Showing 4 results

Archival description
Golwg (cylchgrawn)
Print preview View:

Gohebiaeth at Dic Jones ac at/oddi wrth Siân Jones

Llythyrau a chardiau, 1976-2012, at Dic Jones a'i wraig Siân, sy'n cynnwys: llythyr yn hysbysu Dic ei fod wedi ennill Cadair Eisteddfod Llanbedr-Pont-Steffan 1997; cyfarchion penblwydd i Dic yn 70 (gan gynnwys un cerdyn oddi wrth Siân); llythyr oddi wrth y newyddiadurwr a'r llenor Dylan Iorwerth yn diolch i Dic am ei wasanaeth i'r cylchgrawn Golwg (yn cynnwys englyn); cyfarchion ar ethol Dic Jones yn Archdderwydd yn 2007; dymuniadau am wellhad buan yn ystod gwaeledd olaf Dic, 2009; a neges yn datgan siom na fyddai Dic, oherwydd gwaeledd, yn medru mynychu Eisteddfod Genedlaethol y Bala 2009. Ceir hefyd llythyr a cherdyn o gydymdeimlad at Mary, chwaer Dic, ar farwolaeth ei brawd, y llythyr oddi wrth y bardd a'r academydd Peredur Lynch (yn cynnwys hir-a-thoddeidiau). Ymysg y gohebwyr y mae'r Prifardd Idris ac Elsie Reynolds (yn cynnwys englynion), y Prifardd a'r llenor T. Llew Jones a'i fab Iolo Ceredig Jones (yn cynnwys englyn) a'r Prifardd Ceri Wyn Jones. Ynghyd â chylchlythyr oddi wrth Siân ar ran Ffederasiwn Prydain Fawr & Iwerddon o gymdeithas y Soroptomists Rhyngwladol a thoriad o'r Tivyside Advertiser, 11 Rhagfyr 2012, yn cynnwys llythyr oddi wrth Siân ynghylch y llygredd sŵn a gynhyrchwyd gan awyrennau drôn yn y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Aberporth.

Erthyglau gan Dic Jones

Erthyglau teipysgrif annyddiedig gan Dic Jones, yn ôl pob tebyg ar gyfer y cylchgrawn Golwg, i'r hwn y bu'n cyfrannu dros gyfnod o sawl blwyddyn. Mae'r erthygl sy'n dwyn y teitl 'Parch i'r Arch.' wedi'i lunio'n gyfan gwbl mewn cynghanedd.

Erthyglau gan Dic Jones

Erthyglau teipysgrif annyddiedig gan Dic Jones, yn ôl pob tebyg ar gyfer y cylchgrawn Golwg, i'r hwn y bu'n cyfrannu dros gyfnod o sawl blwyddyn. Oddi mewn i glawr ôl y ffolder frown ceir rhestr mynegai o destunau'r erthyglau. Oddi mewn i glawr blaen y ffolder frown ceir enw a chyfeiriad Josef Kramer, carcharor rhyfel a ddaeth i fyw a gweithio ar fferm yr Hendre, fferm deuluol Dic, yn ystod y 1940au (gweler dan y pennawd Dalen a Dail o fewn is-archif Papurau Idris Reynolds (Dic Jones), hefyd gweler Dic Jones: Os Hoffech Wybod ... a chofio Dic (Gwasg Gwynedd, 2010), tt. 145-8 ac Idris Reynolds: Cofio Dic: darn o'r haul draw yn rhywle (Gwasg Gomer, 2016), tt. 165-7).