Showing 4 results

Archival description
Papurau D. Tecwyn Lloyd, Lloyd, John, 1886-1970.
Print preview View:

Hanes teulu,

Ymchwil achyddol 'Llinach Llwydiaid Defeity', ynghyd â llythyrau oddi wrth berthnasau yn yr Unol Daleithiau, ac oddi wrth Nesta Wyn Jones; llungopi o ewyllys Siôn Llwyd, Cwmpenanner, 1690, ac adysgrif ohoni; astudiaeth 'Dyriau Diwiol o waith Sion Llwyd (bu f: 1696) Tymawr, Cwmpennanner'; llyfr rhifyddeg ei dad John Lloyd, 1911-1912, a'i dystysgrif priodas, 1913; ynghyd â cherdd goffa brintiedig i Maggie Lloyd [modryb Tecwyn Lloyd], [1906].

Jones, Nesta Wyn.

John Lloyd 1886-1970,

Teyrnged brintiedig y Parch. Robin Williams i dad D. Tecwyn Lloyd (Llandysul, 1970), ynghyd â thaflen ei angladd, 1 Mehefin 1970. Ceir hefyd anerchiad John Lloyd, 'Y Beibl yng ngolau beirniadaeth ddiweddar', ar gyfer cyfarfod misol yn Nwyrain Meirionnydd, mewn llyfr nodiadau, [1927]-[1928], yn llaw ei fab. Ychwanegwyd nodyn cefndirol ganddo yn 1976. Ceir hefyd goeden deulu Teulu Lloydiaid Penybryn yn cynnwys pedair cenhedlaeth o deulu John a Winifred Lloyd.

Williams, Robin, 1923-

Papurau amrywiol,

Ymhlith y papurau ceir copi teipysgrif o'r deyrnged, 1970, a luniwyd gan y Parch. Robin Williams yn dilyn marwolaeth John Lloyd, tad D. Tecwyn Lloyd, a phenillion a luniodd D. Tecwyn Lloyd er cof am Bob Roberts, Tairfelin, [1951].

Papurau amrywiol,

Papurau amrywiol gan gynnwys llungopi o deyrnged i'w dad John Lloyd gan D. Howell Evans, [?1971]; llungopi, 1977, o anerchiad ei ewythr David Lloyd Jones, Hengaeruchaf, 'Trem ar yr Achos yng Nglanrafon', [1950x1958]; rhestr: 'Enwau mannau ym Mhenllyn a nodir yn y Cambrian Register 1795' - plwyfi Llanfor a Llandderfel ganddo; papurau'n ymwneud â chyndeidiau Leslie Roberts, Unol Daleithiau America, a ymfudodd o Caehir, Cwmtirmynach, ynghyd â chopi o Edward Jones, Atgofion am Glan'rafon (Cymdeithas Lyfrau Meirion, 1976) a llythyr oddi wrth Hewlett Johnson, 1955.

Johnson, Hewlett, 1874-1966.