Showing 567 results

Archival description
series
Advanced search options
Print preview View:

Llythyrau amrywiol

Mae'r gyfres yn cynnwys tri llythyr gan aelodau hŷn o'r teulu at ei gilydd a etifeddwyd gan Bebb, 1898-1908, tystlythyr ar ran Bebb yn llaw T. Gwynn Jones, 1919, llythyr oddi wrth Ambrose Bebb at Francis Gourvil, cyfaill iddo o Finistethre, Llydaw, a ddanfonwyd yn ôl ato gan y Swyddfa Bost, 1940, a llythyr at Mrs Bebb, 1958.

Gourvil, Francis

Darlithoedd

Mae'r gyfres yn cynnwys dwy yn unig o'i ddarlithoedd Saesneg ar hanes Cymru tra ar staff y Coleg Normal.

'Y Diwygiad Protestannaidd'

Mae'r gyfres hon yn cynnwys proflenni 'Achosion Cyffredinol', sef y rhan gyntaf o erthygl a ymddangosodd mewn dwy ran dan y teitl 'Y Diwygiad Protestannaidd' yn Y Llenor, 1941.

Hanes yr Achos ym Melinbyrhedyn.

Mae'r gyfres yn cynnwys deunydd wedi ei grynhoi gan Ambrose Bebb ar gyfer 'Hanes yr Achos' ym Melinbyrhedyn ynghyd â chopi llawysgrif o'r gwaith. Er i Ambrose Bebb ysgrifennu hanes y Methodistiaid ym Melinbyrhedyn a Darowen ar achlysur canmlwyddiant yr achos yno yn 1954, oherwydd amgylchiadau ar y pryd ni chyhoeddwyd mo'r gwaith. Ymddangosodd detholiad ohono yn Y Drysorfa ym 1965-1966 wedi ei olygu gan y Parchedig Ieuan Lloyd, Rhosllannerchrugog, dan y teitl 'Beerseba (Hanes yr Achos ym Melinbyrhedyn)'.

'Y Beibl'

Mae'r gyfres yn cynnwys llawysgrifau, teipysgrifau diwygiedig a theipysgrifau terfynol o sgript radio ar y Beibl, 1948.

'Y March Gwyn'

Mae'r gyfres yn cynnwys llawysgrifau, teipysgrifau a sgriptiau terfynol o gyfieithiad Cymraeg Ambrose Bebb o 'The White Steed', drama gan Paul Vincent Caroll a gyhoeddwyd gan Macmillan ym 1944, [1944]-[1945].

Caroll, Paul Vincent,

Cofnodion a chyfrifon amrywiol

Mae'r gyfres yn cynnwys llyfrau cofnodion a chyfrifon Pwyllgor y Pregethwyr Ieuanc, Urdd y Seren Fore, Undeb y Cymdeithasau Cymreig, Undeb Bedyddwyr Ieuanc Cymru a'r 'Aged and Infirm Ministers', 1919-1941.

Llythyrau teuluol

Mae'r gyfres yn cynnwys llythyrau personol oddi wrth Lizzie Bowen, gwraig David Bowen, a'i ferched Rhiannon, Enid a Myfanwy, tra roedd Lizzie yn yr ysbyty, ac ambell lythyr ar bynciau amrywiol gan eraill, yn cynnwys David Hopkin.

Hopkin, David, d. 1948

Llythyrau oddi wrth David Bowen

Mae'r gyfres yn cynnwys llythyrau oddi wrth David Bowen at E. K. Jones, O. M. Edwards ac eraill, yn trafod materion crefyddol, Eglwys Horeb, Pump-hewl, a gwaith golygyddol David Bowen.

Edwards, Owen M. (Owen Morgan), 1858-1920

Addasiadau o weithiau Marion Eames,

Papurau'n ymwneud ag addasiadau radio, llwyfan a theledu o rai o weithiau Marion Eames, 1981-[2007], yn cynnwys I Hela Cnau, 1981; Plentyn Di-gartref, [1985x2007]; Y Ferch Dawel, 1996; ac Y Stafell Ddirgel, 2001. = Papers relating to radio, stage and television adaptations of works by Marion Eames, 1981-[2007], comprising I Hela Cnau, 1981; Plentyn Di-gartref, [1985x2007]; Y Ferch Dawel, 1996; and Y Stafell Ddirgel, 2001.

Llyfrau nodiadau a phapurau ymchwil,

Llyfrau nodiadau a phapurau ymchwil Marion Eames, 1934-[2000], gan gynnwys llyfrau nodiadau ysgol, ymchwil i gefndir hanesyddol ei nofelau, a nodiadau amrywiol eraill. = Notebooks and research papers of Marion Eames, 1934-[2000], including school notebooks, research into the historical background of her novels, and various other notes.

Gohebiaeth,

Gohebiaeth, 1967-2005, yn cynnwys gohebiaeth gyffredinol, 1967-2005; llythyron teuluol, 1968-1996; a gohebiaeth yn ymwneud ag anghydfod cyfreithiol, 1987. = Correspondence, 1967-2005, comprising general correspondence, 1967-2005; letters from family members, 1968-1996; and letters concerning a legal dispute, 1987.

Drafftiau nofelau,

Casgliad o lawysgrifau, [1964]-1981, a dderbyniwyd yn rhodd i'r Llyfrgell yn 1988, yn cynnwys drafftiau o Y Stafell Ddirgel, [1964] x [1969]; Y Rhandir Mwyn, 1970; I Hela Cnau, 1974-1975; ac Y Gaeaf Sydd Unig, 1981. = A collection of manuscripts, [1964]-1981, donated to the Library in 1988, comprising drafts of Y Stafell Ddirgel, [1964] x [1969]; Y Rhandir Mwyn, 1970; I Hela Cnau, 1974-1975; and Y Gaeaf Sydd Unig, 1981.

Llythyrau'n ymwneud â'r canghennau,

Llythyrau'n ymwneud â changhennau Merched y Wawr ledled Cymru, 1967-1975, gan gynnwys yn bennaf llythyrau at Zonia M. Bowen fel Ysgrifennydd Cenedlaethol, 1967-1970, Llywydd Anrhydeddus, 1972-1975, a golygydd y Wawr, 1968-1975, ynghylch sefydlu canghennau newydd a materion gweinyddol amrywiol; ynghyd â llythyrau gan y swyddogion cenedlaethol. Ceir llythyrau hefyd yn adrodd hanes y canghennau a'r gweithgareddau a drefnwyd ganddynt. Ceir rhestrau o gynnwys y ffeiliau, a grëwyd gan Zonia M. Bowen, o fewn y ffeiliau.

Results 181 to 200 of 567