Showing 289 results
Archival description- 252.
- File
Part of Papurau Amanwy,
Copi arall o'r anerchiad "Trem yn Ol" (gweler rhif 215 uchod) yn cynnwys penillion digri am ardal Rhydaman, y dechrau yn Saesneg gan fod yr anerchiad wedi ei fwriadu ar gyfer Ladies' Guild, 12 tt.
- 258.
- File
- 1950.
Part of Papurau Amanwy,
"Cornel y Llenor - Ymweliad â Rhydaman" (Tywysydd - Amanwy), darllediad ar Raglen Cymru, 22 Chwefror 1950, rhwng 10.00 a 10.30 pm, 9 tt.
- 259.
- File
- 1953.
Part of Papurau Amanwy,
"Pryddestau Radio - 'Yr Hen Gwm' gan Amanwy", y cyfarwyddo gan Aneirin Talfan, darlledwyd ar Raglen Cymru'r BBC o Abertawe, 27 Ebrill 1953, 7.15-7.45 pm, 17 tt.; gweler hefyd rif 88 uchod.
- 263.
- File
- 1932.
Part of Papurau Amanwy,
Copi o'r gyfrol Tom Parry ac Amanwy, Cerddi'r Lleiafrif sef yr awdl orau yn ol Dr T. H. Parry-Williams, a'r bryddest orau yn ol Cynan yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan, 1932 (Aberystwyth, 1932), 30 tt., sy'n cynnwys pryddest ailorau Amanwy, "A Ddioddefws a Orfu", yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan y flwyddyn 1932; gweler hefyd rif 82 uchod.
- 264.
- File
- 1942.
Part of Papurau Amanwy,
Copi o'r gyfrol Blodeuglwm Serch gan Bump o'i Gyfeillion er cof am David Mainwaring, Pen-y-groes, Sir Gaerfyrddin. Bu farw Ebrill 2, 1941 (Llandysul, 1942), sy'n cynnwys cerdd "Er Cof" o waith Amanwy, t. 11.
- 266.
- File
- 1949.
Part of Papurau Amanwy,
Rhaglen brintiedig: Amman Valley Grammar School Old Pupils' Association, Order of Service at the Unveiling Ceremony at the Grammar School, Ammanford on Thursday, May 5th, 1949, at 7 p.m. of the School War Memorial To the Pupils of the Amman Valley Grammar School who gave their lives in the Second World War, 1939-45. Ar gefn y daflen ceir cerdd bwrpasol ar gyfer yr achlysur o waith Amanwy yn dwyn y teitl "'Byddant Fyw heb Iddynt Fedd.' Er cof am lanciau Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman a syrthiodd yn Rhyfel 1939-45.".
- 273.
- File
- 1923-1954.
Part of Papurau Amanwy,
Ffeil o bapurau newydd, 1923-54, sef casgliad o erthyglau Amanwy yn cynnwys y gyfres "Colofn Cymry'r Dyffryn" o'r Amman Valley Chronicle yn dwyn y ffugenw 'Cerddetwr', cyfres "O Gwm i Gwm" o'r Cymro, ynghyd â beirniadaethau o'r Brython a Baner ac Amserau Cymru a chofnod ei farw yn Y Cymro.
- 275-78.
- Series
Part of Papurau Amanwy,
- 3.
- File
- 1911.
Part of Papurau Amanwy,
"Hwyrnos Gauaf" ar gyfer Eisteddfod Gadeiriol Ffynnon y Byrgwm, 15 Mehefin 1911. Beirniad: 'Brynach', [John Brynach Davies, (1872-1923)]. Ffugenw: 'Ieuan'. Nodyn: "Pryddest i 'Yr Hwyrnos' Cyflwynedig i Eisteddfod Goronog 'Salem' Penycae. Dydd Gwyl Dewi Mawrth 1af 1913. Beirniad: 'Cernyw', [Y Parch. Hugh Williams, (1843-1937), Corwen]". Gweler rhif 7 isod.
- 11.
- File
- 1914.
Part of Papurau Amanwy,
"Marwnad i'r diw[eddar] Mr William Th[omas] ar gyfer Eisteddfod Saron, [ ? ] 1914". Beirniad: 'Gwili', [John Gwili Jenkins, (1872-1936)]. Ffugenw: 'Y Tant Briw'.
- 17.
- File
- 1915.
Part of Papurau Amanwy,
"Y Gwladgarwr" ar gyfer Eisteddfod Gadeiriol Seion, Tir-y-dail, 2 Ionawr 1915. Beirniad: 'Gwilym Myrddin', (William Jones, 1863-1946). Ffugenw: `Pro Patria'. Llinell gyntaf: "Hawddgaraf fugail oedd yn hedd y bannau..." Gweler hefyd rifau 18 ac 20 isod.
- 18.
- File
- 1915.
Part of Papurau Amanwy,
"Y Gwladgarwr" ar gyfer Eisteddfod Gadeiriol Seion, Tir-y-dail, 2 Ionawr 1915. Beirniad: 'Gwilym Myrddin', (William Jones, 1863-1946). Ffugenw: 'Pryderi'. Llinell gyntaf: "Arwr diymffrost! sibrwd ei enw...". Gweler hefyd rif 17 uchod.
- 27.
- File
- 1916.
Part of Papurau Amanwy,
"Dychweliad y Milwr" ar gyfer Eisteddfod Rhydcymerau, Nadolig 1916. Beirniad: 'Ap Gwarnant' [Y Parch. Thomas Oswald Williams]. Ffugenw: 'Dan yr Ywen'. Llinell gyntaf: "Ymdorrai y wawrddydd blygeiniol..." Gweler hefyd rifau 111 a 122 isod.
- 30.
- File
- 1918.
Part of Papurau Amanwy,
"Pryddest Farwnadol i'r diweddar Dr Powell. Y.H. Adpar" ar gyfer Eisteddfod Goronog Twrgwyn, Calan 1918. Beirniad: 'Brynach', [John Brynach Davies, (1872-1923)]. [Ffugenw yn eisiau].
- 33.
- File
- 1918.
Part of Papurau Amanwy,
"Marwnad Tom Matthews, M.A." ar gyfer Eisteddfod Llandybïe, Llungwyn 1918. Beirniad: Y Parch. Jeremy Jones. Ffugenw: 'Y Tant Ysig'. Gweler hefyd Ambell Gainc, t. 17.