Showing 7 results

Archival description
Cofnodion Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru Hawke, Andrew
Print preview View:

Cofnodion cyfarfod ac agendâu

Cofnodion y Cyfarfodydd Penaethiaid Prosiectau, Ionawr , Chwefror, Ebrill, Gorffennaf, Medi, Hydref, a Rhagfyr 2006; ac agendâu’r Cyfarfodydd Penaethiaid Prosiectau, Chwefror, Ebrill, Mehefin, Gorffennaf, Medi, Hydref, a Rhagfyr 2006. Yn ogystal, ceir copi o Adolygiad o’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ar’ Bwrdd Gwybodau Celtaidd Cyngor y Brifysgol (Mehefin 2006); a llythyrau cysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2006), oddi wrth Andrew Hawke a Vera Bowen.

Argraffiad arbennig ‘Detholion o Waith Lewys Glyn Cothi’ a teyrnged i E.D. Jones

Rhestr o gyfraniadau ariannol i argraffiad arbennig arfaethedig o lyfr E.D. Jones ‘Detholion o Waith Lewys Glyn Cothi’, [1984]; copïau o dorion o’r wasg, a chopi o gylchlythyr ‘Yr Angor’, 1987, yn cofio E.D. Jones, cyn-lyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol Cymru; a gohebiaeth gysylltiedig yn trafod yr argraffiad arbennig, 1983-1984, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Olwen Daniel; B.G. Owens; J. E. Caerwyn Williams; Richard Owen; David Jenkins; Mary Llewelfryn Davies; Andrew Hawke; Siân Teifi a Martin Davies; Ceridwen Lloyd-Morgan; Rheinallt Llwyd; Mary Burdett-Jones; Telfryn Pritchard; Mati Rees; Walford Davies; D. Phillips; ac R. Geraint Gruffydd.

Parti Sieri

Papurau a gohebiaeth yn trafod trefnu Parti Sieri'r Ganolfan, 1985, yn cynnwys slipiau ateb; rhestr o fynychwyr; a llythyrau oddi wrth J. Beverley Smith a Llinos Smith; Gareth Watts; Dafydd Ifans; Russell Davies; Graham Thomas; Mr a Mrs Gwilym Ll. Edwards; Tegwyn Jones; Geraint H. Jenkins; John Fitzgerald; D. J. Bowen; Bobi Jones; Delwyn Phillips; Pat Donovan; Marged Haycock; ac Andrew Hawke.

Ariannu, cynllunio, a lleoli adeilad y Ganolfan

Gohebiaeth a phapurau, 1986-1989, yn ymwneud ag ariannu, cynllunio, a lleoli adeilad y Ganolfan, yn cynnwys llythyrau (1986-1989) oddi wrth Peter Walker AS; Gareth A. Bevan; M.A.R Kemp; R. Geraint Gruffydd; John G. Roberts; Andrew Hawke; J. Bowen; Brynley F. Roberts; David Farmer; Pat Widger; A.R. Jones; D.B. Lloyd; Sarah Fox; A.T. Durbin; Hugh Morgan; Helen Hollis; Glanmor Williams; a P.S. Robinson; a phapurau yn cynnwys memoranda, (1987-1989); Adroddiad y Syrfewyr Meintiau (1989); cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol Prifysgol Cymru (1986); cofnodion cyfarfod Gweithgor Cymynrodd Dr Elwyn Davies (1987); cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Adeiladau Llyfrgell Genedlaethol Cymru (1987); a chynlluniau pensaernïol ([1989]).

Adeilad, chyfleusterau, a phrosiectau'r Ganolfan

Gohebiaeth, 1990-1993, yn ymwneud ag adeilad y Ganolfan, yn trafod gweithgareddau codi arian, gwaith i wella adeilad y Ganolfan a’i chyfleusterau, trefniadau agoriad swyddogol yr adeilad newydd yn Mai 1993, a phrosiectau ymchwil; yn cynnwys llythyrau oddi wrth Geraint H. Jenkins; Eric Thomas; Kenneth Morgan; Elwyn Jones; D.I. George; Andrew Hawke; Emyr Roberts; J. D. Pritchard; T. Gwynfor Griffith; P.S. Robinson; Jan Gendall; R. Geraint Gruffydd; Ralph A. Griffiths; Moosong Goh; Miranda Aldhouse-Green; Glenys Goetinck; a William Gillies.

Datblygiad y Llyfrgell

Gohebiaeth, 1981 a 1983; yn trafod datblygiad llyfrgell y Ganolfan, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Olwen Daniel; Brian Howells; Andrew Hawke; Syr Alun Talfan Davies; Gareth Owen; J.E. Caerwyn Williams; a J. Beverley Smith. Yn ogystal, ceir copi o Adroddiad Blynyddol y Ganolfan 1981-1982 (1982); cofnodion cyfarfod i drafod Apêl Syr Thomas Parry-Williams (1980-1981); a drafft o fynegai catalogio’r Casgliad Celitaidd ([1981]).