Showing 4 results

Archival description
Papurau D. J. Williams, Abergwaun Miles, Pegi, d. 1965
Print preview View:

Amrywiol

Ymhlith y papurau ceir llythyr, 1810, oddi wrth Mary Jones, Garregwen, [Trelech, Sir Gaerfyrddin] at ei mab David P. Jones yn Llundain; marwnad brintiedig, 1818, i Margaret Price, Ty-Llwyd ym mhlwyf Cynwyl Gaeo, gan John Jones o'r un plwyf; cerdyn ffolant wag, [1840]-[1860]; llyfr gwaith ysgol Margaret Williams [chwaer D. J. Williams], 1897, tra yn Ysgol Gynradd Rhydcymerau; telynegion 'Cantre'r Gwaelod' gan 'Murmur y Gragen' a anfonwyd i Eisteddfod Gadeiriol Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, Gwŷl Dewi 1913; beirniadaethau 'Anellydd' [Parch. Arthur S. Thomas] yn Eisteddfod Gadeiriol Ysgol Sir Abergwaun, 1925; englynion gan 'Briallydd' i 'William Lewis, Abermawr', [1925]-[1969]; a 'Presidential address to the National Association of Colliery managers (South Wales Branch)' gan E[mlyn] Miles [?brawd-yng-nghyfraith D. J. Williams], [1957]. Ceir hefyd 'D.J.D: Some Memories of our Life Together', sef atgofion Dr Noëlle Davies o'i bywyd gyda'i gŵr Dr D[avid] J[ames] Davies, [1958] (copi hefyd yn NLW ex 1377).

Davies, Noëlle, 1899-1983

Llythyrau ei chwaer

Llythyrau, 1917-1949, oddi wrth D. J. Williams at ei chwaer Pegi (Margaret Ann) Williams. Fe'u dychwelwyd hwy ato gan Emlyn Miles, ei frawd-yng-nghyfraith, wedi marwolaeth Pegi yn 1965. Y mae'r llythyr cyntaf yn torri'r newyddion trist iddi am farwolaeth eu mam yn Rhagfyr 1916. Ceir hefyd ddau lythyr oddi wrth John Hinds, AS, 1917, at y Parch. John Williams, Llansawel, yn ymwneud â'i rhyddhau hi o'i gwaith, cerdd 'Cân o ffarwel' gan y Parch. John E. Williams, 1916, pan adawodd am yr India i weithio fel nyrs, ac ysgrif goffa iddi, [1965].

Hinds, John, 1862-1928

Personalia

Papurau personol, 1908-1968, gan gynnwys copi, 1910, o dystysgrif geni D. J. Williams, 26 Mehefin 1885, tystysgrifau eraill, 1909-1957, rhaglen, 1957, yn cynnwys anerchiad G. J. Williams yn y seremoni pan gyflwynwyd gradd Doethur mewn Llen er anrhydedd i D. J. Williams, ynghyd â llyfr cofnodi ei wasanaeth fel athro, 1908-1945. Hefyd ceir rhaglenni cyfarfodydd sefydlu gweinidogion gan gynnwys y Parchedigion E. Gwyndaf Evans, 1938, Lewis Valentine, 1947, D. J. Odwyn Jones, 1948, Islwyn Lake, 1963 a Rhydwen Williams, 1966; gwahoddiadau i briodasau; cyhoeddiadau genedigaethau; taflenni angladd, gan gynnwys D. Afan Thomas, 1928, Margaret Ann Miles, 1965 (chwaer D. J. Williams) a'r Parch. William Evans, ['Wil Ifan'], 1968; 'Penillion coffadwriaethol i'r diweddar Mr J[ohn] Evans, Cilycwm' gan 'Gwilym Myrddin' (buddugol yn Eisteddfod Tynewydd, Cilycwm, Ionawr 1934); rhaglenni ciniawau cymdeithasau amrywiol, [1938]-[1967], a rhaglenni cymdeithasau, 1938-1963, y bu'n aelod ohonynt neu'n darlithio iddynt. -- Ceir hefyd bapurau am ei ymweliad â Fienna yn 1923 (Ysgol Haf Hanes) a'r Almaen yn [1930]; cylchlythyrau a dderbyniodd dros gyfnod, [1918]-[1968], yn ymwneud â'i ddiddordebau amrywiol megis adroddiad ar 'The schools of Pembrokeshire and the Education Act, 1944' ac undebau athrawon; ynghyd â deunydd printiedig amrywiol, gan gynnwys rhaglen Medea, 1942, wedi'i llofnodi gan Sybil Thorndike.

Williams, G. J. (Griffith John)