Showing 1 results

Archival description
Miscellaneous letters and papers Beasley, Eileen -- Correspondence.
Print preview View:

Papurau Eileen Beasley

Papurau, 1955-1962, fu'n eiddo i Eileen Beasley, Llangennech, ac sy'n ymwneud â'r ymgyrch ganddi hi a'i gŵr Trefor am yr hawl i gael ffurflenni treth oddi wrth Gyngor Dosbarth Gwledig Llanelli yn y Gymraeg. = Papers, 1955-1962, of Eileen Beasley, Llangennech, relating to her and her husband Trefor's campaign for the right to have rate demand notices from Llanelly Rural District Council sent in Welsh.
Mae'r papurau yn cynnwys llythyr at y Beasleys oddi wrth GDG Llanelli, 24 Medi 1955 (f. 27), a llythyr oddi wrth Mrs Beasley at y Cyngor, 9 Tachwedd 1955 (f. 28); copi carbon o lythyr, [?1955], oddi wrth Janette Queillé, Cuingamps [?Guingamp, Llydaw], at GDG Llanelli (f. 29); dwy ffurflen 'Notice of Distress' a gyflwynwyd i'r Beasleys mewn perthynas ag eiddo a atafaelwyd gan y Cyngor, Mawrth 1956, Ionawr 1958 (ff. 30-31); a dau lythyr at Eileen Beasley, Rhagfyr 1961, Ionawr 1962, oddi wrth Saunders Lewis, ynglŷn â'i ymchwil ar gyfer ei ddarlith radio 'Tynged yr Iaith', lle bu'n trafod eu hymgyrch (gw. Saunders Lewis, Tynged yr Iaith (Llundain, [1962]), tt. 27-28) (ff. 32-33). = The papers include letters to the Beasleys from Llanelly RDC, 24 September 1955 (f. 27), and from Mrs Beasley to the Council, 9 November 1955 (f. 28); a carbon copy letter, [?1955], from Janette Queillé, Cuingamps [?Guingamp, Brittany], to Llanelly RDC, (f. 29); two Notices of Distress issued to the Beasleys, relating to property seized by the Council, March 1956, January 1958 (ff. 30-31); and two letters to Eileen Beasley, December 1961, January 1962, from Saunders Lewis, concerning his research for his radio lecture 'Tynged yr Iaith', in which he discussed their campaign (see Saunders Lewis, Tynged yr Iaith (London, [1962]), pp. 27-28) (ff. 32-33).

Beasley, Eileen.