Showing 982 results

Archival description
Papurau W. J. Gruffydd
Print preview View:

[W. J. Gruffydd] at Caradog Prichard, Caerdydd,

Roedd yn falch o dderbyn ei lythyr gan ei fod mewn cryn bryder ynghylch y modd y buasai'n derbyn y feirniadaeth. Ni chafodd W. J. Gruffydd neb pan oedd yr un oed ag yw Caradog Prichard i wneud yr un gymwynas ag ef. Mae'n hyderus y bydd cân nesaf Caradog Prichard yn well na dim a ysgrifennodd. Awgrymir ei bod hi'n hawdd i rywun benderfynu ennill coron ac 'iselhau ei waith at safon yr Eisteddfod'. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd] at Caleb Rees, Caerdydd,

Cwyno am dlodi iaith hysbyseb Gymraeg a ymddangosodd yn Y Faner. Mae'n amlwg bod rhywun wedi mynd ati i gyfieithu'r hysbyseb gyda geiriadur. Mae'n hyderu y gellir pwysleisio i'r Weinyddiaeth briodol pa mor ddifrifol yw iaith yr hysbyseb. Mae'n gosod esiampl wael ac yn destun doniolwch i weithiwr cyffredin o Gymro Cymraeg. Copi teipysgrif.

M. J. Rees, Hirwaun,

Diolch am gyfraniad W. J. Gruffydd i'r Western Mail y diwrnod cynt. Roedd ateb y golygydd yn syndod o wan. Disgwylir mwy o arweiniad oddi wrth W. J. Gruffydd yn yr argyfwng hwn. Cerdyn post.

R. E. Rees, Derwen-fawr,

Wedi bod yn gwrando ar W. J. Gruffydd ar y radio yn trafod Bethesda'r Fro. A oes modd ei chlywed eto tua 9.15 pm ar nos Sul gan fod pump o'r gloch yn amser prysur yn y wlad a llawer wedi colli'r rhaglen?. Cerdyn post.

S. O. Rees, Llandudno,

Oddi ar iddo gael ei benodi yn brifathro Ysgol John Bright ym mis Medi cafodd sawl cyfle i annerch cyfarfodydd yngl?n â'r Mesur Addysg. Mae'n ceisio pwysleisio dau beth yn ei sgyrsiau: 1) dylid codi safonau'r ysgolion gwladol i safon yr ysgolion cyhoeddus. 2) dylid agor a rhwyddhau mynediad i'r prifysgolion. Cafodd wefr o ddarllen araith W. J. Gruffydd yn Nhy'r Cyffredin. Hoffai gael caniatâd i ddyfynnu o'r araith yng nghyfarfod gwobrwyo'r ysgol, neu'n well fyth, hwyrach y gallai W. J. Gruffydd ysgrifennu neges fer ar gyfer yr achlysur.

T. J. Rees, Abertawe,

Diolch am anfon gwahanlith o'i araith yn y Senedd. Roedd eisoes wedi darllen fersiwn byr yn y Times. Y mae'r araith yn well nag y disgwyliai.

W. H. Reese, Swydd Durham,

Diolch am ddarllediad grymus. Mae W. H. Reese yn heddychwr ond y mae hefyd yn sylweddoli'r rheidrwydd o rwystro'r anifail gwyllt ar y Cyfandir rhag difa pawb. Mae'n bwriadu cyhoeddi llyfr bychan o gerddi rhyfel Medi'r Corwynt ymhen rhyw fis. Bydd yn anfon copi at W. J. Gruffydd er mwyn iddo ei adolygu yn Y Llenor.

E. Prosser Rhys, Aberystwyth,

Mae'n trafod manylion technegol yngl?n â chyhoeddi Hen Atgofion. Awgrymir dewis maint tudalen sy'n debyg i'r un a ddefnyddiwyd yn y gyfrol Y Crefftwr yng Nghymru. Hoffai sylw W. J. Gruffydd ar hyn ac ar led ymylon y tudalennau. Hoffai gynhyrchu'r llyfr campus hwn mor wych ag y bo modd. Pan gaiff ateb bydd y cysodwyr yn dechrau ar unwaith. Bydd wedi dychwelyd o'i wyliau cyn y bydd raid penderfynu ar rwymiad ond i ble y dylai anfon y proflenni?.

Ioan Rhys, Llan-non (Ceredigion),

Mae W. J. Gruffydd ac eraill o'i gyfoedion wedi dylanwadu gymaint arno yn llenyddol a chrefyddol fel ei fod wedi magu digon o asgwrn cefn i ddatgan ei syniadau yn gyhoeddus. Saer coed yw ef a'i wraig yn gofalu am gapel y M.C. yn y pentref. Ers deng mlynedd buont yn byw yn nhy'r capel. Yn fuan ar ôl penodi gweinidog newydd cafodd ei wraig daflen ac arni ddeg o reolau i'w harwyddo. Os gwrthodir eu harwyddo y mae'r teulu'n cael ei orfodi i symud o'r ty o fewn chwe mis. Mae'n anfodlon i'w wraig arwyddo oherwydd bod pwynt naw yn datgan 'Fod y tenant i gario allan unrhyw gais a ofynir gan y bugail neu y swyddogion'. Mae'n gweld cyfle ardderchog i W. J. Gruffydd i ysgrifennu llythyr agored i benaethiaid y Cyfundeb drwy'r Goleuad neu'r Cymro neu'r Western Mail. Cynhwysir copïau o'r rheolau a thri llythyr oddi wrth ysgrifennydd y capel.

R. Richards, Llangynog,

Mynegi ei siom yngl?n ag apwyntiad [prifathro] Caerdydd. Mae'n adnabod Rees yn dda ac wedi bod yn gydweithiwr iddo ym Mangor. Ni all fyth wasanaethu Cymru cystal ag y gall W. J. Gruffydd, hyd yn oed pe bai'n byw am fil o flynyddoedd. Mae W. J. Gruffydd yn sathru ar gyrn, ond yr aflwydd yw bod y cyrn yn dal i dyfu ynghynt nag y sethrir hwy. Caiff gyfle yn awr i ddal ati.

D. O. Roberts, Aberdâr,

Mae'n gwerthfawrogi'r anogaeth a roddodd W. J. Gruffydd drwy gyfrwng ei nodiadau golygyddol yn Y Llenor. Cyfeiriodd at sylwadau W. J. Gruffydd yn ei adroddiad blynyddol i'r Undeb Athrawon Cymreig. Yr oedd arwyddion cryf o ymddeffro ac o ymwybod cenedlaethol yno. Cyhudda'r Western Mail o wneud cyhuddiadau annheg yn erbyn W. J. Gruffydd bob tro y bydd yn siarad ar lwyfan. Mae'n ei annog i beidio â rhoi'r gorau i'r Llenor.

[W. J. Gruffydd at E. Jones-roberts],

Mae ei lythyr [rhif 718 uchod] yn gosod W. J. Gruffydd mewn penbleth. Bydd Lerpwl yn gofyn am dystysgrif i ddweud bod ei waith yng Nghaerdydd ar ei gwrs gradd yn ddigonol i arwain at radd M.A. Byddai'n rhaid i W. J. Gruffydd ddweud y byddai'n ofynnol i E. Jones-Roberts eistedd yr M.A. Prelim. yn ôl y rheolau. Byddent hefyd am wybod paham ei fod yn newid prifysgol. Os yw wedi pasio ei B.D. mae W. J. Gruffydd yn ei gynghori i geisio am y radd yn yr Adran Ddiwinyddiaeth. Prin y derbynnid Richard Jones o'r Wern fel testun yn yr Adran Gymraeg. Copi teipysgrif.

Emrys O. Roberts, Lerpwl,

Mae wedi cael blas mawr ar erthygl W. J. Gruffydd yn rhifyn Hydref 1940 o'r Llenor. ['Mae'r Gwylliaid ar y ffordd', cyf. XIX, tt. 112-26]. Gallai arwain i ddeffroad mawr ym meddwl politicaidd Cymru. Mae'n gofyn i W. J. Gruffydd ystyried cyhoeddi'r erthygl ar ffurf pamffledyn a pharatoi fersiwn Saesneg yn ogystal. Mae llawer yn dyheu am arweiniad yn y cyfeiriad hwn.

John Roberts, Lerpwl,

Diolch am y llyfr Hen Atgofion. Fe'i darllenodd ddwywaith a'i gael yn 'hufen bywoliaeth'. Yn sir Gaernarfon y mae ei galon. Bu mam W. J. Gruffydd yn ei ddysgu rhwng tair a chwech oed yn Ysgol y Felinheli. Mae llu o'i hynafiaid yn gorwedd ym mynwent Llanddeiniolen. Hanesyn am weld y wawr yn torri a ben yr Wyddfa. Atgofion am ardal Bethel ac am y cyfarfodydd llenyddol. Rhestru perthnasau. Bu yn gweld beddau'r teulu yn Llanddeiniolen yn ddiweddar a gofynnodd i'r clochydd a fedrai gael ei gladdu yno. Trafod y modd y bu i stâd y Faenol gosbi tenantiaid am gefnogi'r Rhyddfrydwyr. Hanes ei blant a'i hanes ei hunan. Bu'n beiriannydd ar y môr.

Kate Roberts, Tonypandy,

Cynnig stori fer i W. J. Gruffydd ar gyfer Y Llenor. Mae Morris T. Williams, ei gwr, yn amgau cân i'r Llenor. Os na fwriedir ei defnyddio hoffai ei derbyn yn ôl. Dyna'r unig gopi sydd ganddo.

Kate Roberts, Tonypandy,

Mae'n frwdfrydig iawn dros sefydlu cwmnïaeth o lenorion ond bydd yn rhaid gweithredu ar unwaith. Daeth gweledigaeth y Blaid Genedlaethol yn rhy ddiweddar ac y mae Cymru'n anobeithiol. Llenorion cyfoes Cymru yw llenorion olaf Cymru ac felly dylent gael tipyn o hwyl yng nghwmni ei gilydd. Bu R. Williams Parry yn poeni'n arw wrth feddwl y gellid cyfrif Crwys yn well bardd nag ef ymhen can mlynedd. Mae Kate Roberts yn fodlon trefnu'r cyfarfod cyntaf. Bydd amser Eisteddfod Castell-nedd yn hwylus i bawb ond G. J. Williams. Bydd ef yn brysur gyda'r Bwrdd Canol. Awgrymu cwrdd mewn tafarn yn Aberdulais. Gwahodd W. J. Gruffydd i fyny i Donypandy yn yr wythnosau dilynol - byddant yn codi tatws o'u gardd y pryd hwnnw. Nid oes rhaid gofyn i Morris T. Williams, ei gwr, i fod yn aelod o'r cwmni yn unig am ei fod yn wr iddi. Maent yn gallu trafod eu beiau llenyddol yn agored. Mae gan Morris T. Williams drwyn iawn at lenyddiaeth. Nid yw hi'n cytuno ag W. J. Gruffydd fod O Gors y Bryniau yn well na Rhigolau Bywyd. Mae arni gywilydd o ddull plentynnaidd rhai o storïau O Gors y Bryniau.

Kate Roberts, Dinbych,

Diolch iddo am ei adolygiad ar [Traed mewn Cyffion] yn Y Llenor [cyf. XV (1936), tt. 123-7]. Mae'n falch fod un, o leiaf, wedi deall ei hamcan wrth ysgrifennu'r nofel. Mae'n ymwybodol fod y cynfas yn rhy fychan ond yr oedd yn well ganddi neidio dros flynyddoedd na chrynhoi. Yr oedd dau reswm dros ei hanfon i'r Eisteddfod - gosod amser penodedig i'w gorffen a'r wobr ariannol. Cafodd ei thwyllo o hanner hwnnw. £50 oedd y wobr gyfan ac nid £100 fel y dywedodd T. J. Morgan [mewn adolygiad ar y gwaith arall Creigiau Milgwyn gan Grace Wynne Griffith]. 'Suntur a Chlai' oedd ei theitl cyntaf. Mae'n nodi'r anawsterau yr oedd ynddynt wrth ysgrifennu'r gwaith a bu'n rhaid ei chyhoeddi fel ag yr oedd er mwyn cadw'r pris yn hanner coron. Mae'n bwriadu ei gorffen rywdro drwy ddilyn helyntion William yn y De. Amddiffyn ei hunan rhag beirniadaeth yngl?n â diffyg digrifwch y llyfr. Arddull awduron Ffrengig a'r modd yr ysgrifennwyd 'Buddugoliaeth Alaw Jim'. Mae'n bwriadu ysgrifennu stori arall i'r Llenor ond bu'n rhy brysur oddi ar iddi ddod i Ddinbych. Mae ganddi chwe stori ar gyfer ei chyfrol nesaf. Mae'n amgau torion o'r Genedl gan 'Caswallon' a 'Cymro' sy'n cyfeirio at gystadleuaeth y nofel yn Eisteddfod Castell-nedd. Maent wedi prynu Gwasg Gee. Busnes digalon iawn yw cyhoeddi llyfrau Cymraeg. Sefyllfa druenus Cymru. Mae pawb bron yn Ninbych yn deall Cymraeg ond bod y bobl ifanc yn mynnu siarad Saesneg. Cymraeg yw iaith yr ardaloedd gwledig o gwmpas. Mae Dinbych yn lle braf i fyw ynddo. Bwydydd ffres. Dim ond taith deng munud sydd yna at fedd 'Twm o'r Nant' ac nid yw Maes-y-plwm ymhell ychwaith. Falch o glywed yr hyn a ddywedodd W. J. Gruffydd am Hatter's Castle. Mae'n amlwg o ddarllen Three Loves fod yr awdur yn seilio datblygiad y nofel ar ystyfnigrwydd ei brif gymeriad. Canmol gwroldeb W. J. Gruffydd ym Mhwllheli. Yr unig beth sy'n ei chadw rhag rhoi'r cwbl i fyny yngl?n â Chymru yw gweld ysbryd di-droi'n ôl pobl fel W. J. Gruffydd a Saunders Lewis. Torion papur newydd o'r Genedl.

Results 181 to 200 of 982