Dangos 4 canlyniad

Disgrifiad archifol
Countryside Council for Wales ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Pwyllgor Gwaith,

Papurau’n ymwneud â gweithgareddau'r Pwyllgor Gwaith, yn cynnwys: ceisiadau am grantiau ymchwil y Gymdeithas, ac adroddiadau a phapurau eraill am brosiectau ymchwil i mewn i blanhigion, adar ac anifeiliaid; gohebiaeth gyda masnachwyr, ac yn arbennig gyda Gwasg Carreg Gwalch am gynhyrchu cyfrolau teithiau; fersiwn drafft o'r holiadur aelodau; rheolau sefydlog Is-Bwyllgorau; llythrau gan swyddogion y Gymdeithas at y Pwyllgor Gwaith ac at aelodau; costau teithio swyddogion y Gymdeithas; taflenni; a thorion o'r wasg am faterion amgylcheddol. Ceir hefyd nifer sylweddol o bapurau'n ymwneud â’r cysylltiad rhwng y Gymdeithas a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, yn cynnwys ceisiadau gan y Gymdeithas am grantiau’r Cyngor, copiau drafft o gynllun datblygu’r Gymdeithas, manylion ariannol am gyhoeddiadau’r Gymdeithas, ac anfonebau a gohebiaeth gysylltiedig, ynghyd â dogfennaeth y Cyngor ynghylch ei pholisi dwyieithrwydd, siarter ar gyfer dehongli amgylchedd a diwylliant Cymru, seminarau a drefnwyd gan neu gyda chymorth y Cyngor, a rhaglen waith ynghylch llwybrau cyhoeddus; yn ogystâl â hyn, y mae papurau’n ymdrin â sefydlu fforwm Cwlwm gan y Cyngor, yn cynnwys cyfansoddiad, agendau a chofnodion cyfarfodydd, nod ac amcanion, llythyrau, a ffurflen gais ymaelodi.

Is-Bwyllgor yr Amgylchedd,

Cofnodion cyfarfodydd Is-Bwyllgor yr Amgylchedd, ynghyd â gohebiaeth rhwng y Gymdeithas a chyrff cyhoeddus (Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn bennaf), mudiadau cyhoeddus, gwleidyddion a gweision sifil. Ymgyrchoedd i ddiogelu amgylchedd cefn gwlad Cymru yw prif bwnc yr ohebiaeth, gyda phwyslais ar effeithiau niweidiol chwareli, y diwydiant olew, ffermydd gwynt a phrosiectau ynni dŵr, yn arbennig mewn Parciau Cenedlaethol. Ceir hefyd gohebiaeth am brosiectau ymchwil a grantiau ymchwil, a phabell amgylcheddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ynghyd â deunydd perthynol yn cynnwys papurau trafod, dogfennau ymgynghorol, taflenni, cylchlythyr y Gymdeithas, a thoriadau o'r wasg.

Pwyllgor Gwaith,

Agendau a chofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith, cofnodion cyfarfodydd blynyddol a chyfarfodydd arbennig, a phapurau eraill ym ymwneud â phob agwedd o weithgareddau'r Pwyllgor Gwaith, yn cynnwys cyfrifon, cyfansoddiad y Gymdeithas, cofnodion yr Is-Bwyllgorau, rheolau sefydlog Is-Bwyllgorau, adroddiadau, canllawiau diogelwch, canllawiau teithiau cerdded, cynllun cydweithrediad trwy gymhorthdal rhwng y Gymdeithas a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, a chofnodion cyfarfod rhwng Cyngor Cefn Gwlad Cymru a mudiadau gwirfoddol Cymraeg eu hiaith, gyda gohebiaeth gysylltiedig rhwng y Gymdeithas a chymdeithasau, masnachwyr, cyrff cyhoeddus a mudiadau eraill, gan gynnwys Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig yn bennaf, ac hefyd swyddogion ac aelodau'r Gymdeithas.

Gohebiaeth,

Gohebiaeth ymysg swyddogion y Gymdeithas, a rhwng y Gymdeithas, cymdeithasau eraill, cyrff a mudiadau cyhoeddus (yn arbennig Cyngor Cefn Gwlad Cymru), masnachwyr, aelodau'r Gymdeithas ac eraill, ynglŷn â gweinyddiaeth y Gymdeithas, cydweithio rhwng grwpiau a chyrff amgylcheddol, cynlluniau Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, cyfarfodydd a seminarau, gwaith ymchil a chyhoeddiadau newydd ym maes byd natur a'r amgylchedd (yn arbennig 'Flora Britannica'), ymgyrchoedd amgylcheddol, nawdd ariannol gan y Gymdeithas ac i'r Gymdeithas, gwasanaethau a allai fod o fudd i'r Gymdeithas, yr iaith Gymraeg a gwaith y Gymdeithas, gweithgareddau cyrff a mudiadau eraill o ddiddordeb i aelodau'r Gymdeithas, llwybrau cyhoeddus, teithiau cerdded, datblygiad arfaethedig llinell trydan, polisi cynllunio yng Nghymru, cau cyfleusterau cyhoeddus gan awdurdodau lleol, ac aelodaeth a nwyddau marchnata'r Gymdeithas, gyda phapurau perthynol yn cynnwys cylchlythyrau, adroddiadau, pecyn gwybodaeth, labeli, ffurflenni, torion o'r wasg, a chofnodion cyfarfod Panel y Gymdeithas ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.