Showing 2347 results

Archival description
Sub-fonds
Advanced search options
Print preview View:

Papurau R. G. Berry

Mae'r grŵp yn cynnwys papurau, nodiadau a sgriptiau T. J. Morgan yn ymwneud ag R. G. Berry, yn enwedig ar gyfer rhaglen nodwedd ar R. G. Berry, 1954, a darlith, 1962. Mae'r grŵp hefyd yn cynnwys chwech o bregethau llawysgrif R. G. Berry, heb eu dyddio, a llythyrau yn ymwneud â'r rhaglen nodwedd, 1954. Ceir gwahanol gopïau a drafftiau o'r sgriptiau a nodiadau yn ymwneud â hwynt ar draws y grŵp.

Berry, R. G. (Robert Griffith), 1869-1945

Llawysgrifau T. Llew Jones

Deuddeg ar hugain o ddyddiaduron y bardd a'r llenor T. Llew Jones, 1957-1999, sef un gyfrol o gofnodion achlysurol rhwng 1957 a 1976, a chyfrolau ar gyfer y blynyddoedd 1965, 1970-1982, 1984-1999. Mae cyfeiriadau yn aml trwy gydol y dyddiaduron at ei feibion, Emyr Llewelyn a Iolo Ceredig Jones, at aelodau teulu'r Cilie, Cwm Tydu, Ceredigion, a ffigurau amlwg eraill ym myd barddoniaeth a llenyddiaeth Gymraeg, ac at wyddbwyll. = Thirty-two diaries of the poet and author T. Llew Jones, 1957-1999, comprising one volume of occasional entries for the period 1957 to 1976, and volumes for the years 1965, 1970-1982, 1984-1999. There are frequent references throughout to his sons, Emyr Llewelyn and Iolo Ceredig Jones, to members of the Cilie family of Cwm Tydu, Ceredigion, and other prominent Welsh poetic and literary figures, and to chess.

Papurau T. Eirug Davies

Papurau T. Eirug Davies yn cynnwys ei ohebiaeth, dyddiaduron, barddoniaeth, a chyfansoddiadau a anfonodd i gystadlaethau’r Eisteddfod Genedlaethol.

Davies, T. Eirug (Thomas Eirug), 1892-1951

Papurau personol

Gohebiaeth yn ymwneud â’i chyfansoddiadau llenyddol, 1937-2011, papurau'n deillio o’i chyfnod fel disgybl ysgol, 1934-1940, a phersonalia, 1947-2017.

Papurau ymchwil Alun Eirug Davies

Papurau ymchwil Alun Eirug Davies, [1911]-[2017], yn ymwneud â’i gyhoeddiadau a pharatoi llyfrau am ei Dad y Parch. T. Eirug Davies, bardd a golygydd, ynghyd â phapurau ei Dad.

Davies, Alun Eirug, 1932-

Datblygiad sefydliadol

Mae’r grŵp yn cynnwys gohebiaeth a phapurau yn ymwneud â datblygiad sefydliadol y Ganolfan, [1921x1930] a 1970-1993, yn cynnwys papurau Ysgol Astudiaethau Celtaidd Coleg Prifysgol Cymru; trefnu agoriad swyddogol y Ganolfan; cynllunio adeilad y Ganolfan; staffio; a datblygiad llyfrgell y Ganolfan.

Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

Adneuon 2018 a 2019

Cofnodion gweinyddol 1939-2015; cofnodion ariannol 1931-2012; Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2002-2016; deunydd yn ymwneud a gweithgareddau'r Urdd 1929-2016; cylchgronnau ac adnoddau 1923-2000.

Results 2321 to 2340 of 2347