Showing 4 results

Archival description
Daniel Owen. Owen, Daniel, 1836-1895. Enoc Huws. File
Advanced search options
Print preview View:

Profedigaethau Enoc Huws III

Llyfr nodiadau yn cynnwys trydedd rhan drafft pensil, [1890x1891], yn llaw Daniel Owen o'i nofel Profedigaethau Enoc Huws (Wrecsam, 1891). Ceir yma ddiwedd pennod XXXIII a'r cyfan o benodau XXXIV-XLVII (wedi eu rhifo yma yn XXI-XXVII ac wyth heb rif). Ysgrifennwyd y testun ar y rectos yn gyntaf (tt. 348-386, 389-442), a'i barhau ar y versos (tt. 443-534, testun â'i wyneb i waered). = A notebook containing the third part of an autograph pencil draft, [1890x1891], by Daniel Owen of his novel Profedigaethau Enoc Huws (Wrexham, 1891). The volume contains the end of chapter XXXIII and chapters XXXIV-XLVII (here numbered XXI-XXVII with a further eight un-numbered). The text begins on the rectos (pp. 348-386, 389-442), and is then continued from the end on the versos (pp. 443-534, inverted text).
Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys englynion i 'Mr Thos. Wynne, Cilcen' ac i 'Meredydd' (t. i, testun â'i wyneb i waered) a phennill (t. 442a, testun â'i wyneb i waered). = The volume also contains englyns to 'Mr Thos. Wynne, Cilcen' and to 'Meredydd' (p. i, inverted text) and a verse (p. 442a, inverted text).

Daniel Owen.

Profedigaethau Enoc Huws I

Llyfr nodiadau yn cynnwys cychwyn drafft pensil, [1886x1890], yn llaw Daniel Owen o'i nofel Profedigaethau Enoc Huws (Wrecsam, 1891). Ceir yma'r Rhagarweiniad a phenodau I-XIX (hyd at waelod t. 114 yn yr argraffiad cyntaf), ond wedi eu trefnu yma yn ddeuddeg pennod yn unig. Ysgrifennwyd y testun ar y rectos yn gyntaf (tt. 1-93), a'i barhau o'r cefn ar y versos (tt. 94-187, testun â'i wyneb i waered). = A notebook containing the beginning of an autograph pencil draft, [1886x1890], by Daniel Owen of his novel Profedigaethau Enoc Huws (Wrexham, 1891). The volume contains the introduction and chapters I-XIX (to the end of p. 114 in the first edition), here arranged as twelve chapters only. The text begins on the rectos (pp. 1-93) and is then continued from the end on the versos (pp. 94-187, inverted text).
Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys barddoniaeth yn llaw Daniel Owen (tt. i, 93a, a thu mewn i'r cloriau (testun â'i wyneb i waered)), a llythyr drafft (f. i, testun â'i wyneb i waered). = The volume also contains poetry in the hand of Daniel Owen (pp. i, 93a, and inside both covers (inverted text)), and a draft letter (p. i, inverted text).

Daniel Owen.

Profedigaethau Enoc Huws II

Llyfr nodiadau yn cynnwys ail ran drafft pensil, [1886x1890], yn llaw Daniel Owen o'i nofel Profedigaethau Enoc Huws (Wrecsam, 1891). Ceir yn y gyfrol y testun o ddiwedd pennod XIX hyd at gychwyn XXXIII (heblaw pennod XXIV), ond wedi eu trefnu yma yn ddeg pennod yn unig (a'u rhifo XII-XXI). Ysgrifennwyd y testun ar y rectos yn gyntaf (tt. 188-277), a'i barhau ar y versos (tt. 278-332, 334-347 (versos yn unig heblaw am t. 346), testun â'i wyneb i waered). = A notebook containing the second part of an autograph pencil draft, [1886x1890], by Daniel Owen of his novel Profedigaethau Enoc Huws (Wrexham, 1891). The volume contains the text from the end of chapter XIX through to the beginning of XXXIII (except for chapter XXIV), here arranged as ten chapters only (numbered XII-XXI). The text begins on the rectos (pp. 188-277), and is then continued from the end on the versos (pp. 278-332, 334-347 (versos only except for p. 346), inverted text).
Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys draft o 'F'ewyrth Hugh', a gyhoeddwyd yn Y Drysorfa, Mai 1888, 171-177, ac a addaswyd wedyn yn bennod XXIV o Enoc Huws (tt. 1-18, testun â'i wyneb i waered); darnau ar grefydd (tt. x-xii, 1, testun â'i wyneb i waered); a barddoniaeth (tt. i, iv-ix a thu mewn i'r cloriau, testun â'i wyneb i waered). = The volume also contains a draft of 'F'ewyrth Hugh', which was published in Y Drysorfa, May 1888, 171-177, before being rewritten as chapter XXIV of Enoc Huws (pp. 1-18, inverted text); fragments on religion (pp. x-xii, 1, inverted text); and poetry (pp. i, iv-ix and inside the covers, inverted text).

Daniel Owen.

Ysgrifau

Llyfr nodiadau yn cynnwys ysgrifau drafft, [1885]-[1886], mewn pensil, gan Daniel Owen. = A notebook containing autograph drafts, [1885]-[1886], in pencil, of prose works by Daniel Owen.
Maent yn cynnwys drafftiau cynnar o'r Rhagarweiniad (ff. 57-73, rectos yn unig) a phenodau I-XIV (ff. 74-93, rectos yn unig, 93 verso, 1 verso-65 verso, versos yn unig) o Brofedigaethau Enoc Huws (Wrecsam, 1891); ynghyd â drafftiau o 'Llythyr fy Nghefnder' (ff. 1-17, rectos yn unig) ac 'Yr Ysmygwr' (ff. 32-56, rectos yn unig), a gyhoeddwyd yn Daniel Owen, Y Siswrn (Yr Wyddgrug, 1886); 'Adgofion am Glan Alun' (Y Geninen, 4 (1886), 108-112) (ff. 18-31, rectos yn unig); a 'Diweddar olygydd y Drysorfa' (Y Drysorfa, 56 (1886), 361-369) (ff. 66 verso-92 verso, versos yn unig). Cynhwysir hefyd drafftiau o englynion, yn eu mysg rhannau o'r gerdd 'Oriel' (Y Siswrn (Yr Wyddgrug, 1886), tt. 50-52) (f. i recto-verso, tu mewn i’r cloriau). = These comprise early drafts of the introduction (ff. 57-73, rectos only) and chapters I-XIV (ff. 74-93, rectos only, 93 verso, 1 verso-65 verso, versos only) of Profedigaethau Enoc Huws (Wrexham, 1891); together with drafts of 'Llythyr fy Nghefnder' (ff. 1-17, rectos only) and 'Yr Ysmygwr' (ff. 32-56, rectos only), published in Daniel Owen, Y Siswrn (Mold, 1886); 'Adgofion am Glan Alun' (Y Geninen, 4 (1886), 108-112) (ff. 18-31, rectos only); and 'Diweddar olygydd y Drysorfa' (Y Drysorfa, 56 (1886), 361-369) (ff. 66 verso-92 verso, versos only). Also included are draft englyns, including parts of the poem 'Oriel' (Y Siswrn (Mold, 1886), pp. 50-52) (f. i recto-verso, inside the covers).

Daniel Owen.