Showing 3 results

Archival description
Reynolds, Idris, 1942-
Print preview View:

Gohebiaeth at Dic Jones ac at/oddi wrth Siân Jones

Llythyrau a chardiau, 1976-2012, at Dic Jones a'i wraig Siân, sy'n cynnwys: llythyr yn hysbysu Dic ei fod wedi ennill Cadair Eisteddfod Llanbedr-Pont-Steffan 1997; cyfarchion penblwydd i Dic yn 70 (gan gynnwys un cerdyn oddi wrth Siân); llythyr oddi wrth y newyddiadurwr a'r llenor Dylan Iorwerth yn diolch i Dic am ei wasanaeth i'r cylchgrawn Golwg (yn cynnwys englyn); cyfarchion ar ethol Dic Jones yn Archdderwydd yn 2007; dymuniadau am wellhad buan yn ystod gwaeledd olaf Dic, 2009; a neges yn datgan siom na fyddai Dic, oherwydd gwaeledd, yn medru mynychu Eisteddfod Genedlaethol y Bala 2009. Ceir hefyd llythyr a cherdyn o gydymdeimlad at Mary, chwaer Dic, ar farwolaeth ei brawd, y llythyr oddi wrth y bardd a'r academydd Peredur Lynch (yn cynnwys hir-a-thoddeidiau). Ymysg y gohebwyr y mae'r Prifardd Idris ac Elsie Reynolds (yn cynnwys englynion), y Prifardd a'r llenor T. Llew Jones a'i fab Iolo Ceredig Jones (yn cynnwys englyn) a'r Prifardd Ceri Wyn Jones. Ynghyd â chylchlythyr oddi wrth Siân ar ran Ffederasiwn Prydain Fawr & Iwerddon o gymdeithas y Soroptomists Rhyngwladol a thoriad o'r Tivyside Advertiser, 11 Rhagfyr 2012, yn cynnwys llythyr oddi wrth Siân ynghylch y llygredd sŵn a gynhyrchwyd gan awyrennau drôn yn y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Aberporth.

Papurau Idris Reynolds (Dic Jones)

Papurau'r Prifardd Idris Reynolds, sy'n cynnwys deunydd gan neu'n ymwneud â Dic Jones, gan gynnwys: deunydd yn ymwneud â'r cyfrolau Yr Un Hwyl a'r Un Wylo: Cerddi Gwlad Dic Jones (Gwasg Y Lolfa, 2011), a olygwyd gan Elsie Reynolds, gwraig Idris, a Cofio Dic: Darn o'r haul draw yn rhywle ... (Gwasg Gomer, 2016) gan Idris Reynolds; cyfres o erthyglau gan Dic Jones; deunydd yn ymwneud â rhaglenni teledu a radio y bu Dic Jones yn rhan ohonynt; ysgrifau coffa a rhai o'r llu teyrngedau i Dic Jones a gyhoeddwyd yn dilyn ei farwolaeth; a deunydd amrywiol yn ymwneud yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol â Dic Jones.

Cerddi i Dic Jones

Cerddi a ysgrifenwyd i Dic Jones gan, ymysg eraill, y Prifeirdd Idris Reynolds, Gerallt Lloyd Owen a Ceri Wyn Jones. Yn gynwysedig ceir addasiad o un o gerddi Ceri Wyn Jones, 'Deryn Du yr Hendre', a gomisiynwyd ar gyfer Côr Unebol Ar Ôl Tri (y gerddoraeth gan Gareth Glyn), ac englynion gan Pat (Neill) ar achlysur Dic Jones yn ennill gradd MA er anrhydedd oddi wrth Prifysgol Cymru. Arysgrifir tudalen flaen y copi cerddoriaeth i Siân, gweddw Dic Jones, gan Ceri Wyn Jones.