Showing 2 results

Archival description
Bangor Normal College series
Print preview View:

Llythyrau

Mae'r gyfres hon yn cynnwys y prif rediad o lythyrau gan unigolion amlwg o'r byd academaidd a'r byd gwleidyddol yng Nghymru a Llydaw, yn ogystal รข llythyrau oddi wrth gyn-fyfyrwyr Bebb o'r Coleg Normal a oedd yn gwasanaethu yn y fyddin adeg yr Ail Ryfel Byd, ac oddi wrth aelodau o'i deulu. Mae'r llythyrau yn ymdrin, ymysg pethau eraill, gyda hanes a sefyllfa Llydaw cyn ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd, hanes cynnar Plaid Cymru, Y Coleg Normal, Yr Eisteddfod Genedlaethol, materion enwadol yng Nghymru, cyhoeddiadau Bebb, a phrofiad ei gyn-fyfyrwyr yn yr Ail Ryfel Byd.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Dyddiaduron

Mae'r gyfres yn cynnwys dyddiaduron Ambrose Bebb, yn bennaf o'r cyfnod yr oedd yn byw ym Mangor ac yn ddarlithydd ar staff y Coleg Normal. Mae'r dyddiaduron, yn bennaf, yn cofnodi ei fywyd teuluol, ei waith yn ddarlithydd ac awdur, bywyd y capel, a'i gyfnodau yn Ffrainc a Llydaw, gyda sylwadau ar ddigwyddiadau cyfoes, yr Ail Ryfel Byd, a dyddiau cynnar Plaid Cymru. Ar y cyfan, mae'r cofnodion yn y dyddiaduron yn eithaf llawn, ac eithrio o 1930 hyd 1936. Mae'r dyddiaduron yn rhedeg o Ionawr hyd Ragfyr oni nodir yn wahanol.