofiant. Mae'n gwybod maint llafur W. J. Gruffydd hyd yn hyn ond y mae'n anobeithio gweld ffrwyth y llafur hwnnw. Mae'n tybio weithiau mai gwell fyddai gofyn i rywun arall ddechrau o'r dechrau. Mae fel petai rhyw falltod ar y cofiant.

Results 241 to 260 of 982