Showing 8 results

Archival description
Cofnodion Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru Smith, J. Beverley
Print preview View:

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Agenda, nodiadau’r Cadeirydd, a chofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Medi 1994, yn cynnwys adroddiad blynyddol y Ganolfan, 1993-1994 (1994), ac adroddiad ariannol (1994); a gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1994), oddi wrth J. Beverley Smith; K. Rees; J. D. Pritchard; Lionel Madden; Geraint H. Jenkins; a Gareth Wyn Evans.

Parti Sieri

Papurau a gohebiaeth yn trafod trefnu Parti Sieri'r Ganolfan, 1985, yn cynnwys slipiau ateb; rhestr o fynychwyr; a llythyrau oddi wrth J. Beverley Smith a Llinos Smith; Gareth Watts; Dafydd Ifans; Russell Davies; Graham Thomas; Mr a Mrs Gwilym Ll. Edwards; Tegwyn Jones; Geraint H. Jenkins; John Fitzgerald; D. J. Bowen; Bobi Jones; Delwyn Phillips; Pat Donovan; Marged Haycock; ac Andrew Hawke.

Penodiad y Cyfarwyddwr

Gohebiaeth a phapurau, 1984-1986, y rhan fwyaf yn ymwneud â phenodiad R. Geraint Gruffydd fel Cyfarwyddwr y Ganolfan, cynllun strategol y Ganolfan ‘Planning for the Late 1980s’, materion cyflog, a phwrcasu cyfarpar, yn cynnwys drafftiau o’r cynllun ‘Planning for the Late 1980s’ (1985); memoranda (1984-1985); cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheoli (1985); a llythyrau yn trafod materion gweinyddol (1985), oddi wrth Gareth Wyn Evans; R. Geraint Gruffydd; Morfydd E. Owen; Hywel Wyn Jones; A. T. Durbin; N. W. Hurn; Mary Jones; M. A. R. Kemp; Howard Williams; C. W Sullivan; Llinos Young; Ceri W. Lewis; Olwen Daniel; H. Carter, R. R. Davies, J. Beverley Smith & L. J. Williams; Roy Stephens; J. E. Caerwyn Williams; Glanville Price; a Bobi Jones.

Datblygiad y Llyfrgell

Gohebiaeth, 1981 a 1983; yn trafod datblygiad llyfrgell y Ganolfan, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Olwen Daniel; Brian Howells; Andrew Hawke; Syr Alun Talfan Davies; Gareth Owen; J.E. Caerwyn Williams; a J. Beverley Smith. Yn ogystal, ceir copi o Adroddiad Blynyddol y Ganolfan 1981-1982 (1982); cofnodion cyfarfod i drafod Apêl Syr Thomas Parry-Williams (1980-1981); a drafft o fynegai catalogio’r Casgliad Celitaidd ([1981]).

Adroddiadau ac adolygiadau

Adroddiadau ac adolygiadau yn ymwneud â’r Pwyllgor Grantiau Prifysgolion, yn cynnwys Adroddiad y Gweithgor Astudiaethau Celtaidd [1988]; adroddiad ar y Ganolfan gan yr Adolygiad Astudiaethau Celtaidd Pwyllgor Grantiau’r Prifysgolion [1988]; adolygiad y Pwyllgor ar Astudiaethau Celtaidd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1987); adroddiad o ymweliad y Pwyllgor Grantiau i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1987); adroddiad y Pwyllgor ar yr Adran Hanes Cymreig, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1987); adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Grantiau i’r Pwyllgor Is-gangellorion a Phenaethiaid [1987]; a chopi o’r Cynllun Academaidd i 1990, Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth (1987). Mae’r ohebiaeth (1987-1991), sy'n trafod materion y Pwyllgor Grantiau, yn cynnwys llythyrau oddi wrth R. Geraint Gruffydd; Jeffrey Pritchard; Graeme Davies; Peter Swinnerton-Dyer; Sheila Seekings-Foster; Gareth Wyn Evans; M.A.R. Kemp; Patrick Sims-Williams; Miranda Aldhouse-Green; Norman Hardyman; a J. Beverley Smith.