Dangos 2 canlyniad

Disgrifiad archifol
Reynolds, Elsie, Dr
Rhagolwg argraffu Gweld:

Gohebiaeth at Dic Jones ac at/oddi wrth Siân Jones

Llythyrau a chardiau, 1976-2012, at Dic Jones a'i wraig Siân, sy'n cynnwys: llythyr yn hysbysu Dic ei fod wedi ennill Cadair Eisteddfod Llanbedr-Pont-Steffan 1997; cyfarchion penblwydd i Dic yn 70 (gan gynnwys un cerdyn oddi wrth Siân); llythyr oddi wrth y newyddiadurwr a'r llenor Dylan Iorwerth yn diolch i Dic am ei wasanaeth i'r cylchgrawn Golwg (yn cynnwys englyn); cyfarchion ar ethol Dic Jones yn Archdderwydd yn 2007; dymuniadau am wellhad buan yn ystod gwaeledd olaf Dic, 2009; a neges yn datgan siom na fyddai Dic, oherwydd gwaeledd, yn medru mynychu Eisteddfod Genedlaethol y Bala 2009. Ceir hefyd llythyr a cherdyn o gydymdeimlad at Mary, chwaer Dic, ar farwolaeth ei brawd, y llythyr oddi wrth y bardd a'r academydd Peredur Lynch (yn cynnwys hir-a-thoddeidiau). Ymysg y gohebwyr y mae'r Prifardd Idris ac Elsie Reynolds (yn cynnwys englynion), y Prifardd a'r llenor T. Llew Jones a'i fab Iolo Ceredig Jones (yn cynnwys englyn) a'r Prifardd Ceri Wyn Jones. Ynghyd â chylchlythyr oddi wrth Siân ar ran Ffederasiwn Prydain Fawr & Iwerddon o gymdeithas y Soroptomists Rhyngwladol a thoriad o'r Tivyside Advertiser, 11 Rhagfyr 2012, yn cynnwys llythyr oddi wrth Siân ynghylch y llygredd sŵn a gynhyrchwyd gan awyrennau drôn yn y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Aberporth.

Yr Un Hwyl a'r Un Wylo: Cerddi Gwlad Dic Jones (Gwasg Y Lolfa, 2011)

Deunydd yn ymwneud â chais Idris a'i wraig Elsie Reynolds am gerddi gan Dic Jones na chawsant hyd yno eu cyhoeddi, sy'n cynnwys torion o lythyrau a anfonwyd i'r wasg gan Idris ac Elsie Reynolds yn holi darllenwyr am gerddi Dic Jones oedd yn eu meddiant, ynghyd â gohebiaeth ymatebol gan ddarllenwyr y wasg yn amgáu cerddi gan Dic Jones, y rhan helaeth o'r rhain yn englynion a luniodd Dic i aelodau teulu a chyfeillion y darllenwyr hynny; hefyd cerddi gan Dic Jones nas amgaewyd gyda gohebiaeth. Cyfunwyd detholiad o'r cerddi hyn mewn cyfrol o'r enw Yr Un Hwyl a'r Un Wylo: Cerddi Gwlad Dic Jones, a olygwyd gan Elsie Reynolds ac a gyhoeddwyd gan Wasg Y Lolfa yn 2011 (gweler, er enghraifft: https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781848514508/yr-un-hwyl-ar-un-wylo). Mae un cyfres o gerddi, a gedwir mewn amlen wedi'i nodi, yn cynnwys arnodiadau a rhifau'r dalennau yn llaw Dic Jones.