Showing 3 results

Archival description
Owen, Gerallt Lloyd, 1944-2014
Print preview View:

Brychan dir

Drafftiau llawysgrif a theipysgrif o'i nofel gyntaf, adolygiadau o'r nofel a gyhoeddwyd yn 1993, ynghyd â llyfr lloffion, 1985-1988, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Gerallt Lloyd Owen ar ran Gwasg Gwynedd. Ceir llythyrau oddi wrth ddarllenwyr yn ei llongyfarch ar ysgrifennu'r nofel, adolygiadau o gylchgronau ac anerchiadau i gymdeithasau ar gefndir hanesyddol a daearyddol y nofel a nodiadau ar gyfer cyfweliad radio.

Cerddi i Dic Jones

Cerddi a ysgrifenwyd i Dic Jones gan, ymysg eraill, y Prifeirdd Idris Reynolds, Gerallt Lloyd Owen a Ceri Wyn Jones. Yn gynwysedig ceir addasiad o un o gerddi Ceri Wyn Jones, 'Deryn Du yr Hendre', a gomisiynwyd ar gyfer Côr Unebol Ar Ôl Tri (y gerddoraeth gan Gareth Glyn), ac englynion gan Pat (Neill) ar achlysur Dic Jones yn ennill gradd MA er anrhydedd oddi wrth Prifysgol Cymru. Arysgrifir tudalen flaen y copi cerddoriaeth i Siân, gweddw Dic Jones, gan Ceri Wyn Jones.

Deunydd amrywiol

Deunydd amrywiol nad sy'n ymddangos yn uniongyrchol gysylltiedig â Dic Jones ond a fu, yn ôl pob tebyg, yn ei feddiant neu ym meddiant ei deulu, gan gynnwys: rhaglen o weithgareddau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Ceredigion 2010 a rhaglen gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr 2014; rhifynnau o bapurau bro Clebran, Awst 2004, Y Gambo, Rhagfyr 2007 a Chwefror 2009 (croesair yr olaf wedi'i gwblhau, ?o bosib yn llaw Dic Jones), a Y Barcud, Hydref 2009; toriad papur newydd yn cynnwys teyrnged i Gerallt Lloyd Owen (Y Cymro, 18 Gorffennaf 2014); ffotograff priodasol, 1956, yn dangos cwpwl nas enwir; a rhaglenni trefn gwasanaethau angladdol Ray Gravell, 2007, a'r ffotograffydd Ron Davies, 6 Tachwedd 2013.