Papurau Eurion John a Gruffudd Parry
- A7/2
- Ffeil
- 1982
Rhan oPapurau Mathonwy Hughes
Cerddi ‘Canhwyllau’r Pasg’ a ‘Drws Gobaith’ gan Eurion John, ynghyd â llythyr oddi wrtho, 1982. Ceir hefyd waith gan Gruffudd Parry.
Papurau Eurion John a Gruffudd Parry
Rhan oPapurau Mathonwy Hughes
Cerddi ‘Canhwyllau’r Pasg’ a ‘Drws Gobaith’ gan Eurion John, ynghyd â llythyr oddi wrtho, 1982. Ceir hefyd waith gan Gruffudd Parry.
Llythyr oddi wrth Syr Thomas Parry at Gwladys Llewellyn
Rhan oPapurau Waldo Williams
Llungopi o lythyr, 2 Mehefin 1943, oddi wrth yr ysgolhaig Cymreig Syr Thomas Parry at Gwladys Llewellyn, Rhosaeron, Clunderwen yn holi ar ran ei frawd, Gruffudd Parry, ynglŷn â phrynu torch ar gyfer angladd Linda Williams (née Llewellyn), gwraig Waldo Williams. 'Roedd Gruffudd Parry a Waldo yn gyd-athrawon yn Ysgol Ramadeg Botwnnog pan fu farw Linda o'r ddarfodedigaeth ar y cyntaf o Fehefin 1943.
Rhan oPapurau Waldo Williams
Deunydd yn ymwneud â digwyddiadau Gŵyl Waldo, a drefnwyd gan yr Academi Gymreig, sy'n cynnwys darlith gan yr ysgolhaig Cymraeg Dr R. Geraint Gruffydd, taith lenyddol yng nghwmni'r bardd a'r athro Jâms (James) Nicholas, a chyfraniadau gan amryw feirdd a llenorion megis T. Llew Jones, Gruffudd Parry, T. James Jones ac eraill.
Gwahoddiad i ddrama'r geni Ysgol Botwnnog
Rhan oPapurau Waldo Williams
Cerdyn gwahoddiad (di-ddyddiad) i ddrama'r geni Ysgol Ramadeg Botwnnog, lle bu Waldo Williams yn dysgu o 1942 hyd 1944. Ar gefn y cerdyn ceir enw 'Gruff [Gruffudd] Parry', cyd-athro i Waldo ym Motwnnog, ynghyd ag enwau rhai o gast y ddrama ac enw'r gyfeilyddes.