Showing 3 results

Archival description
Jenkins, Joseph, 1818-1898 -- Diaries. file
Print preview View:

Dyddiadur

Dyddiadur T. Llew Jones ar gyfer 1979, sy'n cynnwys cofnodion yn ymwneud â'i ddiddordebau a'i fywyd bob dydd, gan gynnwys hanes damwain ffordd a ddigwyddodd i'r awdur a'r anafiadau gafwyd (ff. 17-27 verso, 37 verso, 53 verso), ynghyd â thorion papur newydd perthnasol (ff. 17, 27 verso). = Diary of T. Llew Jones for 1979, giving an account of his daily life and interests, including an account of a road accident suffered by him and the injuries sustained (ff. 17-27 verso, 37 verso, 53 verso), together with related press cuttings (ff. 17, 27 verso).
Cynhwysa'r gyfrol gyfeiriadau at John Alun Jones (passim), Dic Jones (passim), a dyddiaduron Joseph Jenkins (ff. 16, 38-44). = The volume contains references to John Alun Jones (passim), Dic Jones (passim), and the diaries of Joseph Jenkins (f. 16, 38-44).

Dyddiadur

Dyddiadur T. Llew Jones ar gyfer 1981, sy'n cynnwys cofnodion yn ymwneud â'i ddiddordebau a'i fywyd bob dydd, gan gynnwys crynodeb o ddigwyddiadau ar gyfer 1980 (ff. 1 verso-7 verso), ac englynion gan yr awdur (f. 25) a Dic Jones (f. 67). = Diary of T. Llew Jones for 1981, giving an account of his daily life and interests, including a summary of events for 1980 (ff. 1 verso-7 verso), and englynion by the author (f. 25) and Dic Jones (f. 67).
Cynhwysa'r gyfrol gyfeiriadau at Dic Jones (passim), John Alun Jones (passim), llyfr yn seiliedig ar ddyddiaduron Joseph Jenkins (ff. 14, 26-37 verso passim, 60 verso), marwolaeth B. T. Hopkins (ff. 14-16, 21, 77 verso), dathliadau canmlwyddiant geni Dafydd Jones (Isfoel) (ff. 24, 45 verso-46, 51 verso-58), darlithoedd ar Dewi Emrys (ff. 40, 42, 45 verso-47 verso, 70-73 verso, 82 verso-83 verso), ac ympryd Gwynfor Evans (f. 3 verso); ceir hefyd gyfeiriadau at yr ymgyrch losgi tai haf (ff. 3 verso-4, 19 verso, 41, 72), a'r tywydd gwael ym mis Rhagfyr (ff. 105 verso-111 verso). = The volume includes references to Dic Jones (passim), John Alun Jones (passim), a book based on the diaries of Joseph Jenkins (ff. 14, 26-37 verso passim, 60 verso), the death of B. T. Hopkins (ff. 14-16, 21, 77 verso), centenary celebrations of the birth of Dafydd Jones (Isfoel) (ff. 24, 45 verso-46, 51 verso-58), lectures on Dewi Emrys (ff. 40, 42, 45 verso-47 verso, 70-73 verso, 82 verso-83 verso), and Gwynfor Evans's fasting protest (f. 3 verso); also included are references to the holiday homes arson campaign (ff. 3 verso-4, 19 verso, 41, 72), and the poor weather in December (ff. 105 verso-111 verso).

Dyddiadur

Dyddiadur T. Llew Jones ar gyfer 1980, sy'n cynnwys cofnodion yn ymwneud â'i ddiddordebau a'i fywyd bob dydd, gan gynnwys crynodeb o ddigwyddiadau ar gyfer 1979 (ff. 1 verso-3), yn ogystal â barddoniaeth gan yr awdur (ff. 16, 37 verso, 63). = Diary of T. Llew Jones for 1980, giving an account of his daily life and interests, including a summary of events for 1979 (ff. 1 verso-3) and poetry by the author (ff. 16, 37 verso, 63).
Cynhwysa'r gyfrol gyfeiriadau at Dic Jones (passim), John Alun Jones (passim), dyddiaduron Joseph Jenkins (ff. 3, 17, 18 verso, 39), hunangofiant Alun R. Edwards (ff. 11 verso-54 verso passim), Donald Evans (ff. 35 recto-verso, 37), Sarah Jacob, yr ymprydferch (f. 23 verso), ac arferion cefn gwlad Llansawel, gan gynnwys traddodiadau'n gysylltiedig â nos Galan a gyda'r fedwen (f. 5). = The volume includes references to Dic Jones (passim), John Alun Jones (passim), the diaries of Joseph Jenkins (ff. 3, 17, 18 verso, 39), Alun R. Edwards's autobiography (ff. 11 verso-54 verso passim), Donald Evans (ff. 35 recto-verso, 37), Sarah Jacob, the 'Welsh fasting girl' (f. 23 verso), and the folk customs of Llansawel, including traditions associated with the New Year and with the birch tree (f .5).