Showing 3 results

Archival description
Papurau Mary Silyn Roberts (Archif Menywod Cymru) = Mary Silyn Roberts Papers (Women's Archive of Wales) Parry, Evan, physician, London and Brisbane
Print preview View:

Gohebiaeth rhwng Mary a Robert (Silyn) Roberts = Correspondence between Mary and Robert (Silyn) Roberts

Llythyr, 22 Medi 1897, at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth Mary Parry (wedyn Mary Silyn Roberts), Balmoral House, Neuadd Alexandra, Aberystwyth, lle 'roedd Mary (yn ugain oed) yn lletya tra'n darlithio ym Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Cyfeiria at ei bywyd a'i gwaith yn Aberystwyth; at ei hewyrth, y Parchedig John Williams, Corwen [arnod yn llaw Mary Silyn Roberts: 'Rev. J. Wms Corwen'], a'i wraig, a fu'n gwmni iddi hyd Amwythig; at Tom, ei chefnder; ac yn gresynu nad oes cyfle ganddi ar hyn o bryd i gyfarfod â Silyn, ac y byddai'n well ganddi na fyddai ef yn dod i Aberystwyth i'w gweld. = Letter, 22 September 1897, to Robert (Silyn) Roberts from Mary Parry (afterwards Mary Silyn Roberts), Balmoral House, Alexandra Hall, Aberystwyth, where Mary (aged twenty) was staying while lecturing at Aberystwyth University. References to her life and work in Aberystwyth; to her uncle, the Reverend John Williams, Corwen [annotation in Mary Silyn Roberts' hand: 'Rev. J. Wms Corwen'], and his wife, who accompanied her on her journey as far as Shrewsbury; to her cousin Tom; and regrets that she has no opportunity to meet up with Silyn for a while, and that it would be best if he didn't visit her at Aberystwyth.

Llythyr, 14 Mai 1899, at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth Mary Parry (wedyn Mary Silyn Roberts), Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn cyfeirio at nodiadau llenyddol a fenthycwyd iddi gan Silyn, at iechyd Silyn, ac at ei ddewisiadau gyrfäol yn ôl capeli a cholegau; yn poeni am iechyd meddwl un 'R. C. Allen'; cyfeiriad at fynychu darlith dan ofal yr Athro Syr Edward Anwyl (1866-1914) ac at ei gwaith academaidd; ei dymuniad i ddysgu chwarae tennis; cyfeiriad at ei brodyr, Evan a Henry, yn arbennig beth a ddylai cam nesaf Evan fod o ran astudiaeth a gyrfa. Arnodiad yn llaw Mary Silyn Roberts. = Letter, 14 May 1899, to Robert (Silyn) Roberts from Mary Parry (afterwards Mary Silyn Roberts), University College of Wales, Aberystwyth. References to literary notes lent her by Silyn, to Silyn's health, and to his career choices in terms of chapels and colleges; her concern for the mental health of one 'R. C. Allen'; her attendance at a lecture given by Professor Sir Edward Anwyl (1866-1914), and her academic work; her wish to learn to play tennis; mentions her brothers, Evan and Henry, with particular reference to Evan's study and career options. Annotation in the hand of Mary Silyn Roberts.

Dau gopi o lythyr, 15 Chwefror 1925, a ysgrifennwyd gan Robert (Silyn) Roberts at ei wraig Mary Silyn Roberts. Cyfeirir at gynhadledd [?Cymdeithas Addysg y Gweithwyr] y bu Silyn yn rhan ohoni ym Mae Colwyn, a sut y ffurfiwyd pwyllgor yno i greu cangen Gogledd Cymru o'r Gymdeithas yn rhanbarth annibynnol, gyda Silyn yn ysgrifennydd iddo. Awgryma geiriau clo Silyn nad oedd Mary wedi bod yn dda yn ddiweddar. Ceir mân wahaniaethau rhwng y ddau gopi, ond mae hanfod y llythyr yn aros yr un fath. Gweler hefyd Gohebiaeth rhwng Swyddfa Ranbarthol Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, Bangor a Choleg Harlech = Two copies of a letter, 15 February 1925, written by Robert (Silyn) Roberts to his wife Mary Silyn Roberts, referencing a [?Workers' Educational Association] conference in which he took part, and the formation there of a committee to establish the North Wales branch of the WEA as an independent district, with Silyn as its secretary. Silyn's closing words suggest that Mary had recently been unwell. There are some minor differences between the two copies, but the essence of their contents remains the same. See also Correspondence between the Workers' Educational Association District Office, Bangor and Coleg Harlech.

Nodiadau ynghylch gwaith gweinyddol Cymdeithas Addysg y Gweithwyr ysgrifennwyd, 1 Gorffennaf 1930, gan Mary Silyn Roberts at ei gŵr Robert (Silyn) Roberts ar gyfer ei ddychweliad o daith i Rwsia, tra 'roedd hithau ar fîn cychwyn ar daith i Ddenmarc, ynghyd â chyfeiriadau Mary Silyn Roberts tra byddai'n aros yn Nenmarc. Bu farw Silyn ar y 15fed o Awst y flwyddyn honno. Gweler hefyd Gohebiaeth rhwng Swyddfa Ranbarthol Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, Bangor a Choleg Harlech = Notes regarding administrative work relating to the Workers' Educational Association (WEA) written, 1 July 1930, by Mary Silyn Roberts to her husband Robert (Silyn) Roberts, to be read on his return from a visit to Russia, while she was about to depart for a visit to Denmark, together with a note of Mary Silyn Roberts' addresses during her stay in Denmark. Silyn died on 15th August of that year. See also Correspondence between the Workers' Educational Association District Office, Bangor and Coleg Harlech.

Llythyr at Mary Silyn Roberts oddi wrth M. Samuel = Letter to Mary Silyn Roberts from M. Samuel

Llythyr, 6 Ionawr 1911, at Mary Silyn Roberts oddi wrth M. Samuel, Dulacca, Queensland, Awstralia, yn sôn am ei thaith i Awstralia ac am ei bywyd a'i gwaith yno wedi iddi gyrraedd; cyfeiriad hefyd at fethu cael hyd i Evan, brawd Mary Silyn Roberts, a oedd yn feddyg yn Brisbane ac a fu farw'n naw ar hugain oed. = Letter, 6 January 1911, to Mary Silyn Roberts from M. Samuel, Dulacca, Queensland, Australia, referring to her voyage to Australia and to her life and work on arrival there; also a reference to failing to meet up with Evan, brother of Mary Silyn Roberts, who was a doctor in Brisbane and who died aged twenty-nine.

Llythyr at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth Evan Parry = Letter to Robert (Silyn) Roberts from Evan Parry

Llythyr, 12 Ebrill 1908, at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth Evan, brawd Mary Silyn Roberts, Eardley Crescent, Llundain, yn cynghori Mary i symud i leoliad mwy iachus cyn geni ei phlentyn disgwyliedig oherwydd problemau efo'r draeniau yng nghartref Silyn a Mary; ceir cyfeiriadau hefyd at ei waith meddygol Evan Parry yn Llundain, a'i gynlluniau i ymfudo i Awstralia. = Letter, 12 April 1908, to Robert (Silyn) Roberts from Evan, brother of Mary Silyn Roberts, Eardley Crescent, London, advising Mary, due to problems with the drains at Silyn and Mary's home, to relocate to a healthier environment prior to the birth of her expected child; references also to Evan Parry's medical work in London and his plans to emigrate to Australia.