Showing 12 results

Archival description
Williams, Dilys, 1910- File Welsh
Print preview View:

Amlen wedi'i chyfeirio at Waldo Williams oddi wrth Jâms Nicholas

Amlen wag, marc post cyntaf 23 Hydref 1958, ail farc post 10 Awst 1960, wedi'i chyfeirio at Waldo Williams oddi wrth ei gyfaill, y bardd a'r athro Jâms Nicholas. Ar gefn yr amlen mae arysgrif, yn ôl pob tebyg yn llaw Dilys Williams, chwaer Waldo, yn darllen 'I'W BEIRNIADU?? LLAWYSGRIFEN JAMS [sic] AR YR AMLEN YN DWYN Y CERDDI COFFA'.

Arysgrif carreg fedd John a Mary William

Llungopi o arysgrif carreg fedd John a Mary William, rhieni David (Dafydd neu Dafi) Williams, tad John Edwal Williams, ym mynwent Capel y Bedyddwyr, Llanddewi Felffre, yr arysgrif gwreiddiol yn llaw Dilys Williams, merch John Edwal.

Canmlwyddiant geni Waldo Williams

Gohebiaeth oddi wrth Anna Williams at Albert ac Isobel Lewis yn ymwneud â threfniadau canmlwyddiant geni Waldo Williams yn 2004, sy'n cynnwys manylion am ddigwyddiadau yn Llandysilio, Sir Benfro a chyfeiriadau at aelodau o deulu Waldo. Magwyd Albert Lewis ar aelwyd Rhosaeron, cartref teuluol Waldo, a bu'n was priodas i Waldo.

Gohebiaeth at Dafydd (David/Dai) Williams, nai Waldo Williams (gweler dan bennawd Aelodau eraill teulu Waldo Williams - David Williams), yn amgau manylion ynghylch y digwyddiadau canmlwyddiant yn Llandysilio, sy'n cynnwys rhestr o aelodau o deulu Waldo ac eraill a fyddai'n bresennol a/neu'n cymeryd rhan.

Atgofion am Waldo Williams gan Wynn Vittle, sy'n cynnwys cyfeiriad at Dilys Williams, chwaer Waldo, a fu'n lletya yn nhŷ Benni ac Elsie Lewis, ewythr a modryb Wynn Vittle.

Atgofion am Waldo Williams yn llaw Teifryn Williams, nai Waldo (a brawd i David Williams).

Amserlen digwyddiadau canmlwyddiant geni Waldo Williams.

'Canu Cynnar Waldo'

Llyfr nodiadau yn dwyn yr arysgrif 'Cerddi Cynnar Waldo' a dau nodyn arall (un dyddiedig 10 Mai 1979) yn llaw Dilys Williams, chwaer Waldo, y gyfrol yn cynnwys copïau teg a drafft o Hiraeth (cyfres o dair soned), Yr Hen Le, Efe, Ei Hiraeth Ef ac Er Ei Fwyn (pedair cerdd ar yr un mesur sy'n rhan o un cyfanwaith) a Y Duw Unig (oedd ar un adeg yn rhan o bryddest neu gerdd hir o'r enw Unigrwydd (ceir y teitl hwn ar dudalen ar ei ben ei hun o fewn y gyfrol)) pob un o'r cerddi gan ac yn llaw Waldo Williams.

Cerddi/Beth Yw Cynghanedd?

Llyfr nodiadau yn cynnwys copïau teg o'r cerddi Byd yr Aderyn Bach a Y Ci Coch gan ac yn llaw Waldo Williams, y ddwy gerdd yn ddi-deitl yn y gyfrol hon ac wedi'u harwyddo 'Waldo'; toriad papur newydd (Y Faner, 30 Awst 1939 a 6 Medi 1939) yn cynnwys erthygl yn dwyn y teitl 'Beth yw Cynghanedd?' gan Waldo Williams, ynghyd â rhan o baragraff cyntaf yr erthygl yn llaw Waldo Williams; torion papur newydd (Y Faner, 23 Chwefror 1944 a 18 Tachwedd 1944) yn cynnwys y cerddi Y Plant Marw ac Elw ac Awen gan Waldo Williams; ac englyn gan ac yn llaw Waldo Williams i gyfarch ei gyfaill yr awdur a'r bardd T. Llew Jones wedi iddo ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy 1958, ynghyd â'r nodyn 'Cyfarfod dathlu Llew yn neuadd Pantycelyn Aberystwyth'. Ceir nodyn o'r dyddiad 'Hyd. 20. 1948' [?yn llaw Waldo Williams] ar un dudalen a cheir enw Dilys Williams, chwaer Waldo, a'r nodyn 'Cynghanedd' ar y clawr. Lluniwyd y gerdd Y Plant Marw yn gynnar ym 1944 a'i chyhoeddi yn rhifyn 23 Chwefror 1944 o'r Faner, tra cyhoeddwyd y ddwy soned Elw ac Awen mewn rhifyn mis Tachwedd o'r Faner yr un flwyddyn.

Cystudd olaf Waldo Williams

Atgofion ar ffurf drafft am gystudd olaf Waldo Williams yn llaw 'Dai', sef David Williams, nai Waldo Williams (mab ei frawd, Roger Williams (am Roger Williams, gweler dan Aelodau eraill teulu Waldo Williams)). Ymysg eraill a grybwyllir y mae Dilys Williams, chwaer Waldo, a'i gyfeillion Benni ac Elsie Lewis. Mae'n bosib fod y llawysgrif hon yn perthyn i, neu'n barhad o, Atgofion am Gwladys Llewellyn (gweler dan bennawd Aelodau eraill teulu Waldo Williams - David Williams).

Llythyr oddi wrth Waldo Williams at Dilys Williams

Llungopi o lythyr, [1942], oddi wrth Waldo Williams at ei chwaer Dilys Williams. Crybwyllir yn y llythyr fod Waldo newydd gwblhau ei ddatganiad o wrthwynebiaeth cydwybodol i'r rhyfel ar gyfer ei achos yn y tribiwnlys ar 12 Chwefror 1942, a sonnir hefyd am bryderon Waldo ar ran ei wraig Linda (née Llewellyn), oedd yn poeni y byddai Waldo'n colli ei swydd (fel prifathro Ysgol Casmael, Sir Benfro) o ganlyniad i'w ddaliadau heddychol.

Llythyrau at Waldo Williams oddi wrth David Williams

Llythyrau, 10 Mawrth [1960] a 5 Chwefror 1961, at Waldo Williams oddi wrth ei nai, David Williams, tra 'roedd yr olaf yn cyflawni gwasanaeth milwrol fel fferyllydd mewn gwersylloedd ym Malaysia. Yn y llythyr cyntaf cyfeirir at fywyd bob dydd David Williams yn y gwersyll milwrol yn Kuala Lumpur, ynghyd â'r bwriad i'w symud i wersyll yn Taiping; cyfeirir hefyd at Jim a Winnie Kilroy, sef y Crynwyr y bu Waldo'n lletya gyda hwy ers hanner cyntaf y 1950au, yn symud o'u ffermdy i dŷ cyngor yn Johnston, Sir Benfro, digwyddiad a'i gwnaeth yn ofynnol i Waldo chwilio am lety newydd. Mae'r ail lythyr yn sôn yn bennaf am fywyd David Williams yn y gwersyll milwrol yn Taiping, ynghyd â sylwadau am ŵyliau gwahanol grefyddau'r wlad; ceir hefyd gyfeiriadau at "Anti Dil" (Dilys Williams, chwaer Waldo Williams a modryb David Williams), ac at [The] Old Farm House [sic], cyfieithiad Waldo Williams o Hen Dŷ Fferm gan D. J. Williams a gyhoeddwyd ym 1961.

William Williams (Gwilamus)

Dyddiadur a llawlyfr y Bedyddwyr am 1920, sef dyddiadur olaf William Williams (Gwilamus), brawd John Edwal Williams. Ceir nodyn ar y clawr, o bosib yn llaw Dilys Williams, merch John Edwal a nith Gwilamus, yn datgan 'DYDDIADUR OLAF W. G. WILLIAMS RHOSAERON "Uncle William" Brawd Dad [h.y. John Edwal Williams] dy dadcu di David William[s]' (h.y. David Williams, nai Waldo Williams a gor-nai John Edwal - gweler Aelodau eraill teulu Waldo Williams - David Williams). Mae'r nodiadau yn y dyddiadur yn dirwyn i ben ym mis Ebrill 1920, a bu farw Gwilamus yn y mis Gorffennaf canlynol (gw. Llythyr oddi wrth Nan a Waldo Roberts at Gwladys [Llewellyn] dan bennawd Aelodau eraill teulu Waldo Williams).

Y Baban Diwrnod Oed

Llungopi o gerdd yn dwyn y teitl 'Y Baban Diwrnod Oed'. 'Pethau Waldo' wedi'i nodi yn llaw Dilys Williams, chwaer Waldo Williams, ar ddalen flaen y llungopi.

Ysgol haf Aberystwyth

Llyfr nodiadau yn llaw Waldo Williams yn cynnwys nodiadau ar gyfer ei ysgol haf yn Aberystwyth, Gorffennaf 1958. Ar glawr y gyfrol ceir llofnod Dilys Williams ('A[ngharad] D[ilys] Williams'), chwaer Waldo, ynghyd â'r geiriau 'Cyrsiau' a 'March Amheirchion', eto yn llaw Dilys Williams.

Copïau teipysgrif o gerddi yn dwyn y teitlau 'March Amheirchion' a 'Swyddogion yn llys Hywel Dda'. Mae arysgrifau ar y dalennau yn llaw Dilys Williams, chwaer Waldo, yn datgan mai ffrwyth llafur aelodau ysgol haf Waldo Williams, a gynhaliwyd yn neuadd Pantycelyn, Prifysgol Cymru Aberystwyth yn y 1950au, yw'r cerddi.