Dangos 2 canlyniad

Disgrifiad archifol
Jones, Iolo Ceredig, 1947-
Rhagolwg argraffu Gweld:

Gohebiaeth at Dic Jones ac at/oddi wrth Siân Jones

Llythyrau a chardiau, 1976-2012, at Dic Jones a'i wraig Siân, sy'n cynnwys: llythyr yn hysbysu Dic ei fod wedi ennill Cadair Eisteddfod Llanbedr-Pont-Steffan 1997; cyfarchion penblwydd i Dic yn 70 (gan gynnwys un cerdyn oddi wrth Siân); llythyr oddi wrth y newyddiadurwr a'r llenor Dylan Iorwerth yn diolch i Dic am ei wasanaeth i'r cylchgrawn Golwg (yn cynnwys englyn); cyfarchion ar ethol Dic Jones yn Archdderwydd yn 2007; dymuniadau am wellhad buan yn ystod gwaeledd olaf Dic, 2009; a neges yn datgan siom na fyddai Dic, oherwydd gwaeledd, yn medru mynychu Eisteddfod Genedlaethol y Bala 2009. Ceir hefyd llythyr a cherdyn o gydymdeimlad at Mary, chwaer Dic, ar farwolaeth ei brawd, y llythyr oddi wrth y bardd a'r academydd Peredur Lynch (yn cynnwys hir-a-thoddeidiau). Ymysg y gohebwyr y mae'r Prifardd Idris ac Elsie Reynolds (yn cynnwys englynion), y Prifardd a'r llenor T. Llew Jones a'i fab Iolo Ceredig Jones (yn cynnwys englyn) a'r Prifardd Ceri Wyn Jones. Ynghyd â chylchlythyr oddi wrth Siân ar ran Ffederasiwn Prydain Fawr & Iwerddon o gymdeithas y Soroptomists Rhyngwladol a thoriad o'r Tivyside Advertiser, 11 Rhagfyr 2012, yn cynnwys llythyr oddi wrth Siân ynghylch y llygredd sŵn a gynhyrchwyd gan awyrennau drôn yn y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Aberporth.

Llawysgrifau ac archifau T. Llew Jones

  • GB 0210 MSLLEW
  • Fonds
  • [?1945]-[2006]

Dyddiaduon y bardd a'r llenor T. Llew Jones, 1957-1999, ynghyd â cherddi ganddo, llythyrau a ysgrifennwyd ato a phapurau amrywiol, [?1945]-[2006]. = Diaries of the poet and author T. Llew Jones, 1957-1999, together with poems written by him, letters written to him and miscellaneous papers, [1945]-[2006].

Jones, T. Llew (Thomas Llew)