Showing 1 results

Archival description
Cofnodion Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn Nant Gwrtheyrn National Language Centre -- Records and correspondence
Print preview View:

Cofnodion Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

  • GB 0210 NANTGWRTH
  • Fonds
  • [1974]-[2010]

Gohebiaeth a phapurau, 1891; 1972-2015, yn ymwneud â sefydlu Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, a datblygu gwasanaethau y Ganolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn. Mae’r casgliad yn cynnwys gohebiaeth yr Ymddiriedolwyr, cyfreithwyr, staff, fasnachwyr, dysgwyr, a sefydliadau cysylltiedig eraill, a phapurau cysylltiedig, yn ymwneud â materion ariannol (1978-1994); cofnodion cyfarfod Bwrdd yr Ymddiriedolaeth a phwyllgorau amrywiol yn ymwneud â’r Nant (1980-1992; 1994-2003); cyflogaeth a gwirfoddoli (1980-1993; 1997-2013); marchnata a hysbysebu gweithgareddau, cyrsiau, a chyfleusterau y Ganolfan (1980-1992; 1997-2003); datblygu gwasanaethau y Ganolfan (1972-1997; 2002-2008); a phryniant a gwerthiant Plas Pistyll, ac ymgyfreitha cysylltiedig (1978-1995).

Nant Gwrtheyrn National Language Centre